Enid Morgan
| Enid Morgan | |
|---|---|
Enid yn 2025, yn Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth | |
| Ganwyd | Rhydaman |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater |
|
| Priod | Gerald Morgan |
| Plant | Geraint Morgan |
Mae’r Parchedig Ganon Enid R Morgan yn offeiriad yn yr Eglwys yng Nghymru. Yr oedd ymhith y grwp cyntaf o wragedd i gael eu hordeinio’n offeiriaid ar Ŵyl Ystwyll 1997.[1] Gwasanaethodd fel diacon â gofal plwyfi gwledig 1986 -1993 pryd yr apwyntiwyd hi yn Gyfarwyddydd Cenhadu’r Eglwys i gydweithio â’r fainc esgobion, y swydd uchaf i’w chynnal gan wraig tan hynny.[2]
Fe’i haddysgwyd yn Ysgol Ramadeg Rhydaman, ac yng Ngholeg y Santes Ann yn Rhydychen lle y graddiodd yn Saesneg ym 1961. Yn ystod y cyfnod coleg bu’n gweithio ar Cherwell, papur newydd y myfyrwyr, y gyntaf o gyfres o bapurau a chylchgronau y bu’n ymwneud â hwy yn ystod ei gyrfa. Wedi graddio ym 1961 bu’n gweithio am flwyddyn ar y Western Mail yng Nghaerdydd, cyn dychwelyd i’r byd academaidd ym Mangor i gychwyn traethawd MA ar Emrys ap Iwan yn 1962-1963. Ar ôl priodi â Gerald Morgan ym 1963 bu’n gweithio gydag Alun R. Edwards ar gyfnod llunio’r Cyngor Llyfrau Cymraeg. Ar ôl symud i Sir Fôn yn 1968 troes o’i chefndir ymneilltuol at yr Eglwys yng Nghymru.
Ar ôl troi’n eglwyswraig bu’n helpu’r Parchedig Ganon Norman Hughes, offeiriad Pentraeth yn Sir Fôn, i olygu’r Haul a’r Gangell, cylchgrawn chwarterol yr Eglwys yng Nghymru. Wedi hynny yn 1970 daeth yn olygydd papur wythnosol Cymraeg yr Eglwys, sef Y Llan.[2] Yn 1979 dechreuodd ar radd ddiwinyddol yn y Coleg Diwinyddol yn Aberystwyth. Fe’i hordeiniwyd yn ddiacon yn haf 1984 gan weithio ym mhlwyfi gwledig yng Ngheredigion.
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Ym 2023 dathlodd ei phriodas ddeiamwnt (60 mlynedd) gyda Gerald. Mae ganddynt dri mab (Rhys, Geraint a Deiniol) chwech ŵyr ac un gorŵyr. Fe’i gwnaed yn Ganon Anrhydeddus Eglwys Gadeiriol Llandaf gan yr Archesgob Barry Morgan yn 2003. Ers ymddeol yn 2005 rhoddodd lawer o’i hamser i fudiad Cristnogaeth21, mudiad a sefydlwyd i ddehongli’r ffydd i ganrif newydd. Bu’n olygydd ar y cylchgrawn Agora ar wefan C21.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Llyfrau
Cyfoeth o’i Drysor: Gweddiau Hen a Newydd (Gwasg yr Eglwys yng Nghymru, 1992)
Y Dioddefus sy’n Maddau, dwy gyfrol, addasiad i’r Gymraeg o Jesus the Forgiving Victim gan James Alison (Cyhoeddiadau’r Gair, 2001)
Llythyrau o Salvador: Pynciau Efengyl a Diwylliant (Bwrdd Cenhadu’r Eglwys yng Nghymru, 1997)
Penodau
'Revenge and Reconciliation: A Girardian Reading of the Four Branches of the Mabinogi', Studia Celtica XLVI, (2013), 140-166
'The Church and the Welsh Language', yn A New History of the Church in Wales, gol. Norman Doe (Cambridge University Press, 2020), t.275
Pamffledyn
Emrys ap Iwan: Garddwr Geiriau (Astudiaethau Theatr Cymru. Rhif 2, 1980)
Erthyglau
Erthyglau yn Yr Haul a’r Gangell 1968-72
Colofnau Golygyddol yn Y Llan 1972-79
Colofnau golygyddol ac erthyglau yn Agora, cylchgrawn C21 ar wefan
Cristnogaeth21 (2018-2022)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Challenges faced by women in the Church in Wales". BBC News. 21 Ionawr 2017. Cyrchwyd 31 Awst 2025.
- ↑ 2.0 2.1 "The Revd. Canon Enid R. Morgan". International Federation of Interfaith, Intercultural Dialogue (yn Saesneg). 2021-04-27. Cyrchwyd 2024-03-17.