Elias (proffwyd)
| Enghraifft o: | proffwyd a chymeriad o'r Beibl |
|---|---|
| Dyddiad cynharaf | ganwyd tua 900 CC o bosib yn Tishbe |
| Lladdwyd | tua 850 CC ger Jericho |
| Cysylltir gyda | Y Beibl |
| Dynodwyr | |
Proffwyd a gŵr y gwyrthiau oedd Elias (Hebraeg: אֵלִיָּהוּ ystyr "Fy Nuw yw Yahweh") fu'n trigo yng ngogledd teyrnas Israel [1] yn ystod teyrnasiad y Brenin Ahab yn y 9fed ganrif CC, yn ôl Llyfrau'r Brenhinoedd yn y Beibl Hebraeg.
Yn 1 Brenhinoedd 18, amddiffynnodd Elias addoliad y duwdod Hebraeg Yahweh dros addoliad y duwdod Canaaneaidd Baal. Gweithredodd Duw lawer o wyrthiau hefyd trwy Elias, gan gynnwys atgyfodiad, dod â thân i lawr o'r awyr, ac esgyn i'r nefoedd yn fyw.[2] Caiff hefyd ei bortreadu fel arweinydd ysgol o broffwydi a elwir yn "feibion y proffwydi".[3] Yn dilyn esgyniad Elias, cymerodd ei ddisgybl a'i gynorthwyydd ymroddedig Eliseus yr awenau fel arweinydd yr ysgol hon. Mae Llyfr Malachi yn proffwydo dychweliad Elias "cyn dyfodiad dydd mawr ac ofnadwy'r Arglwydd,"[4] gan ei wneud yn rhagflaenydd y Meseia a'r diwethafiaeth mewn amrywiol ffyddau sy'n parchu'r Beibl Hebraeg. Mae cyfeiriadau at Elias yn Sirach, y Testament Newydd, y Mishnah a'r Talmwd, Y Corân, Llyfr Mormon, ac ysgrifau Bahá'í. Cytuna ysgolheligion, yn gyffredinol, bod ffigwr hanesyddol o'r enw Elias yn bodoli yn yr Israel hynafol, er bod cyfrifon beiblaidd ei fywyd yn cael eu hystyried yn fwy chwedlonol nac yn hanesyddol gywir.
Mewn Llenyddiaeth
[golygu | golygu cod]Mae Cynan yn defnyddio hanes Elias fel symbyliad i'w ddrama Hen Ŵr y Mynydd (1949).
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Yonge, Charlotte Mary (1859). "The Kingdom of Samaria". The Chosen People (arg. 5th).
- ↑ 2 Brenhinoedd 11.
- ↑ 2 Brenhinoedd 3.
- ↑ Malachai 4:5.