Emma Albani
Gwedd
| Emma Albani | |
|---|---|
| Ganwyd | 1 Tachwedd 1847 Chambly |
| Bu farw | 3 Ebrill 1930 Llundain |
| Dinasyddiaeth | Canada, Ffrainc, y Deyrnas Unedig, Teyrnas yr Eidal |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | canwr opera, cyfansoddwr |
| Arddull | cerddoriaeth glasurol |
| Math o lais | soprano |
| Tad | Joseph Lajeunesse |
| Gwobr/au | Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, Medal Aur Cymdeithas y Royal Philharmonic, Pobl o Bwys Hanesyddol Cenedlaethol |
| llofnod | |
Soprano operatig o Ganada oedd Emma Albani (ganwyd Marie-Louise-Emma-Cécile Lajeunesse; 1 Tachwedd 1847 – 3 Ebrill 1930). Hi oedd y gantores gyntaf o Ganada i ddod yn seren ryngwladol.[1]
Fe'i ganwyd yn Chambly, Québec, i rieni Ffrangeg eu hiaith. Fe'i dysgwyd cerddoriaeth ganddynt cyn iddi fynd ym 1868 i astudio ym Mharis a'r Eidal, lle newidiodd ei henw i "Emma Albani". Bu’n llwyddiannus mewn tai opera ar draws Ewrop, gan gynnwys Llundain, lle daeth yn ffefryn gan y Frenhines Victoria. Ei pherfformiad operatig cyntaf yng Nghanada oedd ym 1883. Rhoddodd berfformiadau ledled y byd nes iddi ymddeol i Kensington, Llundain, ym 1911.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Potvin, Gilles (29 Ionawr 2008). "Dame Emma Albani". The Canadian Encyclopedia (yn Saesneg) (arg. online). Historica Canada. Cyrchwyd 17 Ionawr 2012.
