Enceladws (lloeren)
Enceladws yw'r wythfed o loerennau Sadwrn a wyddys:
Cylchdro: 238,000 km oddi wrth Sadwrn
Tryfesur: 498 km
Cynhwysedd: 7.30e19 kg
Ym mytholeg Roeg roedd Enceladws yn gawr a gafodd ei orchfygu a'i gladdu dan Fynydd Etna gan Athena. Un o'r "Gigantes" oedd Enceladws, a "sŵn daeargryn" ydy ystyr ei enw yn y Roeg.
Darganfuwyd y lloeren ym 1789 gan Herschel.
Mae gan Enceladws yr albedo uchaf o unrhyw gorff yn ein cysawd ni (>0.9). Mae ei harwyneb wedi ei orchuddio gan iâ croyw glân.
Mae pum math o dirwedd wedi cael eu darganfod ar y lloeren. Yn ychwanegol i graterau ceir gwastadeddau llyfn, craciau llinellol eang a chribau. Mae rhan o'i harwyneb o leiaf yn ifanc, o bosib yn llai na 100 miliwn o flynyddoedd.
Mae hynny'n dangos bod Enceladws wedi bod yn actif yn ddiweddar (ac o bosib yn dal yn actif heddiw). Gallai rhyw fath o "folcaniaeth dŵr" fod ar waith. Mae Enceladws yn rhy fach i gael ei chynhesu gan ddadfeiliad defnydd ymbelydrol o'i mewn. Byddai'r gwres wedi hen ddiflannu erbyn hyn.
Mae Enceladws wedi ei chau mewn cyseiniant 1:2 gyda Dione. Gallai hynny greu mecaniaeth cynhesu, ond un sydd yn annigonol i doddi iâ dŵr. Oherwydd hynny gallai Enceladws fod wedi ei chyfansoddi gan rhyw ddefnydd gyda a chanddo bwynt toddi isel yn hytrach na dŵr pur.
Gallai Enceladws fod yn darddiad i ddefnydd modrwy E Sadwrn.