Emily Davison
| Emily Davison | |
|---|---|
| Ganwyd | 11 Hydref 1872 Blackheath |
| Bu farw | 8 Mehefin 1913 Epsom |
| Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | ymgyrchydd dros bleidlais i ferched, ymgyrchydd dros hawliau merched, swffragét, athro |
| Gwobr/au | Medal y Swffragét |
Swffraget oedd Emily Wilding Davison (11 Hydref 1872 – 8 Mehefin 1913) a fu farw pan daflodd ei hunan o dan "Anmer", geffyl brenin Lloegr, yn ystod ras fawr y 'Derby' yn Epsom[1] fel rhan o'r ymgyrch dros ennill y bleidlais i ferched.
Wedi'i geni yn Blackheath, Llundain, roedd Davison eisoes wedi cael ei charcharu dros yr achos, wedi ymprydio ac wedi cael ei gorfodi i fwyta pan benderfynodd gyflawni ei gweithred fawr. Fel na fyddai neb yn camddeall ei rhesymau, fe gariodd gyda hi faner yn lliwiau'r swffragéts: gwyrdd a phorffor.
Denodd ei hangladd filoedd o'i chefnogwyr. Bu'n fyfyrwraig ar un adeg yng Ngholeg Sant Huw, Rhydychen, ac mae ei marwolaeth wedi'i chofnodi'n syml iawn yng nghofrestr y coleg â'r geiriau "Died at Epsom" heb ddim esboniad pellach. Mae cofeb gudd i Emily Davison wedi'i chuddio o dan Dŷ'r Cyffredin yn San Steffan gan y gwleidydd Tony Benn.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Tanner, Michael (2013). The Suffragette Derby (yn Saesneg). London: The Robson Press. tt. 214-215. ISBN 978-1-8495-4518-1.
- ↑ [1]
- Genedigaethau 1872
- Marwolaethau 1913
- Addysgwyr benywaidd y 19eg ganrif o Loegr
- Addysgwyr benywaidd yr 20fed ganrif o Loegr
- Athrawon o Loegr
- Merched a aned yn y 1870au
- Pobl o Lundain
- Swffragetiaid
- Pobl a aned yn Llundain
- Pobl fu farw yn Surrey
- Pobl fu farw mewn damweiniau chwaraeon
- Pobl fu farw mewn damweiniau marchogaeth
- Ymgyrchwyr benywaidd yr 20fed ganrif o Loegr