Eos (asiantaeth hawliau darlledu)

Oddi ar Wicipedia
Eos
Enghraifft o'r canlynolsefydliad Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu27 Tachwedd 2012 Edit this on Wikidata
Ffurf gyfreithiolcwmni preifat sy'n gyfyngedig drwy warant Edit this on Wikidata
PencadlysCymru Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.eos.cymru/ Edit this on Wikidata
Bryn Fôn, un o aelodau bwrdd cyntaf Eos yn 2012

Corff sy'n cynrychioli rhai cannoedd o gyfansoddwyr cerdd Cymraeg yw Eos. Ffurfiwyd gan fod yr aelodau'n anhapus â'r taliadau a gant drwy asiantaeth freindaliadau PRS for Music (Performing Rights Society).[1]

Yn 2007 torrwyd ar y ffioedd i 15% yr oedd gan y PRS, sef oddeutu £110,000. Yn Ionawr 2007 cytunodd y BBC i godi'r ffi i dair gwaith y swm presennol ond gwrthododd Eos gan fynnu eu bont yn talu ffi "blanced".[2] Golyga hyn y byddai taliadau'r BBC yn nes at un filiwn o bunnoedd. Yn 2013 a chynt roedd cerddorion Cymraeg a Chymreig yn derbyn 42c y funud.

Yn ôl Eos mae'r BBC yn rhoi taliad flanced o tua £50 miliwn i PRS. Dywedodd llefarydd hefyd fod y £110,000 a gafodd cerddorion Cymraeg yn llai nag 1% o holl gyllideb Radio Cymru er bod cyfanswm yr amser y chwaraeir cerddoriaeth ar y sianel yn 40%.

Yn 2019 cyhoeddwyd i'r BBC ac Eos arwyddo cytundeb newydd ar gyfer telerau cytundeb ‘blanced’ ar gyfer hawlfreintiau darlledu cerddoriaeth. Roedd y cytundeb i bara am bum mlynedd.[3]

Aelodau Bwrdd cyntaf Eos yn 2012[golygu | golygu cod]

Gwenan Gibbard, telynores ac un o aelodau bwrdd gwreiddiol Eos

Sefydlwyd Eos yn ffurfiol ar 27 Tachwedd 2012 mewn cyfarfod cyffredinol yn Llanidloes. Yno etholwyd bwrdd Eos:[4]

Taliadau[golygu | golygu cod]

Yn 2014 dosbarthodd Eos £163,994 mewn breindaliadau i'r haelodau. Cynyddodd hynny i £223,854 yn 2022.[5]

Cronfa Eos[golygu | golygu cod]

Sefydlodd Eos – Yr Asiantaeth Hawliau Darlledu, elusen o’r enw Cronfa Nawdd Eos fydd yn cynnig nawdd er budd y diwydiant cerddoriaeth Gymraeg.

Mae Cronfa Nawdd Eos yn gwahodd cynigion ar gyfer cynlluniau eithriadol fydd yn cyfrannu i lwyddiant y diwydiant cerdd yng Nghymru. Mae Cronfa Nawdd Eos yn cefnogi cynlluniau cyffrous fydd yn ysbrydoli cerddorion, cyfansoddwyr, artistiaid, hyrwyddwyr, trefnwyr a chynhyrchwyr o bob rhan o Gymru i gyfrannu i’r diwydiant cerdd.

Mae’r alwad ar agor i geisiadau am hyd at £1,000 (hyd at 70% o gyfanswm y costau) i gefnogi gweithgaredd yn ystod y 12 mis yn cychwyn o ddyddiad cadarnhau llwyddiant y cais. Mae’r arian sy’n cael ei gynnig yn arian preifat, ac nid yn rhan o unrhyw gynllun neu gronfeydd y Llywodraeth na’r Loteri. Gall yr arian felly gael ei ddefnyddio fel arian cyfatebol (match funding) ar gyfer unrhyw gais arall.[6]

Ym mis Mawrth 2024 cyhoeddodd Eos bod y Gronfa, sy'n gwerth £10,000 ar agor ac yn gwahodd ceisiadau rhwng £100 a £1,000 yr un. Yn y gorffennol, mae’r Gronfa wedi rhoi cyfraniad i Sŵnami gynhyrchu albwm, i Gai Toms gael nawdd i brynu offer stiwdio newydd, ac i Bwncath fynd ar daith i hyrwyddo’u halbwm diwethaf.

“Y bwriad yw ceisio cynorthwyo’r diwydiant cerddorol Gymraeg drwy gynnig nawdd mewn ffordd syml a didrafferth, a heb y rhwystrau arferol,” dywedodd Dafydd Roberts ar ran Bwrdd Eos.[7]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Eos. Cynghrair Cyhoeddwyr a Chyfansoddwyr Cerddoriaeth Cymru. Adalwyd ar 14 Ionawr 2013.
  2. Golwg, 25:17 (10 Ionawr 2013)
  3. "CYTUNDEB NEWYDD RHWNG EOS A'R BBC". Gwefan Eos. 19 Mai 2019.
  4. "aelodau". Gwefan Eos. Cyrchwyd 26 Mawrth 2024.
  5. "Cyfrifon". Gwefan Eos. Cyrchwyd 6 Mawrth 2024.
  6. "Cronfa". Gwefan Eos. Cyrchwyd 6 Mawrth 2024.
  7. "Agor Cronfa Nawdd Eos i helpu'r diwydiant cerddoriaeth". Golwg360. 3 Ebrill 2024.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato