Empire of the Sun (nofel)
Enghraifft o'r canlynol | gwaith ysgrifenedig |
---|---|
Awdur | J. G. Ballard |
Cyhoeddwr | Gollancz |
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Iaith | Saesneg |
Dyddiad cyhoeddi | 13 Medi 1984 |
Genre | nofel hunangofiannol |
Olynwyd gan | The Kindness of Women |
Prif bwnc | yr Ail Ryfel Byd |
Lleoliad y gwaith | Gweriniaeth Tsieina, Shanghai |
Mae Empire of the Sun yn nofel a ysgrifennwyd gan J. G. Ballard ym 1984. Derbyniodd y nofel Wobr Goffa James Tait Black. Er mai ffuglen yw'r nofel hon mae'n dwyn i gôf profiadau helaeth Ballard yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Cyn y nofel hon, ysgrifennodd Ballard stori fer, "The Dead Time" a oedd hefyd yn stori ddychmygol.
Yn ddiweddarach, ysgrifennodd Ballard nofel ddilynol o'r enw The Kindness of Women.
Plot
[golygu | golygu cod]Adrodda'r nofel hanes bachgen bach o Sais, Jim Graham (enw cyntaf ac ail enw Ballard yw James Graham), sydd yn byw gyda'i rieni yn Shanghai. Ar ôl ymosodiad Pearl Harbour, mae'r Siapanwyr yn meddiannu ar wladfa ryngwladol Shanghai ac yn yr anhrhefn sy'n dilyn, caiff Jim ei wahanu o'i rieni.
Treulia beth amser mewn plasdai gwag, gan fyw ar weddillion bwyd pecyn ond yn fuan iawn caiff ei ddal gan y Siapanwyr a'i roi yng Nghanolfan Ymgynnull Sifiliaid Lungha.
Er fod y Siapanwyr yn elynion yn swyddogol, gall Jim uniaethu â hwy, yn rhannol am ei fod wrth ei fodd â'r peilotiaid a'u peiriannau godidog ond hefyd am ei fod yn teimlo fod Lungha yn gymharol ddiogel yn yr amseroedd cythryblus hyn.
Wrth nesáu at ddiwedd y rhyfel, gwelwn fyddin Siapan yn gwanhau ac mae bwyd yn dod yn brin. Prin goroesu y mae Jim, gyda'r bobl o'i amgylch yn newynu i farwolaeth.
Addasiad ffilm
[golygu | golygu cod]Addaswyd y llyfr gan Tom Stoppard ym 1987. Ffilmiwyd y sgript gan Steven Spielberg a chafodd ganmoliaeth enbyd. Cafodd y ffilm ei henwebu am chwech o wobrau'r Academi [1] ac enillodd chwech o wobrau'r Academi Brydeinig (BAFTA) (am sinematograffeg, cerddoriaeth a sain). Actiodd Christian Bale (a oedd yn 13 oed), yn ogystal â John Malkovich a Miranda Richardson, yn y ffilm.