Neidio i'r cynnwys

Eleanor Daniels

Oddi ar Wicipedia
Eleanor Daniels
Eleanor Daniels, o gyhoeddiad yn 1914
Ganwyd28 Rhagfyr 1886 Edit this on Wikidata
Llanarthne Edit this on Wikidata
Bu farw18 Mawrth 1994 Edit this on Wikidata
Darien Edit this on Wikidata
Llysenw/auEllyw (enw barddol)
Galwedigaethactor, hyfforddwr llais Edit this on Wikidata

Actores lwyfan a ffilm o Gymru oedd Eleanor Daniels (28 Rhagfyr 188618 Mawrth 1994).

Bywyd cynnar

[golygu | golygu cod]

Ganed Eleanor Jane Daniels yn Llanarthne a'i magu yn Llanelli, yn ferch i David Daniels a Margaret Daniels (nae Jones) . Masnachwr gwair a thafarnwr oedd ei thad, roedd yn cadw Tafarn Y Fountain Inn yn Llanelli[1][2]. Cafodd lwyddiant cyhoeddus cyntaf yn 13 oed, pan enillodd wobr mewn eisteddfod leol.[3] Erbyn 1907[4] roedd wedi enill tair cadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol, a roedd yn astudiodd actio gyda chwmni Herbert Beerbohm Tree.[2]

Bu Eleanor Daniels yn dysgu ysgol yn ferch ifanc, ac roedd yn actio mewn dramâu llwyfan Cymraeg ym Mhrydain Fawr. Bu ar daith i'r Unol Daleithiau gyda'r Welsh Players yn 1914[5]. Symudodd i'r Unol Daleithiau yn fuan wedyn, ac ymddangosodd ar lwyfan ac mewn ffilmiau mud,[6][7] gydag adolygiadau da am ei gwaith.[8] Fe wnaeth Dorothy Parker sylw fod "Eleanor Daniels yn gweithio'n frwd ac ei bod yn ddoniol."[9]

Roedd rhannau llwyfan Eleanor yn cynnwys rhannau yn Change (Llundain 1912, 1913, Efrog Newydd 1914)[10][11][12][13], The Joneses (Llundain 1913), Kitty MacKay (1914)[14][15], Loyalty, Heart of the Heather, Zach, Kitty Darlin' (1917)[16], Lassies, La La Lucille (1919, 1920)[17], Ashes (1924)[18], The Beaten Track (1926)[19][20], Juno and the Paycock (1926)[21], a Rain.[2] Roedd ei hymddangosiadau ffilm yn cynnwys rhan yn If Winter Comes (1923)[20][22]. Bu'n hyfforddwraig llais[3] yn Efrog Newydd yn ddiweddarach yn ei bywyd, ac roedd yn gweithio gyda elusen diabetes.[23]

