Er Mwyn Yfory (sioe gerdd)
| Enghraifft o: | sioe |
|---|---|
| Awdur | Derec Williams |
| Gwlad | Cymru |
| Cysylltir gyda | Cwmni Theatr Maldwyn |
| Dechreuwyd | 1997 |
| Gwladwriaeth | Cymru |
| Cyfansoddwr | Robat Arwyn |
| Dynodwyr | |
Drama gerdd Gymraeg o waith Derec Williams, Penri Roberts a Robat Arwyn yw Er Mwyn Yfory, a lwyfannwyd gan Gwmni Theatr Meirion yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Meirion a'r Cyffiniau 1997. Cefndir y ddrama yw helyntion Rhyfel y Degwm. Ffurfiwyd y cwmni o ieuenctid yr ardal yn arbennig ar gyfer llwyfannu'r sioe hon, a hynny ar batrwm Cwmni Theatr Maldwyn. Comisiynwyd dau o gyfansoddwyr o Faldwyn, Williams a Roberts i greu'r sioe, ynghyd ag Arwyn o Ruthun. Cyhoeddwyd detholiad o'r caneuon mewn cyfrol o'r un enw ym 1998.[1] Fe’i disgrifiwyd gan Y Faner Newydd fel: “Un o’r pethau mwyaf gwefreiddiol a welwyd ar lwyfan yng Nghymru yn 1997.”[1]
Prif gymeriadau
[golygu | golygu cod]- Robat Ellis - tenant, gŵr gweddw tua 53 oed
- Dafydd Ellis - mab Robat, tua 24 oed
- Lowri Ellis - merch Robat, tua 22 oed
- Edward Owen - tenant tua'r un oed â Robat
- Morgan Owen - mab Edward, cariad Lowri
- Ifan Cadwaladr - ficer lleol
- Rhiannon Cadwaladr - merch Ifan
- John Hughes - stiward y stad
- Ap Mwrog - arwerthwr sydd ag amryw o swyddi eraill
- Llais Thomas Gee
Disgrifiad byr
[golygu | golygu cod]"Darlun o fywyd yng nghefn gwlad Cymru yn chwarter olaf y ganrif ddiwethaf a geir yn y sioe hon. Mewn cyfnod o gyni a chyffro gwleidyddol brywdrodd amaethwyr Cymru yn erbyn gorthrwm yr Eglwys Estron a'i chyfundrefn Seisnig ormesol. A Rhyfel y Degwm yn gefndir iddi, dyma stori am bâr ifanc wedi eu dal ym merw'r cyfnod, a'u brwydr bersonol hwy 'Er Mwyn Yfory'".[1]
Caneuon ddethol
[golygu | golygu cod]- "Y Sgriw"
- "Dilynaf di i ben draw'r byd"
- "Dy garu di o bell"
- "Dallt y gêm"
- "Geiriau gwag"
- "Yfory ddaw"
- "Popeth er dy fwyn"
- "'Run fath a ni"
- "Colli'r cyfan"
- "Yn gaeth i'r cymylau du"
- "Y Gaeaf a ddaeth"
- "Daeth yr awr"
- "Sefwch yn llonydd"
- "Er mwyn yfory"