Electro-bysgota

Oddi ar Wicipedia
Gwyddonwyr yn cynnal arolwg poblogaeth a rhywogaeth drwy ddefnyddio offer electro-bysgota

Modd o bysgota yw electro-bysgota sydd yn defnyddio trydan cerrynt uniongyrchol sy'n llifo rhwng cathod ac anod suddedig. Mae hyn yn effeithio symudiant y pysgod, fel eu bod yn symud tua'r anod, lle gellir eu dal.[1]

Mae electro-bysgota yn ddull arolwg gwyddonol cyffredin er mwyn samplu poblogaethau pysgod i bennu eu nifer, dwysedd a'r rhywogaeth. Pan gaiff ei berfformio'n gywir, nid yw electro-bysgota yn arwain at niwed parhaol i bysgod, sy'n dychwelyd i'w stad naturiol mewn llai na dwy funud ar ôl cael eu dal. 

Dull[golygu | golygu cod]

Mae electro-bysgota yn dibynnu ar ddau electrodau sy'n rhoi cerrynt uniongyrchol foltedd uchel i'r cathod drwy'r dŵr. Pan mae pysgodyn yn dod ar draws disgyniad posibl digon mawr, mae'n cael ei ffeithio gan y trydan. Fel arfer caiff pylsiadau cerrynt uniongyrchol eu darparu, sy'n achosi galvanotaxis yn y pysgod. Dirdyniadau cyhyrol direolaeth yw galvanotaxis, sy'n achosi i'r pysgod nofio tuag at yr anod. Mae angen o leiaf dau berson er mwyn electro-bysgota'n effeithiol: un i weithredu'r anod, a'r llall i ddal y pysgod â rhwyd.[2]

Electro-bysgota mewn cwch

Effeithiolrwydd[golygu | golygu cod]

Caiff effeithiolrwydd electro-bysgota ei ddylanwadu gan ystod o ffactorau biolegol, technegol, logistaidd ac amgylcheddol. Mae maint y pysgod a chyfansoddiad rhywogaeth yn effeithio ar yr hyn a gaiff ei ddal. Wrth ddefnyddio pylsiadau o gerrynt uniongyrchol, mae cyfradd y pwls a'r dwysedd y maes trydanol yn effeithio'n fawr ar faint a natur yr hyn a gaiff ei ddal. Mae dargludedd y dŵr yn effeithio ar siâp a maint y maes trydanol.

Gall hefyd niweidio'r pysgod. Mae'r trydan yn achosi spasmau yn y cyhyrau sy'n niweidio'r asgwrn cefn. Mae hyn yn fwy cyffredin a difrifol mewn pysgod hirach, ond nid yw'n wybyddus pam.[3][4]

Y gyfraith[golygu | golygu cod]

Er y caiff electro-bysgota ei ddefnyddio gan nifer o asiantaethau llywodraethol, gall fod yn anghyfreithlon i'w ddefnyddio fel modd o bysgota hamdden. Gellid ystyried y dull hwn yn botsio. Er enghraifft, yn Fflorida mae electro-bysgota at ddibenion personol yn groes i'r gyfraith daleithiol.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "FISHNET SHOCKINGS" Archifwyd 2016-12-20 yn y Peiriant Wayback..
  2. Balachandran, Ajay; Krishnan B; Lizha John (2 December 2013). "ACCIDENTAL DEATHS DUE TO ELECTROCUTION DURING AMATEUR ELECTRO-FISHING". Journal of Evolution of Medical and Dental Sciences 2 (48): 9376–9379. http://www.jemds.com/data_pdf/ajay%20balachandran.pdf. Adalwyd 2 December 2013.
  3. 2003 study: Immobilization Thresholds of Electrofishing Relative to Fish Size, biologists Chad Dolan and Steve Miranda
  4. http://opensample.info/effect-of-electrofishing-pulse-shape-and-electrofishing-induced-spinal-injury-on-long-term-growth-and-survival-of-wild-rainbow-trout

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]