Entomoleg

Oddi ar Wicipedia

Yr astudiaeth wyddonol o bryfed, a changen o swoleg, yw entomoleg (o'r Hen Groeg entomon ‘pryfyn, trychfil’ a -logia ‘gwyddor’[1]) (hefyd pryfeteg neu bryfyddiaeth). Mae tua 1.3 miliwn o rywogaethau wedi eu disgrifio, mae pryfed yn cyfansoddi mwy na dau-dreuan o'r holl organebau a wyddwn amdanynt,[2] ac maent yn dyddio nôl tua 400 miliwn o flynyddoedd. Mae entomoleg yn arbenigedd o fewn maes bioleg.

ffynonellau[golygu | golygu cod]

  1. Henry George Liddell a Robert Scott (1980). A Greek-English Lexicon (Abridged Edition). Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen. ISBN 0-19-910207-4
  2. A. D. Chapman (2006). Numbers of living species in Australia and the World, tud. 60t. ISBN 978-0-642-56850-2URL
Eginyn erthygl sydd uchod am fioleg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.