Elisabeth I, brenhines Lloegr
Elisabeth I, brenhines Lloegr | |
---|---|
Ganwyd | 7 Medi 1533, 1533 Palas Placentia |
Bu farw | 24 Mawrth 1603 (yn y Calendr Iwliaidd), 1603 Palas Richmond |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr |
Tad | Harri VIII |
Mam | Ann Boleyn |
Llinach | tuduriaid |
llofnod | |
Bu Elisabeth I (7 Medi 1533 - 24 Mawrth 1603) yn frenhines Lloegr o 17 Tachwedd 1558 hyd at ei marwolaeth. Ei llysenw Cymraeg oedd 'Sidanes' (mae 'yr hen Sidanes' yn llysenw llai parchus am Elisabeth II, brenhines y Deyrnas Unedig). Roedd hi'n ferch i Harri VIII, brenin Lloegr a'i wraig Ann Boleyn ac yn chwaer i Edward VI ac i Mari I. Roedd teyrnasiad Elisabeth, Oes Elisabeth fel y'i gelwir, yn gyfnod cythryblus. Roedd yna gyffro ac anghytuno crefyddol, a llygaid brenin Ffrainc a brenin Sbaen ar deyrnas Lloegr ac yr oedd Elisabeth yn ddibriod ac yn ddietifedd.
Roedd gan Elisabeth lawer o gynghorwyr cyfrinachol, rhai ohonynt yn Gymry Cymraeg e.e. Blanche Parry a William Cecil,[1] - ac eraill fel Philip Sidney, Robert Devereux, Robert Dudley, Iarll Caerlŷr, a Francis Walsingham.
Rhagflaenydd: Mari I |
Brenhines Lloegr 17 Tachwedd 1558 – 24 Mawrth 1603 |
Olynydd: Iago VI & I |
Cyfeiriadau
- ↑ Gwefan y Llyfrgell Genedlaethol; adalwyd 8 Ionawr 2015
|