Neidio i'r cynnwys

Electroffon

Oddi ar Wicipedia
Electroffon
Enghraifft o:dosbarth o offerynnau cerdd Edit this on Wikidata
Mathofferyn cerdd, cyfarpar trydanol Edit this on Wikidata
Rhan oHornbostel–Sachs, Dosbarthiad MIMO o offerynnau cerdd Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/0121tl edit this on wikidata
Thesawrws y BNCF2368 edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Offeryn cerdd sy'n cynhyrchu sain gan ddefnyddio trydan yw electroffon. Mae electroffonau yn un o'r prif ddosbarthiadau yn system Hornbostel–Sachs. Nid oedd y dosbarth hwn yn rhan o'r system wreiddiol a gyhoeddwyd yn 1914, ond fe'i hychwanegwyd ati gan Carl Sachs yn 1940.[1]

Mathau

[golygu | golygu cod]

Mae'r rhifau isod yn cyfeirio at y dosbarthiad yn system Hornbostel-Sachs.

  • 51: Offerynnau sydd â gweithred drydanol
Er enghraifft, organ bib sydd â falfiau aer a reolir gan solenoidau trydanol
  • 52: Offerynnau sydd â mwyhadur trydanol
Er enghraifft, piano Neo-Bechstein
  • 53: Offerynnau lle mae sain yn cael ei chynhyrchu trwy ddulliau trydanol
Er enghraifft, theremin

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Curt Sachs, The History of Musical Instruments (Efrog Newydd, 1940)