Neidio i'r cynnwys

Emyr Young

Oddi ar Wicipedia
Emyr Young
Man preswylHwlffordd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethffotograffydd, actor llais, athro Edit this on Wikidata

Mae Emyr Young (ganwyd 1952)[1] yn ffotograffydd proffesiynol sy'n arbenigo mewn rygbi a phêl-droed. Cyn troi'n broffesiynol yn 2002 bu'n gweithio fel actor, cyflwynydd ac artist llais.

Actio a chyflwyno

[golygu | golygu cod]

Yn yr 1980au roedd yn actor yn defnyddio'r enw Emyr Glasnant (ei enw canol). Hyfforddodd fel athro yn y Coleg Normal, Bangor. Wedi gadael y coleg a methu cael swydd fel athro, ymunodd a Theatr y Werin yn Aberystwyth. Bu'n cyflwyno y rhaglen gerddoriaeth Seren Un ar HTV. Bu'n actio mewn cyfresi drama i blant a drama deledu SOS yn Galw Gari Tryfan. Yna bu'n lleisio cyfresi wedi'u hanimeiddio, fel Cei Cocos, a throsleisio rhaglenni. Ef oedd yn lleisio Sgerbwd yng nghyfres cartŵn SuperTed.[2]

Rhwng 2000 a 2010 gweithiodd fel tywysydd teithiau yn Stadiwm y Mileniwm.[3]

Ffotograffiaeth

[golygu | golygu cod]

Roedd Young wedi bod yn dynnwr lluniau ers ei ddyddiau coleg. Yn y dyddiau hynny bu'n tynnu lluniau bandiau y cyfnod gan gynnwys Brân, Ac Eraill, Hergest a Cwrwgl Sam... band cynnar Derec Brown. Gweithiodd fel athro am gyfnod yn y 1990au. Cafodd gamera digidol fel anrheg ac ysgogodd hyn ei yrfa llawn amser ym myd ffotograffiaeth.

Yn 2014 sefydlodd Ffoton Cymru gyda'r dylunydd graffeg Brian Carroll. Mae Ffoton yn archif sy’n rhoi llais i ffotograffwyr dawnus ledled Cymru, ac wedi'i leoli ar wefan YouTube.

Dros y blynyddoedd mae wedi gweithio gyda chwmniau cenedlaethol megis: Theatr Genedlaethol Cymru, Cwmni Theatr 3D, Stand Up Drama/Cardiff Bites, Gwasg Gomer, Golwg, Golley Slater PR, Utgorn PR, Western Mail, Undeb Rygbi Cymru, Stadiwm y Mileniwm a chylchgrawn y DU - Building Design and Construction.[4]

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]

Cyhoeddodd Emyr nifer o luniau gan gynnwys:

  • The Arms Park: Heart of a Rugby Nation gyda Bill O'Keefe; Gwasg y Lolfa (ISBN 978-1847713537)
  • Bwytai Cymru gyda Lowri Haf Cooke; Gomer @Lolfa (ISBN 978-1785622434)
  • Caffis Cymru gyda Lowri Haf Cooke; Gomer @Lolfa (ISBN 978-1785620690)
  • Sir Benfro - Tir Hela'r Cof / Pembrokeshire - Memory's Hunting Ground; Gwasg y Lolfa (ISBN 978-1785622489)
  • Llwybrau Llonyddwch - Teithiau Cerdded Myfyrgar ar hyd a Lled Cymru gydag Aled Lewis Evans; Gwasg y Lolfa (ISBN 978-1848517929)
  • Dwylo Coch a Menig Gwynion gydag Alan Llwyd; Gwasg y Lolfa (ISBN 978-1785623004)

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Index entry". FreeBMD. ONS. Cyrchwyd 11 Ebrill 2025.
  2. "Emyr Young: Y dyn tu ôl i'r lens". BBC Cymru Fyw. 2018-01-05. Cyrchwyd 2025-04-03.
  3. ylolfa.com; adalwyd 9 Chwefror 2025.
  4. theatre-wales.co.uk; adalwyd 9 Chwefror 2025.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]