Emyr Roberts
| Emyr Roberts | |
|---|---|
| Ganwyd | 1958 |
| Man preswyl | Ynys Môn |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | gwas sifil |
Gwas sifil o Gymru yw Dr Emyr Roberts (ganwyd Medi 1958).[1] Mae'n hanu o Fenllech, Ynys Môn. Astudiodd Ddaearyddiaeth ac Economeg ym Mhrifysgol Reading a chyflawnodd ei Ddoethuriaeth yn Adran Daearyddiaeth, Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Ar ôl gyrfa gydag Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru a Lloegr, ymunodd a'r Swyddfa Gymreig yn 1991 gan ymgymryd ag amrywiaeth o rolau gan gynnwys iechyd, cyllid, diwylliant a hamdden, a datblygu economaidd.
O fewn Llywodraeth Cymru roedd yn Brif Weithredwr Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, yn Gyfarwyddwr Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio, yn Gyfarwyddwr Cyffredinol Gwasanaethau Cyhoeddus a Llywodraeth Leol, ac yn Gyfarwyddwr Cyffredinol Addysg a Sgiliau. Yn 2012 penodwyd yn Brif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru er mwyn uno tri corff amgylcheddol Cymru a'i lansio erbyn 1 Ebrill 2013.[2]
Mae'n Gymrawd Prifysgol Aberystwyth a bu'n Gadeirydd y Cyngor ers 2018. Mae’n aelod o Fwrdd Estyn, ac mae hefyd yn aelod o Glas Cymru. Mae ei swyddi cyfarwyddwr anweithredol blaenorol yn cynnwys Ymddiriedolwr Alzheimer's Society Cymru.
Ers iddo ymddeol ar ddiwedd 2017, mae wedi ymddiddori mewn treftadaeth a hanes lleol, yn enwedig ym Môn, ei sir enedigol, ac mae’n awdur ar nifer o lyfrau ac erthyglau. Mae’n aelod o Bwyllgor Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru ac yn aelod gydol oes o Cadw.
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Mae'n siarad Cymraeg yn rhugl, yn byw yng Nghaerdydd, ac yn briod gyda dau o blant.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Emyr Gordon ROBERTS personal appointments - Find and update company information - GOV.UK". find-and-update.company-information.service.gov.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-08-12.
- ↑ "Prif weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru i ymddeol". BBC Cymru Fyw. 2017-05-30. Cyrchwyd 2025-08-12.
- ↑ "Dr Emyr Roberts", gwefan Cronfa Treftadaeth; adalwyd 12 Awst 2025