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Bu farw Eleanor Daniels yn 1994, yn 107 mlwydd oed, yn Darien, Connecticut. Dadorchuddiwyd plac glas yn anrhydeddu Eleanor Daniels yn Llanelli yn 2011.[23]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Censws Cymru a Lloegr 1901. 31 Mawrth 1901. https://www.nationalarchives.gov.uk/.
  2. 2.0 2.1 2.2 Lyons, Stephen. "Treftadaeth Gymunedaol Llanelli". Gwreiddiol ar 19 Medi 2020. Adalwyd 4 Ebrill 2021.. https://www.llanellich.org.uk/files/99-eleanor-daniels.
  3. 3.0 3.1 "Eleanor Daniels recites, aged 104". BBC News - 4 Ebrill 2021. (Yn Saesneg). https://www.bbc.co.uk/news/av/uk-wales-15219969.
  4. Miss Eleanor Daniels. The Cambrian, 30 Awst 1907, Tud. 2 - Papurau Newydd Cymru. https://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/view/3349718/3349720/5/Eleanor%20Daniels.
  5. "Hits of the Month". The Theatre. 19: 322. Mehefin 1914.. https://books.google.com/books?id=feAxAQAAMAAJ&dq=Eleanor+Daniels+wales&pg=PA322.
  6. "People: Eleanor Daniels". Silent Era, Wedi' archifo o'r gwreiddiol ar 14 Tachwedd 2011. Adalwyd 4 Ebrill 2021.. http://www.silentera.com/people/actresses/Daniels-Eleanor.html.
  7. Patterson, Ada (Medi 1914). ""Actresses Who Have Their Chance This Season".". Cyclgrawn 'Theatre Magazine'. 20: 106.. https://books.google.com/books?id=5-AxAQAAMAAJ&dq=Eleanor+Daniels+actress&pg=PA106.
  8. "Miss Eleanor Daniel. American Tribute to Llanelly's Talent Actress". Llanelly Star. 21 Chwefror 1914. Tud. 3. Adalwyd 4 Ebrill 2021 – trwy Bapurau Newydd Cymru.. https://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/view/4122781/4122784/32/Eleanor%20Daniels.
  9. Parker, Dorothy (Awst 1919). ""The First Shows of Summer"". Vanity Fair. Cyf. 11. Tud. 66.. https://books.google.com/books?id=1cM-AQAAMAAJ&dq=Eleanor+Daniels+works+enthusiastically+at+being+funny&pg=RA8-PA66.
  10. Wearing, J.P. (19 Rhagfyr 2013). "The London Stage 1910-1919. A Calendar of Productionms, Performers, and Personnel". Gwasg 'Scarecrow Press'. ISBN 978-0-8108-9300-9. https://books.google.com/books?id=KMFnAgAAQBAJ&dq=Eleanor+Daniels+wales&pg=PT569.
  11. ""Stage Society: 'Chance'". Papur The Observer. 14 Rhagfyr 1913. Tud. 9. Adalwyd 4 Ebrill 2021 – drwy Newspapers.com.. https://www.newspapers.com/clip/75110488/stage-society-chance/.
  12. ""Booth"". Papur Newydd 'The Theatre'. 19: 158 Mawrth 1914. https://books.google.com/books?id=feAxAQAAMAAJ&dq=Eleanor+Daniels+wales&pg=PA158.
  13. ""'Change' is a Rare Play"". Papur Newydd 'Harrisburg Daily Independent'. 3 Mawrth 1914. p. 4. Adalwyd 4 Ebrill 2021 – trwy Newspapers.com.. https://www.newspapers.com/clip/75111148/change-is-a-rare-play/.
  14. ""With the First Nighters: Kitty McKay"". Goodwin's Weekly. 23: 10. 15 Tachwedd 1914.. https://books.google.com/books?id=9J5EAQAAMAAJ&dq=Eleanor+Daniels+actress&pg=RA20-PA10.
  15. ""'Kitty MacKay' Moves to the Cort Theatre"". The Boston Globe. 4 Ebrill 1915. Tud. 62. Adalwyd 4 Ebrill 2021 – Trwy Newspapers.com.. https://www.newspapers.com/clip/75109968/kitty-mackay-moves-to-the-cort-theatre/.
  16. ""Alice Nielsen in Comic Opera".". The Boston Globe. 30 Hydref 1917. Tud. 4. Adalwyd 4 Ebrill 2021 – Trwy Newspapers.com.. https://www.newspapers.com/clip/75109648/alice-nielsen-in-comic-opera/.
  17. ""La La Lucille (hysbyseb)". Chicago Tribune.". 30 Tachwedd 1919. Tud. 85. Adalwyd 4 Ebrill 2021 – Trwy Newspapers.com.. https://www.newspapers.com/clip/75109767/la-la-lucille-advertisement/.
  18. Mantle, Burns; Sherwood, Garrison P. (1925). "The Best Plays and the Year Book of the Drama in America". Dodd, Mead. Tud. 475.. https://books.google.com/books?id=_JM9AQAAIAAJ&dq=Eleanor+Daniels+actress&pg=PA475.
  19. Allen, Kelcey (9 Chwefror 1926). "Amusements: 'The Beaten Track' Drama Of Life And Death, Opens At Frolic: Eleanor Daniels And Gavin Muir Excellent In Play With Scene Laid In Wales". Women's Wear. Tud. 13 – Drwy ProQuest..
  20. 20.0 20.1 ""An Old Woman Now"". The Brooklyn Daily Eagle. 7 Chwefror 1926. Tud. 62. Adaliad 4 Ebrill 2021 – Trwy Newspapers.com.. https://www.newspapers.com/clip/75110190/an-old-woman-now/.
  21. Allen, Kelcey (16 Mawrth 1926). "Vibrant Drama Of Irish Life Finely Acted At Mayfair: 'Juno And The Paycock,' By Sean O'Casey, Is Realistic And Powerful Study Leavened By Homely Humor". Women's Wear. Tud. 12 – Trwy ProQuest..
  22. The American Film Institute Catalog of Motion Pictures Produced in the United States. University of California Press. p. 374.. "The American Film Institute Catalog of Motion Pictures Produced in the United States.". Gwast Prifysgol California. Tud. 374. ISBN 978-0-520-20969-5. https://books.google.com/books?id=rlLbRAPOgP0C&dq=Eleanor+Daniels+actress&pg=PA374.
  23. 23.0 23.1 ""Silent film actress Eneanor Daniels' plaque in Llanelli"". Gwefan Newyddion BBC. 9 Hydref 2011. Wedi'i archifo o'r gwreiddiol ar 16 Mehefin 2024. Adalwyd 4 Ebrill 2021. https://www.bbc.com/news/uk-wales-15187734.