Neidio i'r cynnwys

Elinor Wyn Roberts

Oddi ar Wicipedia
Elinor Wyn Roberts
GanwydElinor Wyn Roberts
3 Mehefin 1954
Bu farw5 Mawrth 1989
o llofruddiaeth
Y Felinheli
Alma materColeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
Galwedigaethactores, gweinyddydd a chynhyrchydd ffilm

Actores, cynorthwydd cynhyrchu a chynhyrchydd teledu a ffilm oedd Elinor Wyn Roberts (3 Mehefin 19545 Mawrth 1989) neu Elinor Roberts[1] Bu'n aelod o Gwmni Theatr Cymru, Sgwâr Un a Theatr Bara Caws yn ogystal â chyfnodau yn gweithio ar yr ochor gynhyrchu o sawl ffilm a chyfres drama i S4C. Cafodd ei llofruddio gan ei chariad, yr actor Clive Roberts ym mis Mawrth 1989, digwyddiad a syfrdanodd y diwydiant theatr a theledu yng Nghymru.[2]

Ganwyd Elinor yn Llandegla, Sir Ddinbych yn ferch i David Iorwerth Roberts a'i wraig Alwena.[1] Astudiodd gwrs drama ol-radd Gymraeg gyntaf yn y Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd gyda actorion eraill fel Mei Jones, Wyn Bowen Harries, Siôn Eirian a Cefin Roberts.[3] Nododd Cefin Roberts yn ei hunangofiant, bod Elinor "newydd dreulio cyfnod go faith yn y carchar yn dilyn gweithredu gyda Chymdeithas yr Iaith, pan ymunodd â'r cwrs".[3] Wedi blwyddyn yn y Coleg, cafodd Elinor a'r actorion eraill gynnig blwyddyn o gytundeb fel aelodau craidd Cwmni Theatr Cymru, yn dilyn llwyfannu Fflora a Portread.[3] Dim ond un cynhyrchiad arall y bu Elinor yn actio ynddi, yn ôl Cefin Roberts, ac Y Lefiathan oedd honno. "Cafodd daith anodd iawn ar Y Lefiathan" yn ôl Cefin, "ac fe wawriodd arni nad actio oedd ei chryfder. Cafodd ei hudo gan rai a ddylai wybod yn well i fynd i galifantio un pnawn a hithau angen perfformio ar lwyfan Theatr Gwynedd yn y nos. Dysgodd ei gwers yn y ffordd galetaf posib gan iddi fethu cario mlaen yn ystod y perfformiad. Derbyniodd gerydd a chyngor Wilbert [Lloyd Roberts] gan symud i'r adran rheoli llwyfan o hynny mlaen".[3]

Ar ôl cwblhau cwrs drama, bu Elinor yn gweithio fel cynorthwydd cynhyrchu ar raglenni teledu Cymraeg.

Cynyrchiadau

[golygu | golygu cod]

Llofruddiaeth

[golygu | golygu cod]
Tudalen flaen Yr Herald Cymraeg 20 Ionawr 1990

Roedd Elinor mewn perthynas gyda'r actor Clive Roberts, a bu'r ddau yn byw gyda'i gilydd ers 7 mlynedd yn gyntaf ym Mangor ac wedyn ym Mryn Myfyr, 26 Lôn Bryn Ffynnon, Y Felinheli.[4] Ar Nos Sul, 5 Fawrth 1989, ar ôl bod yn yfed yn nhafarn Victoria yn y pentref, aeth y ddau adref mewn tacsi, a rhwng 11.30 a hanner nos, clywodd y cymdogion "ffrae" a "sŵn bangio uchel".[4] Tair awr yn ddiweddarach, galwyd am ambiwlans a gyrhaeddodd am 4.45 y bore Llun.[4]

Gwadodd Clive Roberts y cyhuddiad o lofruddiaeth, ond cyfaddefodd i gyhuddiad o ddynladdiad.[4] Nodwyd yn yr achos "bod anafiadau Miss Roberts yn awgrymu ei bod hi wedi cael ei tharo hefo cadair a'i chicio. Yn ogystal, roedd ganddi farciau ar ei stumog a'i chefn, fel tasa hi wedi cael ei tharo hefo cyllell finiog".[4]

Cyfaddefodd Roberts wrth yr heddlu bod y ddau "yn arfer yfed lot" a'u bod nhw wedi yfed potel o wisgi rhynddynt cyn mynd allan i'r dafarn.[4] Dywedodd wrth yr heddlu bod Elinor yn "flin" gydag ef, "am 'mod i wedi prynu dwy fotel o wisgi [yn y dafarn]. Doedd hi ddim yn lecio i mi yfed gwirodydd, am fy mod i wedi bod yn yr ysbyty ychydig ddyddiau ynghynt, ac oherwydd 'mod i'n epileptig," nododd yr Herald Cymraeg [20 Ionawr 1990].

Gwadodd Roberts ei fod wedi ei tharo hefo cadair a chyllell.

Nodwyd yn yr Herald Cymraeg, bod mam Elinor [Alwena Roberts] wedi dweud mewn datganiad bod Clive Roberts wedi "ymddwyn yn afresymol" tuag at ei merch ddwy flynedd ynghynt [1987] a barodd i'w merch "ddwad ati" i aros yn yr Wyddgrug.[4] Cyfaddefodd hefyd bod ei merch wedi dweud "mai'r ddiod oedd trwbl Clive a'i fod oherwydd hynny yn cael trafferthion hefo'i waith".[4]

Yn 1990, cafwyd Roberts yn euog o'i llofruddio. Yn ôl y BBC, "er bod eu perthynas yn stormus iawn, syfrdanwyd byd y theatr Gymraeg."[5] Treuliodd 12 mlynedd yn y carchar.

Claddwyd Elinor gyda'i thad, ac yn ddiweddarach ei mam, yn mynwent Llandegla, Sir Ddinbych.[1] Roedd hi'n 34 oed.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 "Elinor Wyn Roberts (1954-1989) - Find a Grave..." www.findagrave.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-09-27.
  2. "Yr actor Clive Roberts wedi marw yn 76 oed". BBC Cymru Fyw. 2021-01-04. Cyrchwyd 2025-09-27.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 Roberts, Cefin (2023). Yn Blwmp ac yn Blaen. Bwthyn.
  4. 4.0 4.1 4.2 4.3 4.4 4.5 4.6 4.7 "Cyhuddo actor o lofruddio ei gariad". Herald Cymraeg. 20 Ionawr 1990.
  5. http://www.bbc.co.uk/cymru/radiocymru/safle/cofio/pages/1989_ffeithiau.shtml