Elin Wmffras
Gwedd
| Elin Wmffras | |
|---|---|
Elin Wmffras yn y gyfres Tipyn o Stad | |
| Ganwyd | Elin Humphreys Gorffennaf 1977 Ynys Môn |
| Alma mater | Coleg y Drindod, Caerfyrddin |
| Galwedigaeth | actores |
Actores Gymraeg sy'n wreiddiol o Ynys Môn a Dyffryn Nantlle yw Elin Wmffras (ganwyd Gorffennaf 1977).[1] Ymddangosodd mewn amrywiaeth o gyfresi drama ar S4C gan gynnwys Y Palmant Aur, Tipyn o Stad a Bob a'i Fam. Mae hi hefyd wedi ymddangos ar lwyfan mewn cynyrchiadau gan Frân Wen, Theatr Bara Caws, Cwmni Theatr Gwynedd a Llwyfan Gogledd Cymru.[2]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Wedi graddio o Goleg y Drindod, Caerfyrddin aeth yn syth i gyfres olaf Y Palmant Aur ar S4C.[2] Aeth ymlaen i bortreadu Blodeuwedd yng nghynhyrchiad "anghonfensiynol" Ian Rowlands o'r ddrama, ar gyfer Cwmni Theatr Gwynedd yn 2002.[3] [4]
Cynyrchiadau
[golygu | golygu cod]Theatr
[golygu | golygu cod]- Blodeuwedd (2002)
- Ta-Ra Teresa (2002)
Teledu a Ffilm
[golygu | golygu cod]- Y Palmant Aur
- Mae gen i Gariad
- Oed yr Addewid
- Bob a'i Fam
- Tipyn o Stad.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Elin WMFFRAS personal appointments - Find and update company information - GOV.UK". find-and-update.company-information.service.gov.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-08-03.
- ↑ 2.0 2.1 Cwmni Theatr Gwynedd (2002). Rhaglen y cynhyrchiad Ta-Ra Teresa.
- ↑ "BBC CYMRU'R BYD - Adloniant". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2025-08-03.
- ↑ "Y fewnfudwraig gan Dyfrig Jones; atodiau theatr bARN cyfrol 477, Hydref 2002". www.theatre-wales.co.uk. Cyrchwyd 2025-08-03.