Elisabeth Tudur (1492–1495)

Oddi ar Wicipedia
Elisabeth Tudur
Ganwyd2 Gorffennaf 1492 Edit this on Wikidata
Palas Richmond Edit this on Wikidata
Bu farw14 Medi 1495 Edit this on Wikidata
Palas Eltham Edit this on Wikidata
Galwedigaethpendefig Edit this on Wikidata
TadHarri VII Edit this on Wikidata
MamElisabeth o Efrog Edit this on Wikidata
Llinachtuduriaid Edit this on Wikidata

Ail ferch Harri Tudur ac Elisabeth o Efrog oedd y Dywysoges Elisabeth Tudur (neu Elizabeth Tudor) (2 Gorffennaf 149214 Medi 1495).[1]

Fe'i ganed ym Mhalas Sheen yn Surrey ac a adeiladwyd yn ddiweddarach gan ei thad a'i alw'n 'Blasdy Richmond', ger Richmond-Upon-Thames, Llundain. Byr oedd ei bywyd, a threuliodd y rhan fwyaf ohono gyda'i brawd Harri a goronwyd mewn blynyddoedd yn Harri VIII, brenin Lloegr, ym Mhalas Eltham, Caint. Addysgwyd y brawd hynaf, Arthur, ar ei ben ei hun yn eu cartref. Cynigiodd ei thad ei phriodi i'r Tywysog Francis a goronwyd ymhen blynyddoedd yn Ffransis I, brenin Ffrainc, ond ni ddigwyddodd hyn.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw ar 14 Medi 1495 wedi dioddef o edwiniad (atrophy) a hithau'n dair blwydd a dau fis. Claddwyd ei chorff ar ochr ogleddol bedd Edward y Cyffeswr yn Abaty Westminster ar ddydd Mercher y 27ain o Fedi. Gwariwyd £318 (£155,479.74 heddiw) ar ei chynhebrwng a chodwyd beddrod marmor iddi. Claddwyd dau arall ger ei hochor ychydig wedyn: Edmwnd (m. 1500 yn 15 mis) a Katherine (m. 1503 ychydig wedi ei geni).

Llinach[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. David Williamson (1986). Debrett's Kings and Queens of Britain (yn Saesneg). Webb & Bower. t. 103. ISBN 978-0-86350-101-2.