Elliw Haf
Gwedd
| Elliw Haf | |
|---|---|
| Ganwyd | Elliw Haf Owen 1953 Nefyn |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | actor |
Actores o Gymraes yw Elliw Haf (ganwyd 1953). Mae hi'n fwyaf adnabyddus am bortreadu'r cymeriad 'Glenda' yn y gyfres Rownd A Rownd (S4C).
Cafodd ei magu yn Nefyn ym Mhenrhyn Llŷn. Derbyniodd ei haddysg yn Ysgol Ramadeg Pwllheli cyn mynd i Goleg Cerdd a Drama, Caerdydd.
Bu'n actio ar lwyfan a theledu ers pan yn ifanc, gan serennu mewn cyfresi fel Gwen Tomos (1981), Minafon (1983) a Lleifior (1990) drwy bortreadu matriarch y teulu Vaughan, sef Marged y fam. Ymddangosodd hefyd mewn ffilmiau fel 'Sglyfaeth ac Un Nos Ola Leuad.[1]
Gyrfa
[golygu | golygu cod](detholiad)
Teledu a Ffilm
[golygu | golygu cod]1970au
[golygu | golygu cod]- Ryan (1974) BBC Cymru
- Pen Ei Dennyn (1975) BBC Cymru
- Hawkmoor (1978) BBC Cymru
1980au
[golygu | golygu cod]- Ffalabalam (1980-1982) HTV
- Bragen (1980) BBC Cymru
- O.G (1981) BBC Cymru
- Gwen Tomos (1981) BBC Cymru
- Gwydion (1982) BBC Cymru
- Minafon (1983) S4C
- Aelwyd Gartrefol (1983)
- Rhaglen Hywel Gwynfryn (1983)
- Meistres y Chwarae (1984)
- 'Sglyfaeth (1984)
- Deryn (1985)
- Gari'r Gath A Sami Sbardun (1986)
- Teulu Helga (1986)
- Held To Ransom (1986)
- Twll O Le (1987)
- Ac Eto Nid Myfi (1987)
- Byw Yn Rhydd (1988)
- O Vaughan I Fynwy (1988)
- Yr Alltud (1989)
1990au
[golygu | golygu cod]- Un Nos Ola Leuad (1991)
- Joshua Jones (1991)
- Priodas Gwen (1992)
- Gwynfyd (1992)
- Y Dywysoges A'r Bwgan (1992)
- Lleifior (1990-1994)
- Llygad Am Lygad (1993)
- C'mon Midffîld! (1994)
- Dilyn Ddoe (1987)
- Rownd A Rownd (1997-
2000au
[golygu | golygu cod]- Iechyd Da (2002)
- Hoel Stephanie (2009)
- Cofio Ceredig (2011)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Yr actores Elliw Haf yn rhannu troeon yr yrfa". Môn360. 2024-01-11. Cyrchwyd 2024-09-02.