Eleanor Steber

Oddi ar Wicipedia
Eleanor Steber
Ganwyd17 Gorffennaf 1914 Edit this on Wikidata
Wheeling, Gorllewin Virginia Edit this on Wikidata
Bu farw3 Hydref 1990 Edit this on Wikidata
Langhorne, Pennsylvania Edit this on Wikidata
Label recordioDecca Records Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner UDA UDA
Galwedigaethcanwr opera, athro cerdd Edit this on Wikidata
Arddullopera Edit this on Wikidata
Math o laissoprano Edit this on Wikidata
Gwobr/auseren ar Rodfa Enwogion Hollywood Edit this on Wikidata

Roedd Eleanor Steber (17 Gorffennaf 19143 Hydref 1990) yn soprano operatig Americanaidd. Nodir Steber fel un o'r sêr opera mawr cyntaf i gael llwyddiant mawr gyda hyfforddiant a gyrfa wedi'i lleoli yn yr Unol Daleithiau.[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganed Eleanor Steber yn Wheeling, Gorllewin Virginia ar 17 Gorffennaf, 1914. Roedd hi'n ferch i William Charles Steber, yr hynaf (1888-1966) ac Ida Amelia (née Nolte) Steber (1885-1985). Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn yr Opera Metropolitan ym 1940 ac roedd yn un o'i artistiaid blaenllaw trwy 1961. Roedd hi'n adnabyddus am ei llais ariannaidd mawr, hyblyg, yn enwedig yn rolau soprano uchel Richard Strauss. Roedd hi'r un mor adnabyddus am ei phortreadau telynegol o arwresau Mozart, llawer ohonynt mewn cydweithrediad â'r arweinydd Bruno Walter. Y tu hwnt i Mozart a Strauss roedd ei repertoire yn eithaf amrywiol.[2]

Roedd hi'n nodedig am ei llwyddiant efo gwaith Wagner, Alban Berg, Giacomo Puccini [3] a hefyd am ei gwaith ym myd opera Ffrainc. Canodd Steber y brif ran fenywaidd yn première y byd o'r opera Americanaidd Vanessa gan Samuel Barber. Bu hi hefyd a rhannau mewn nifer o premières yr Opera Metropolitan, gan gynnwys Arabella Strauss, Die Entführung aus dem Serail gan Mozart, a Wozzeck gan Alban Berg.

Tu allan i'r Opera Metropolitan roedd ei gyrfa'n cynnwys rhannau yng Ngŵyl Wagner Bayreuth ym 1953, lle cafodd ei pherfformiad fel Elsa yn Lohengrin ganmoliaeth uchel; cafodd ei recordio gan gwmni recordiau Decca. Canodd gydag Arturo Toscanini yn ei ddarllediad yn arwain Symffoni'r NBC ym 1944 mewn perfformiad o Fidelio Beethoven. Ym 1954 yng Ngŵyl Mai Fflorens canodd berfformiad clodwiw o Minnie yn La fanciulla del West gan Puccini o dan arweinyddiaeth Dimitri Mitropoulos. Gyda Serge Koussevitzky a Cherddorfa Symffoni Boston canodd y première y byd ym 1948 o Knoxville: Summer of 1915 gan Samuel Barber, gwaith a gomisiynwyd ganddi hi.[4]

Y tu hwnt i'r opera, roedd Steber yn boblogaidd ymhlith cynulleidfaoedd radio a theledu mewn ymddangosiadau mynych ar y sioeau radio Americanaidd The Voice of Firestone, The Bell Telephone Hour a rhaglenni eraill.[5] Roedd ei hallbwn recordio helaeth yn cynnwys llawer o faledi poblogaidd ac alawon opereta yn ogystal ag ariâu, caneuon celf ac operâu cyflawn.

Ym 1973 recordiodd albwm byw o ariâu a chaneuon ar gyfer RCA Red Seal yn y Continental Baths yn Ninas Efrog Newydd lle'r oedd Bette Midler ifanc ar y pryd yn berfformiwr rheolaidd. Ar yr un pryd roedd hi'n dal i gael ei chlywed mewn datganiad yn Neuadd Carnegie a chanodd berfformiad hwyr yn ei gyrfa o Vier letzte Lieder (pedair gan olaf) Richard Strauss gyda James Levine a Cherddorfa Cleveland.

Er ei bod yn cael ei hadnabod fel artist o'r safonau uchaf, sylwodd rhai beirniaid fod ei bywyd personol tymhestlog honedig wedi effeithio ar ei llais. Yn ôl rhai adroddiadau, yn dilyn llwyddiant ysgubol ym 1946 fel yr Iarlles yn Le nozze di Figaro (Priodas Figaro) yng Ngŵyl Caeredin,[6] cytunodd cwmni recordio HMV recordio hi'n perfformio darnau o waith Mozart ac ariâu poblogaidd eraill. Yn ôl adroddiad Walter Susskind, arweinydd perfformiadau Caeredin a'r recordiad arfaethedig, fe gyrhaeddodd Stiwdios Abbey Road yn teimlo'n sâl, ar ôl bod i fyny'r rhan fwyaf o'r nos. Ni allai ganu ei ariâu safonol, gan ddweud "Dwi ddim yn teimlo fel canu hynny." Er mwyn ceisio achub rhywbeth o'r sesiwn recordiau gofynnodd Susskind, iddi be oedd hi'n teimlo fel canu teimlo fel canu?". Ar ôl feddwl am eiliad awgrymodd Steber rhoi cynnig ar Depuis le jour '" (allan o Louise). Cafwyd hyd i rannau cerddorfa a thorrwyd y ddisg mewn un ymgais recordio. Daeth yn recordiad enwog o'r aria, gan ddatgelu llinell leisiol delynegol wych a dehongliad huawdl.

