Emilia Pardo Bazán

Oddi ar Wicipedia
Emilia Pardo Bazán
GanwydEmilia Antonia Socorro Josefa Amalia Vicenta Eufemia Pardo Bazán y de la Rúa-Figueroa Edit this on Wikidata
16 Medi 1851 Edit this on Wikidata
A Coruña Edit this on Wikidata
Bu farw12 Mai 1921 Edit this on Wikidata
Madrid Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Galisia Galisia
Baner Sbaen Sbaen
Galwedigaethawdur ysgrifau, beirniad llenyddol, nofelydd, newyddiadurwr, perchennog salon, ysgrifennwr, bardd, golygydd, gastronomist Edit this on Wikidata
Adnabyddus amLos pazos de Ulloa, La cuestión palpitante, La Quimera, Insolación, La dama joven, La madre naturaleza, Memorias de un solterón Edit this on Wikidata
Arddullnofel, stori fer Edit this on Wikidata
Mudiadrealaeth Edit this on Wikidata
TadJosé Pardo Bazán Edit this on Wikidata
PriodJosé Quiroga Pérez de Deza Edit this on Wikidata
PartnerBenito Pérez Galdós Edit this on Wikidata
PlantJaime Quiroga y Pardo Bazán, María de las Nieves Quiroga y Pardo Bazán, María del Carmen Quiroga y Pardo Bazán Edit this on Wikidata
PerthnasauJosé Cavalcanti, Saturnino Esteban Miquel de Collantes Edit this on Wikidata
llofnod

Awdures a ffeminist o Galisia (Sbaen heddiw) oedd Emilia Pardo Bazán (16 Medi 1851 - 12 Mai 1921) sy'n cael ei chofio fel awdur ysgrifau, beirniad llenyddol, nofelydd, newyddiadurwr, athro prifysgol mewn Sbaeneg a pherchennog salon.

Mae'n adnabyddus am gyflwyno naturiaetholdeb (naturalism) i lenyddiaeth Sbaeneg, am ei disgrifiadau manwl o realiti, ac am gwaith arloesol o ran syniadau ffeministaidd a'i dylanwad ar lenyddiaeth ei hoes. Gwnaeth ei syniadau am hawliau menywod o fewn y byd addysg hi hefyd yn ffigwr ffeministaidd amlwg.

Ganed Emilia Pardo Bazán yn A Coruña, Galisia, Sbaen ar 16 Medi 1851 a bu farw yn Madrid. Roedd ei theulu'n uchelwrol, cyfoethog. Rhoddodd ei thad, a gredai mewn cydraddoldeb rhwng dynion a merched, yr addysg orau bosibl iddi, gan ysbrydoli ei chariad at lenyddiaeth. Ysgrifennodd ei cherddi cyntaf pan oedd yn naw oed. Daeth yn rhugl mewn Ffrangeg, Saesneg ac Almaeneg. Ni chaniatawyd iddi fynychu'r coleg gan fod menywod yn cael eu gwahardd rhag astudio gwyddoniaeth ac athroniaeth, ond daeth yn gyfarwydd â'r pynciau hynny trwy ddarllen a siarad â ffrindiau ei thad.[1][2][3][4][5][6][7]

Yn 16 oed priododd José Antonio de Quiroga y Pérez de Deza, a oedd yn astudio'r gyfraith ar y pryd, ac roedd María de las Nieves Quiroga y Pardo Bazán a María del Carmen Quiroga y Pardo Bazán yn blant iddyn nhw.

Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: Los pazos de Ulloa (1886) a La cuestión palpitante (1884).

Y llenor[golygu | golygu cod]

Ysgrifennwyd ei nofel gyntaf, Pascual López: autobiografía de un estudiante de medicina (Pascual López: Bywgraffiad y Myfyriwr Meddygol), a ymddangosodd ym 1879, mewn arddull realistig, rhamantus. Cafodd ei hysbrydoli gan lwyddiant y llyfr, a dwy flynedd yn ddiweddarach, cyhoeddodd Un viaje de novios (Taith Bwrw Swildod), lle gellir arsylwi ar ei diddordeb blaengar mewn naturiaetholdeb Ffrengig, acachosodd y llyfr hwn gryn ddaeargryn llenyddol pan ddaeth o'r wasg! Datblygodd hyn ymhellach pan gyhoeddodd La tribuna (1883), a gafodd ei ddylanwadu'n fawr gan syniadau Émile Zola ac ystyrir yn eang mai hwn yw'r nofel naturiaethol Sbaeneg gyntaf.

Aelodaeth[golygu | golygu cod]

Bu'n aelod o Academi Brenhinol Galiseg am rai blynyddoedd. [8]

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12004268k. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.
  2. Disgrifiwyd yn: https://www.bartleby.com/library/bios/index12.html. https://link.springer.com/chapter/10.1007/978-3-476-03702-2_286. dyddiad cyrchiad: 31 Gorffennaf 2022.
  3. Rhyw: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12004268k. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.
  4. Dyddiad geni: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12004268k. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Emilia Pardo Bazán". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Emilia Pardo Bazán". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Emilia Pardo Bazán". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Emilia Pardo Bazan". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/. "Emilia Pardo Bazán". "Emilia Pardo Bazán". "Emilia Pardo Bazan". "Emilia. Condesa de Pardo Bazán (I) Pardo Bazán de la Rúa". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  5. Dyddiad marw: "Emilia Pardo Bazán". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Emilia Pardo Bazán". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Emilia Pardo Bazán". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Emilia Pardo Bazan". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Emilia Pardo Bazán". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/. "Emilia Pardo Bazán". "Emilia Pardo Bazan". "Emilia. Condesa de Pardo Bazán (I) Pardo Bazán de la Rúa". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  6. Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de, en), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 13 Rhagfyr 2014 https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.
  7. Man claddu: https://elpais.com/diario/2000/11/02/madrid/973167871_850215.html.
  8. Galwedigaeth: https://www.infinite-women.com/women/emilia-pardo-bazan/. https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/. https://www.lavozdegalicia.es/noticia/cultura/2021/07/18/emilia-pardo-bazan-gastronoma/00031626627183553986775.htm. dyddiad cyrchiad: 14 Awst 2022.