Emmy Noether
| Emmy Noether | |
|---|---|
| Ganwyd | Amalie Emmy Noether 23 Mawrth 1882 Erlangen |
| Bu farw | 14 Ebrill 1935 Bryn Mawr |
| Dinasyddiaeth | Teyrnas Bafaria |
| Addysg | doethuriaeth, cymhwysiad |
| Alma mater |
|
| Ymgynghorydd y doethor | |
| Galwedigaeth | mathemategydd, ffisegydd, academydd |
| Cyflogwr |
|
| Adnabyddus am | theorem Noether |
| Plaid Wleidyddol | Plaid Sosialaidd, Democrataidd yr Almaen, Plaid Sosialaidd Ddemocrataidd Annibynnol yr Almaen |
| Tad | Max Noether |
| Perthnasau | Gottfried E. Noether, Herman D. Noether |
| Gwobr/au | Gwobr Goffa Ackermann–Teubner |
| llofnod | |
Mathemategydd o'r Almaen oedd Emmy Noether (23 Mawrth 1882 – 14 Ebrill 1935), a ddisgrifiwyd gan Pavel Alexandrov, Albert Einstein, Jean Dieudonné, Hermann Weyl a Norbert Wiener fel y mathemategydd benywaidd bwysicaf yn hanes mathemateg. Mae hi'n adnabyddus am y Theorem Noether.[1]
Roedd yn o'r mathemategwyr a ddatblygodd y cysyniad o fodrwy rhwng y 1870au a'r 1920au. Fel rhan o'r gwaith hwn, ei chyd-fathemategwyr oedd Dedekind, Hilbert a Fraenkel. Datblygodd hefyd nifer o gysyniadau pwysig o fewn algebra haniaethol a ffiseg damcaniaethol. Mewn ffiseg, mae Theorem Noether yn egluro'r cysylltiad rhwng cymesuredd a Deddf Cadwraeth.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Ganed Emmy Noether ar 23 Mawrth 1882 yn Erlangen ac wedi gadael yr ysgol leol bu'n astudio Gwyddoniaeth ym Mhrifysgol Erlangen–Nuremberg (lle roedd ei thad Max Noether, hefyd yn ddarlithydd), Prifysgol Georg August Göttingen, yr Almaen ac yna Coleg Bryn Mawr, UDA. Ymhlith yr anrhydeddau a gyflwynwyd iddi am ei gwaith mae'r canlynol: Gwobr Goffa Ackermann–Teubner.
Gan mai menyw oedd hi, ni dderbyniodd swydd athro prifysgol llawn yn Göttingen, a mynegodd nifer o'i chydweithwyr eu siom yn y drefn annheg yma. Serch hyn, roedd ei darlithiau yn llwyddiant, ac fe gyfranodd ei gwaith gyda'i chyd-fathemategwyr David Hilbert a Felix Klein at fframwaith perthnasedd arbennig. Datblygodd Theorem Noether ac fe enillodd glod cynyddol yn y gymuned fathemateg ryngwladol.
Erbyn 1932, roedd mathemategwyr y byd yn sylweddoli mawredd ei gallu a'i gwaith. Hi oedd y fenyw gyntaf i annerch Cyngres Ryngwladol y Mathemategwyr (International Congress of Mathematicians).
Fe gollodd ei swydd ym mhrifysgol Göttingen yn dilyn cyhoeddi ei henw ar restr o academyddion o dras Iddewig ym 1933. Cafodd swydd newydd yng Ngholeg Bryn Mawr yn Unol Daleithiau America. Yno bu farw ym 1935 ac yno y claddwyd ei llwch.[2] Achoswyd ei marwolaeth gan syst wyfaol.
Aelodaeth o sefydliadau addysgol
[golygu | golygu cod]Aelodaeth o grwpiau a chymdeithasau
[golygu | golygu cod]- Cylch Mathemategol Palermo
- Cymdeithas Mathemategwyr yr Almaen
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Alexandrov, Pavel S. (1981). "In Memory of Emmy Noether". In Brewer, James W; Smith, Martha K. (gol.). Emmy Noether: A Tribute to Her Life and Work (yn Saesneg). New York: Marcel Dekker. tt. 99–111. ISBN 978-0-8247-1550-2. OCLC 7837628.
- ↑ "Emmy Noether | History | Research Starters | EBSCO Research". EBSCO (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-07-19.
- ↑ "In her short life, mathematician Emmy Noether changed the face of physics" (yn Saesneg). 12 Mehefin 2018. Cyrchwyd 13 Mehefin 2018.
- ↑ "CWP at physics.UCLA.edu // Emmy Noether". Cyrchwyd 26 Mawrth 2018.