Ar ôl ymddeol o ganu, bu Steber yn dysgu yn Sefydliad Cerdd Cleveland ac Ysgol Juilliard a chynnal stiwdio lais preifat. Sefydlodd Sefydliad Lleisiol Eleanor Steber gyda chystadleuaeth flynyddol i gynorthwyo cantorion ifanc i lansio eu gyrfaoedd. Mae ei recordiadau niferus ar gael o hyd, ynghyd â thapiau sain a gweledol o'i darllediadau radio a theledu ar gyfer y rhaglen radio The Voice of Firestone. Mae ei phapurau yn cael eu cadw gan Lyfrgell Houghton ym Mhrifysgol Harvard.

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Roedd Steber yn brwydro ar adegau gydag asthma ac alcoholiaeth.[7] Bu hi'n briod ddwywaith. Ei gŵr cyntaf oedd y pianydd Edwin Lee Bilby. Ei hail ŵr oedd y Cyrnol Gordon Andrews, a briododd ym 1958, ar yr adeg y creodd rôl Vanessa yn yr Opera Metropolitan. Rheolodd Andrews ei gyrfa a chychwyn y cwmni recordio STAND, menter ar y cyd a gynhyrchodd nifer o recordiadau o berfformiadau Steber. Buont yn briod am naw mlynedd.[8] Roedd ganddi dri llysblentyn: Marsha Andrews, cantores opera a astudiodd gyda hi yn Sefydliad Cerdd Cleveland ac yn Efrog Newydd ac a fu hefyd yn canu yn yr Opera Metropolitan am 12 tymor; Gordon Andrews Jr., fu'n gweithio i gwmni General Motors; a Michelle Andrews Oesterle, arweinydd corawl, cantores a sylfaenydd Corws Merched Manhattan.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw ar Hydref 3, 1990, yn Langhorne, Pennsylvania, yn dilyn llawdriniaeth falf y galon ac mae wedi ei gladdu ym Mynwent Greenwood, Wheeling, Gorllewin Virginia.[7]

Disgyddiaeth ddethol[golygu | golygu cod]

  • Eleanor Steber sings Richard Strauss ; Sain VAI; gyda Karl Böhm (trac 1af), James Levine (2il drac, encore), yn arwain. Recordiwyd: Munich, 4 Mehefin, 1953, (trac 1af); Cleveland, 5 Mai, 1970 (2il drac, encore)
  • Eleanor Steber sings Mozart - Selections Voice of Firestone; Sain VAI; gyda Robert Lawrence (traciau 1 - 6), Wilfred Pelletier (trac 7) a Howard Barlow (traciau 8 - 10), yn arwain. Recordiwyd Ebrill, 1960 (traciau 1 - 6); o ddarllediadau radio Voice of Firestone, 1946–1952 (gweddill).
  • Eleanor Steber, her first recording (1940); Sain VAI; Wilfrid Pelletier, arweinydd; Recordiwyd 30–31 Mai, 1940 a 25–26 Mehefin, 1940, Neuadd y Dref, Dinas Efrog Newydd; a 17 Mehefin, 1940, yr Academi Gerdd, Philadelphia.
  • The Eleanor Steber Collection. Vol. 1, The Early Career, 1938–1951; Recordwyd 1938–1951.
  • Puccini Madama Butterfly; Clasuron Sony / Columbia; Jean Madeira, Suzuki  ; Cerddorfa a Chorws Opera Metropolitan; "Cynhyrchiad Cymdeithas yr Opera Metropolitan 1949".
  • Samuel BarberKnoxville: Summer of 1915 (Columbia Masterworks). Cerddorfa Siambr Dumbarton Oaks, William Strickland, arweinydd. Recordiwyd 7 Tachwedd, 1950.
  • Wagner - Lohengrin; Teldec; Yn fyw o Ŵyl Bayreuth; Josef Keilberth, arweinydd. 1953.
  • Puccini - La Fanciulla del West 15 Mehefin 1954 perfformiad byw yn y Florence Maggio Musicale, arweinydd Dimitri Mitropoulos, gyda Mario Del Monaco a Gian Giacomo Guelfi (datganiad CD 2008 ar Regis Records RRC2080)
  • Samuel Barber - Vanessa ; RCA Victor ; Cerddorfa a Chorws yr Opera Metropolitan; Dmitri Mitropoulos, arweinydd. Recordiwyd Chwefror ac Ebrill 1958 yng Nghanolfan Manhattan.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Peter G, Davis; The American Opera Singer: The Lives and Adventures of America's Great Singers in Opera and In Concert From 1825 to the Present. Doubleday (1997) ISBN 978-0385421737
  2. Steber ,Eleanor gyda Sloat, Marcia; Eleanor Steber: An Autobiography; Wordsworth, (1992). ISBN 9780963417404
  3. Casgliad Eleanor Steber, ca. 1920–1990, Llyfrgell Houghton, Prifysgol Harvard adalwyd 8 Gorffennaf 2020
  4. Macy, Laura (gol); The Grove Book of Opera Singers, tud 464. Gwasg Prifysgol Rhydychen (2008). ISBN 9780195337655
  5. Los Angeles Times, 4 Hydref 1987, THE EFFORTLESS ELEANOR STEBER adalwyd 8 Gorffennaf 2020
  6. Opera Scotland Nozze di Figaro 1947 adalwyd 8 Gorffennaf 2020
  7. 7.0 7.1 Andrea’s cantabile – subito Eleanor Steber adalwyd 8 Gorffennaf 2020
  8. Eleanor Steber (Soprano) - Short Biography adalwyd 8 Gorffennaf 2020

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]