Elbrus
Gwedd
Math | mynydd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Y Saith Pegwn, Volcanic Seven Summits |
Sir | Elbrussky District |
Gwlad | Rwsia |
Uwch y môr | 5,642 metr |
Cyfesurynnau | 43.35254°N 42.437875°E |
Manylion | |
Amlygrwydd | 4,741 metr |
Rhiant gopa | Elbrus |
Cadwyn fynydd | Bokovoy Range |
Deunydd | rhyolite, twff, gwenithfaen, gneiss, schistose rock |
Elbrus neu Mynydd Elbrus (Rwseg: Эльбрус) yw copa uchaf Mynyddoedd y Cawcasws, 5,642 medr uwch lefel y môr. Yn ôl rhai, ef yw copa uchaf Ewrop, ond mae ansicrwydd ymhle yn union y mae'r ffîn rhwng Ewrop ac Asia yn yr ardal yma. Os ystyrir mai yn Asia y mae Elbrus, Mont Blanc yw copa uchaf Ewrop.
Ceir dau prif gopa. Mae Elbrus yn llosgfynydd, er nad yw'n ffrwydro ar hyn o bryd. Ceir dros 70 rhewlif ar ei lethrau. Yr enw gan yr Arabiaid yn y Canol Oesoedd oedd Jabal al-alsun. Saif yng ngweriniaeth hunanlywodraethol Kabardino-Balkaria yn Rwsia, tua 11 km i'r gogledd o'r ffîn â Georgia.