Emile Habibi
Gwedd
Emile Habibi | |
---|---|
Ganwyd | 29 Awst 1922 Haifa |
Bu farw | 2 Mai 1996 o canser Nasareth |
Dinasyddiaeth | Palesteina, Gwladwriaeth Palesteina |
Galwedigaeth | llenor, gwleidydd, newyddiadurwr, gohebydd gyda'i farn annibynnol |
Swydd | Aelod o'r Knesset, Aelod o'r Knesset |
Cyflogwr | |
Plaid Wleidyddol | Maki |
Gwobr/au | Gwobr Israel, Order of Jerusalem for Culture, Arts and Literature |
Llenor Arabeg o Israel oedd Emile Habibi (29 Awst 1922 – 2 Mai 1996) sy'n nodedig am ei nofelau a'i straeon byrion sy'n portreadu profiadau ac hunaniaeth y Palesteiniaid sy'n byw fel lleiafrif Arabaidd yn Israel. Ysgrifennodd hefyd ddramâu.[1][2]
Ganwyd yn Haifa, Mandad Palesteina, sydd bellach yn rhan o Wladwriaeth Israel. Trodd Habibi yn gomiwnydd yn y 1940au ac ef oedd un o sefydlwyr Plaid Gomiwnyddol Israel. Gwasanaethodd yn aelod y Knesset.
Rhoddwyd Medal Jeriwsalem iddo gan Fudiad Rhyddid Palesteina yn 1990. Derbyniodd Wobr Israel yn 1992, ac ef oedd yr Arabiad cyntaf i ennill yr anrhydedd hwnnw. Bu farw o ganser yn yr ysbyty yn Nasareth yn 73 oed.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Emile Habibi. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 23 Mai 2019.
- ↑ (Saesneg) Sabry Hafez, "Obituary: Emile Habibi Archifwyd 2016-03-02 yn y Peiriant Wayback", The Independent (4 Mai 1996). Adalwyd ar 23 Mai 2019.
- ↑ (Saesneg) Joel Greenberg, "Emile Habibi, 73, Chronicler Of Conflicts of Israeli Arabs", The New York Times (3 Mai 1996). Adalwyd ar 23 Mai 2019.