Elwyn Vaughan
| Elwyn Vaughan | |
|---|---|
| Ganwyd | 20 Rhagfyr 1965 |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | gwleidydd |
| Swydd | Aelod o 7ed Senedd Cymru |
| Plaid Wleidyddol | Plaid Cymru |
Gwleidydd o Gymru yw Elwyn Graham Vaughan (ganwyd Rhagfyr 1965). Cafodd ei ethol yn Aelod o'r Senedd ar restr Plaid Cymru yn Etholaeth Gwynedd Maldwyn yn Etholiad 2026.
Gyrfa gynnar
[golygu | golygu cod]Roedd Elwyn Vaughan yn un o sylfaenwyr Cymad, cwmni nid-er elw yn bodoli rhwng 1995 a 2009 ac yn cynnal prosiectau yn ardaloedd Meirionnydd a Dwyfor yng Ngwynedd, llawer ohonynt yn defnyddio grantiau'r Undeb Ewropeaidd.[1] Yn 2007, fe'i cafwyd yn euog o gyfrifyddu anghywir, yn ymwneud â gwerth £680 o sieciau ar ran Cymad.[1]
Llywodraeth leol
[golygu | golygu cod]Etholwyd Elwyn Vaughan yn gynghorydd Glantwymyn ar Cyngor Sir Powys yn 2017, ac fe'i hail-etholwyd yn 2022. Daeth â chynnig gerbron y Cyngor i gefnogi datganoli Ystâd y Goron i Gymru.[2]
Yn 2024, aeth â swyddogion y Cyngor â chwyn ynglŷn ag Elwyn Vaughan at Ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus Cymru, oedd yn honni ei fod yn dwyn anfri ar enw da'r Cyngor - dywedodd nad oedd wedi gwneud unrhyw beth o'i le, ac mai ymgais oedd hyn i gau cegau'r sawl oedd yn dwyn y Cyngor i gyfri.[3]
Ymgyrchoedd a materion lleol
[golygu | golygu cod]Bu'n galw am gadw gwasanaeth Ambiwlans Awyr y Trallwng,[4] am adfer niwed i fynwent Capel Bethany yn Ngheri,[5] ac yn erbyn Parc Cenedlaethol arfaethedig Glyndŵr[6].
Gyrfa wleidyddol
[golygu | golygu cod]Elwyn Vaughan oedd ymgeisydd Plaid Cymru ym Maldwyn yn Etholiad Senedd Cymru, 2021, lle daeth yn ail i'r Ceidwadwr Russell George. Ef hefyd oedd ymgeisydd y Blaid ym Maldwyn a Glyndŵr yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2024, lle daeth yn bumed (etholwyd Steve Witherden o'r Blaid Lafur).
Yn etholiad Senedd Cymru fis Mai 2026, ef oedd y pedwerydd ymgeisydd ar restr Plaid Cymru yng Ngwynedd Maldwyn - enillodd y Blaid bedair sedd (Siân Gwenllian, Mabon ap Gwynfor, Beca Brown, ac Elwyn Vaughan), gyda Reform UK yn ennill y ddwy sedd arall.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 "Rheoli arian cyhoeddus Cymad Cyf | Audit Wales". www.audit.wales. Cyrchwyd 2026-05-18.
- ↑ "Cyngor Powys yn ystyried cynnig i gefnogi datganoli Ystad y Goron". Golwg360. 2024-12-04. Cyrchwyd 2026-05-18.
- ↑ "Complaint against Powys councillor 'an attempt to silence'".
- ↑ "Awgrymu ffordd ymlaen i'r Ambiwlans Awyr". Golwg360. 2022-12-12. Cyrchwyd 2026-05-18.
- ↑ "Symud cerrig beddi i greu lle i dramwyfa'n dangos "ansensitifrwydd affwysol"". Golwg360. 2023-08-24. Cyrchwyd 2026-05-18.
- ↑ IESTYN, BEDWYR AP (2025-10-01). "Parc Cenedlaethol Glyndŵr – dim diolch". Barn (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-05-18.