Empiriaeth

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Empiraeth)

Damcaniaeth athronyddol sy'n dibynnu ar brofiad fel ffynhonnell gwybodeth yw empiriaeth[1] neu weithiau profiadaeth.[2] Modd o resymu a posteriori yw'r dull empiraidd sy'n dibynnu ar dystiolaeth a gaffaelir drwy arsylwi ac arbrofi. Cafodd yr athrawiaeth epistemolegol hon ei datblygu gan athronwyr o wledydd Prydain ac Iwerddon yn bennaf, gan gynnwys Locke, Berkeley a Hume, yn adwaith i'r rhesymolwyr a honodd fodolaeth gwybodaeth a priori.[3] I'r mwyafrif o empiryddion, mae profiad yn cynnwys ystyriaeth fewnol a meddyliau yn ogystal â phrofiad y synhwyrau. Mae empiriaeth yn gwadu bodolaeth syniadau greddfol, ac yn mynnu bod pob syniad yn tarddu o brofiad ac felly mae ein holl wybodaeth o'r byd yn ddealltwriaeth sydd wedi ei chyffredinoli o achosion neilltuol ein bywydau.

Yn ôl damcaniaeth empiraidd ystyr, mae ystyron i eiriau dim ond i'r graddau maent yn cyfleu cysyniadau. Ymdrecha'r empiryddion i osod gwybodaeth a posteriori yn sail i'r holl gysyniadau yr ydym yn eu deall. Yn ôl damcaniaeth empiraidd gwybodaeth, neu ddamcaniaeth cyfiawnhâd, dibynna credoau ar brofiad i'w cyfiawnháu. Gall y berthynas rhwng y ddau safbwynt hwn fod yn gymhleth: mae nifer o empiryddion yn cydnabod rhagosodiadau a priori (megis gwirioneddau mathemategol a rhesymegol) ond yn gwadu cysyniadau a priori; dim ond ychydig o athronwyr sy'n derbyn cysyniadau a priori ond sy'n gwadu rhagosodiadau a priori.[4] John Stuart Mill oedd yr athronydd cyntaf i drin hyd yn oed deddfau mathemateg yn ganlyniad i gyffrediniadau ein profiad.

Mae empiriaeth yn amau dibynadwyedd awdurdod, sythwelediad, dyfaliad a'r dychymyg, a rhesymu o natur haniaethol, damcaniaethol, a systemig.[4]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Geiriadur yr Academi, [empiricism].
  2.  profiadaeth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 1 Ionawr 2017.
  3. (Saesneg) Rationalism vs. Empiricism, Stanford Encyclopedia of Philosophy. Adalwyd ar 2 Ionawr 2017.
  4. 4.0 4.1 (Saesneg) empiricism. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 2 Ionawr 2017.