Elizabeth Villiers

Oddi ar Wicipedia
Elizabeth Villiers
Ganwyd1657 Edit this on Wikidata
y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Bu farw19 Ebrill 1733 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Galwedigaethboneddiges breswyl Edit this on Wikidata
TadEdward Villiers Edit this on Wikidata
MamFrances Howard Edit this on Wikidata
PriodGeorge Hamilton, iarll 1af yr Orkney Edit this on Wikidata
PartnerWiliam III & II Edit this on Wikidata
PlantAnne O'Brien, ail iarlles yr Orkney, Frances Lumley-Saunderson, iarlles o Scarbrough, Henrietta Hamilton Edit this on Wikidata

Llysiwr Seisnig o deulu Villiers oedd Elizabeth Hamilton, Iarlles Orkney (1657 – 19 Ebrill 1733 (ganwyd Elizabeth Villiers) a meistres honedig William III a II, brenin Lloegr a'r Alban, o 1680 hyd 1695. Gwraig-yn-aros oedd hi i wraig William, y Frenhines Mari II.

Cafodd Elizabeth Villiers ei geni i'r Syr Edward Villiers a'i wraig, Arglwyddes Frances Howard, merch ieuengaf Theophilus Howard, 2il Iarll Suffolk, ac Elizabeth Hume. Roedd Frances Villiers yn lywodraethwr Mari II a'i chwaer Anne.

Ar 25 Tachwedd 1695, ar ôl marwolaeth Mari, priododd Elisabeth â'r Arglwydd George Hamilton, pumed mab 3ydd Dug Hamilton. Ychydig wythnosau'n ddiweddarach, ar 3 Ionawr, cafodd ei anrhydeddu â'r teitlau Iarll Orkney, Is-iarll Kirkwall, a Baron Dechmont. Gwasanaethodd Elizabeth, yn awr Iarlles Orkney, fuddiannau ei phriod gyda medrusrwydd mawr. [1]

Gan George Hamilton, Iarll 1af Orkney, bu gan Elizabeth Villiers dair merch, ac etifeddodd yr hynaf ohonynt stad a theitl ei gŵr: [2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Herman, Eleanor (2005). Sex with Kings: 500 Years of Adultery, Power, Rivalry, and Revenge. The Business of Life: William Morrow Paperbacks. tt. 219. ISBN 0-06-058544-7.
  2. Lady Henrietta Douglas, thepeerage.com