Eliezer Pugh

Oddi ar Wicipedia
Eliezer Pugh
Ganwyd28 Mehefin 1815 Edit this on Wikidata
Dolgellau Edit this on Wikidata
Bu farw8 Rhagfyr 1903 Edit this on Wikidata
Lerpwl Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethdiwydiannwr, dyngarwr Edit this on Wikidata

Roedd Eliezer Pugh (28 Mehefin 18158 Rhagfyr 1903) yn ddiwydiannwr a dyngarwr Cymreig.

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganwyd Pugh yn Nolgellau yn blentyn i Edward Pugh, teiliwr, ac Elizabeth née Ellis ei wraig. Cafodd ei fedyddio yng Nghapel Salem, y Methodistiaid Calfinaidd, Dolgellau ar 14 Gorffennaf 1815 gan y Parch Robert Griffith.[1]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Yn 13 mlwydd oed symudodd Pugh i Lerpwl er mwyn mynychu ysgol. Wedi cyfnod yn yr ysgol fe aeth yn brentis i gwmni masnachwyr cotwm Rushton a Johnson. Arhosodd gyda'r cwmni am weddill ei fywyd gwaith gan godi'n bartner ac yna'n brif berchennog y cwmni.[2] Roedd yn gwmni hynod lwyddiannus. Trwy lwyddiant y busnes daeth Pugh yn un o'r Cymry Cymraeg cyfoethocaf yn Lerpwl.[3] Ymddeolodd o'i gwaith ym 1880 a gwariodd gweddill ei oes yn dawel a neilltuedig.[2]

Wedi ei fagu ar aelwyd Galfinaidd arhosodd Pugh yn driw i'r achos wedi symud i Lerpwl. Ymunodd a chapel Cymraeg Pall Mall, pan agorodd Capel Mullbury Street ymunodd a'r achos yno gan gael ei godi'n un o flaenoriaid y capel ym 1857. Cafodd ei godi'n flaenor ar yr un diwrnod a Dr Thomas Gee un o feddygon amlycaf y ddinas a brawd i'r cyhoeddwr Thomas Gee. Ym 1860 symudodd y capel i adeilad newydd yn Chatham Street ac yno bu Pugh yn aelod ac yn flaenor am weddill ei oes. Cyfrannodd filoedd o bunnoedd yn ddienw at gostau adeiladu Capel Chatham Street sydd heddiw yn rhan o gampws Prifysgol Lerpwl.[3]

Roedd gan y Methodistiaid Calfinaidd cenhadaeth gyffredinol i roi cymorth ymarferol ac i efengylu ymysg y tlawd a'r ddifreintiedig yn Lerpwl. Teimlai nifer o'r Calfiniaid Cymraeg bod y genhadaeth yn methu nifer o'r Cymry anghenus gan fod ei waith i gyd trwy'r Saesneg. Penderfynwyd creu genhadaeth Cymraeg yn y ddinas a chymerodd Pugh y cyfrifoldeb am ariannu a gweinyddu holl waith y genhadaeth yn ardal Kent Street.[4]

Roedd yn gefnogwr brwd a chyfrannwr hael i waith cenhadaeth tramor y Methodistiaid Calfinaidd yn yr India. Wedi ei farwolaeth cyflwynodd ei gartref yn 16 Faulkner Street i'r genhadaeth dramor ac yno fu ei phencadlys hyd 1969 pan symudwyd y pencadlys i Gaerdydd.[3]

Tu allan i faes crefydd roedd ganddo ddiddordeb mawr mewn addysg. Roedd yn danysgrifiwr i ac yn aelod o bwyllgor tanysgrifwyr y Coleg Normal Bangor.[5]. Bu hefyd yn gefnogwr i'r syniad o sefydlu Prifysgol yng Nghymru a phan agorwyd Prifysgol Aberystwyth addawodd £50 y flwyddyn i gronfa'r ysgoloriaethau i alluogi pobl addawol o gefndiroedd difreintiedig i fynychu'r coleg.[6] Ym 1874 rhoddodd cyfraniad o £2,300 at glirio dyledion sefydlu'r Brifysgol[7] a £300 arall at y gost o dalu am brynu Gwesty'r Castell fel cartref i'r coleg (Adeilad Yr Hen Goleg, bellach).[8] Rhoddai wobr o £5 pob blwyddyn i'r myfyriwr gorau yn arholiad Saesneg Coleg y Bala.[9]

Teulu[golygu | golygu cod]

Ym 1843 priododd Eliezer Pugh a Mary Mills o Lanidloes, ni fu iddynt blant eu hunain ond fe wnaethant magu nai a nith amddifad Mrs Pugh, Anna a James Mills. Bu farw Mrs Pugh ym 1883[10].

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw Pugh yn ei gartref, 16 Falkner St. Lerpwl yn 88 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion gyda rhai ei ddiweddar wraig ym mynwent Toxteth Park.[11]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Yr Archif Genedlaethol Cyf RG 4/3473 Cofrestrau all-blwyfol 1837 a 1857; Capel Salem, Dolgellau 1815
  2. 2.0 2.1 "LIVERPOOL - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1903-12-23. Cyrchwyd 2020-01-29.
  3. 3.0 3.1 3.2 D. Ben Rees (gol) Vehicles of Grace and Hope: Welsh Missionaries in India, 1800-1970. William Carey Library, 2002. ISBN 9780878085057
  4. "CENHADAETH DREFOL GYMREIG LIVERPOOL - Y Goleuad". John Davies. 1870-10-08. Cyrchwyd 2020-01-29.
  5. "BANGOR NORMA LCOLLEGE - The North Wales Chronicle and Advertiser for the Principality". Kenmuir Whitworth Douglas. 1873-07-12. Cyrchwyd 2020-01-29.
  6. "IUNIVERSITY COLLEGE OF WALES - The Welshman". J. L. Brigstocke. 1873-10-24. Cyrchwyd 2020-01-29.
  7. "THE UNIVERSITY COLLEGE OF WALES - The Cambrian News and Merionethshire Standard". John Askew Roberts, Edward Woodall & Richard Henry Venables. 1874-06-26. Cyrchwyd 2020-01-29.
  8. "COLLEGE BUILDING DEBT - Carnarvon and Denbigh Herald and North and South Wales Independent". James Rees. 1874-10-31. Cyrchwyd 2020-01-29.
  9. "ARHOLIAD ATHROFA Y BALA - Y Goleuad". John Davies. 1877-06-09. Cyrchwyd 2020-01-29.
  10. "Y ddiweddar Mrs Eliezer Pugh - Y Cymro". Isaac Foulkes. 1898-02-24. Cyrchwyd 2020-01-29.
  11. Toxteh Park Cemetery Inscriptions M 24 PUGH. (G.G.481)