Mynydd Epynt

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Epynt)
Jump to navigation Jump to search
Cyfesurynnau: 52°07′N 3°31′W / 52.11°N 3.52°W / 52.11; -3.52
Mynydd Epynt

()
Golygfa o Fynydd Epynt, ger Maesmynys.
Cyfieithiad
Iaith Cymraeg
Testun y llun Golygfa o Fynydd Epynt, ger Maesmynys.
Uchder (m) 478
Uchder (tr) 1568
Amlygrwydd (m) 199
Lleoliad rhwng Llanymddyfri a Threfynwy
Map topograffig Landranger 147;
Explorer 188
Cyfesurynnau OS SN961464
Gwlad Cymru
Dosbarthiad Marilyn (mynydd)
Mynydd Epynt is located in Cymru
Mynydd Epynt (Cymru)

Ardal o fryniau canolig eu huchder yn ne Powys yw Mynydd Epynt (anghywir yw'r amrywiad Eppynt a geir weithiau); cyfeiriad grid SN961464. Gorweddant yng nghanol y rhan o ogledd Brycheiniog a adnabyddid fel Cantref Selyf yn yr Oesoedd Canol.

Mae'r enw'n ddiddorol. Daw o'r gair Brythoneg/Cymraeg Cynnar *epo-s 'ceffyl(au)' (sy'n rhoi enw'r dduwies Geltaidd Epona a'r gair Cymraeg ebol)[1] a hynt, a'r ystyr yw '(lle) crwydra ceffylau'.

Gorwedd Mynydd Epynt mewn ardal o ucheldir a amgylchinir gan ffyrdd yr A483 i'r gorllewin, yr A40 i'r de a'r A470 i'r dwyrain, gyda'r conglau'n cael eu dynodi gan Llanymddyfri ac Aberhonddu i'r de a Llanfair-ym-Muallt i'r gogledd.

Mae'r afonydd sy'n tarddu ar ei lethrau yn cynnwys Afon Honddu, Afon Ysgir, a Nant Brân (yn bwydo Afon Wysg) ac Afon Dulas.

Hanes yr ardal[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafodd y mynydd ei feddiannu gan y Swyddfa Ryfel ar gyfer ymarfer saethu ac mae rhannau helaeth o'r bryniau ar gau i'r cyhoedd hyd heddiw. Cyhoeddwyd bwriad y Swyddfa Ryfel i feddiannu Mynydd Epynt yn 1939. Er gwaethaf ymdrechion Undeb Cymru Fydd i warchod yr ardal a rhwystro llywodraeth Prydain, methiant fu. Erbyn mis Mehefin 1940, gwasgarwyd y 400 o Gymry fu'n ffermio ar y mynydd a'r saith cwm o'i amgylch ac roedd 16,000 hectar o Fynydd Epynt wedi'u troi'n faes tanio i'r Fyddin Brydeinig. Fel y noda John Davies: "O ganlyniad i weithred y Swyddfa Ryfel, symudwyd ffin y Gymraeg bymtheg cilomedr i'r gorllewin."[2]

Ganed y Piwritan John Penry yn ffermdy Cefn-brith, ger Llangamarch ar lethrau gogleddol Mynydd Epynt yn y flwyddyn 1563.

Cymreictod yr ardall[golygu | golygu cod y dudalen]

Dros y gamfa bren! Camfa ar y llwybr o Gwm-Llythin i Epynt.

Mae Cymreictod yr ardal, o ganlyniad i'r tir a'r ffermydd a gollwyd a datblygiad coedwigaeth fasnachol gan y Comisiwn Coedwigaeth ar y llethrau isaf, yn arbennig i'r gorllewin yn ardal Tirabad, wedi edwino'n sylweddol erbyn heddiw. Bu cymdeithas Gymraeg gref ym mynydd Epynt tan yn gymharol ddiweddar. Roedd yr ardal yn un o gadarnleoedd y Cymry am ganrifoedd yn wyneb ymosodiadau'r Normaniaid a brenhinoedd Lloegr.

Dosbarthiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn (mynydd). Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[3] Uchder y copa o lefel y môr ydy 478 metr (1568 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 20 Tachwedd 2009.

Copaon[golygu | golygu cod y dudalen]

Pentrefi cyfagos[golygu | golygu cod y dudalen]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolennau allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Geiriadur Prifysgol Cymru
  2. John Davies, Hanes Cymru (Penguin, 1992), tud. 580.
  3. “Database of British and Irish hills”