Emma Finucane
| Emma Finucane | |
|---|---|
| Ganwyd | 22 Rhagfyr 2002 Caerfyrddin |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | seiclwr trac, seiclwr cystadleuol |
| Taldra | 169 centimetr |
| Gwobr/au | Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig |
| Chwaraeon | |
| Gwlad chwaraeon | y Deyrnas Unedig |
Seiclwr trac o Gymru yw Emma Finucane (ganwyd 22 Rhagfyr 2002).[1][2] Mae hi'n dod o Gaerfyrddin.
Enillodd Finucane dwy fedal arian ym Mhencampwriaethau Trac Cenedlaethol Prydain 2020.[3][4] Daeth hi'n bencampwr Prydeinig wrth ennill y ras sbrint tîm ym Mhencampwriaethau Trac Cenedlaethol Prydain 2022. Enillodd fedal arian a dwy fedal efydd yn yr un Pencampwriaethau.
Roedd hi'n aelod o dîm Cymru a enillodd y fedal efydd yng Gemau'r Gymanwlad 2022.[5] Enillodd ei hail fedal efydd yn sbrint unigol y merched [6]
Cafodd ei henwi yn Bersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru 2023 a 2024.[7]
Ennillodd Finucane medal aur yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2024 fel aelod o dîm seiclo Prydain yn y ras wib i dimau, gyda Sophie Capewell a Katy Marchant.[8] Ennillodd Finucane hefyd medal efydd yng nghystadleuaeth y Keirin yn yr un Gemau.[9]
Yng Ngemau'r Gymanwlad 2026, daeth Finucane y fenyw Gymreig gyntaf i ennill tair medal aur yng Ngemau'r Gymanwlad unigol, gan ennill y treial amser 1 cilometr.[10] Enillodd aur yn y sbrint tîm a'r sbrint unigol hefyd. orffennodd Finucane y Gemau gyda phedair medal aur, record i unrhyw feiciwraig ac unrhyw gystadleuydd benywaidd o Gymru.[11]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Athlete Blog". British Athletes Commission. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-07-21. Cyrchwyd 30 Mawrth 2022.
- ↑ "BRITISH TRACK CHAMPIONSHIPS DAY 3". Velo UK. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-07-21. Cyrchwyd 30 Mawrth 2022.
- ↑ "2022 National Track Championships". British Cycling. Cyrchwyd 30 Mawrth 2022.
- ↑ "Welsh teenagers light up home cycling championships". BBC. Cyrchwyd 30 Mawrth 2022.
- ↑ "Arian ac efydd i Gymru ar ddiwrnod cyntaf Gemau'r Gymanwlad". BBC Cymru Fyw. Cyrchwyd 30 Gorffennaf 2022.
- ↑ "Wales cyclist Finucane claims second medal". BBC Sport (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-07-30.
- ↑ "Emma Finucane yw Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn 2023". BBC Cymru Fyw. 2023-12-18. Cyrchwyd 2023-12-18.
- ↑ "Gemau Olympaidd: Medal aur i'r Gymraes Emma Finucane". BBC Cymru Fyw. 5 Awst 2024. Cyrchwyd 6 Awst 2024.
- ↑ "Medal efydd i Emma Finucane ar y trac seiclo". BBC Cymru Fyw. Cyrchwyd 9 Awst 2024.
- ↑ "Historic Third Gold for Finucane as Welsh Riders Dominate the Podium". Beicio Cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2 Awst 2026.
- ↑ "Cymraes yn creu hanes wrth ennill pedair medal aur yng Ngemau'r Gymanwlad". BBC Cymru Fyw. 2 Awst 2026. Cyrchwyd 3 Awst 2026.