El Haouaria

Oddi ar Wicipedia
El Haouaria
Mathmunicipality of Tunisia Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirNabeul Edit this on Wikidata
GwladBaner Tiwnisia Tiwnisia
Arwynebedd42 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau37.05°N 11.0111°E Edit this on Wikidata
Map

Tref fechan yng ngogledd-ddwyrain Tiwnisia yw El Haouaria neu El-Haouaria (Arabeg:الهوارية ). Fe'i lleolir ger penrhyn Cap Bon yn yr ardal o'r un enw, yng ngogledd talaith Nabeul. Filltir a hanner i'r gogledd o'r dref ceir hen chwareli Ffeniciaidd-Rhufeinig El Haouaria. Mae'r dref ei hun yn gorwedd ar ysgwydd o dir uwch rhwng y safle hwnnw a harbwr Ras el-Drek a'i draeth.

Yn codi tu ôl i'r dref mae Cap Bon ei hun, gyda goleudy yn sefyll uwch y clogwynni ysgythrog. Jebel Abiod yw enw'r copa uchaf. Mae'r dref ei hun yn dawel a dim ond yr hen chwareli sy'n atynnu ambell ymwelydd yn yr haf.

Ogofâu chwarelu Ffenicaidd El Haouaria

Mae El Haouaria yn adnabyddus hefyd am ei chanolfan hebogaeth. Er ei bod yn gysylltiedig â bywyd y bendefigaeth yn Ewrop, yn El Haouaria y werin bobl sy'n ymddiddori ynddi. Mae'r adar yn perthyn i deuluoedd ac yn cael eu trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth.

Ym misoedd Mai a Mehefin, daw nifer o ornitholegwyr i'r rhan yma o'r Cap Bon er mwyn gweld yr adar niferus sy'n aros yno i ddal thermal i'w cludo dros Gulfor Sisili i'w tir nythu yn Ewrop.

Bu'r chwareli Ffeniciaidd, a adnabyddir fel y Grottes romaines (Ogofâu Rhufeinig) yn ffynhonnell ar gyfer adeiladau Carthago ers y 6g CC. Arferid dwyn y cerrig ar longau dros Gwlff Tiwnis i Garthago. Mae'r garreg yn dywodfaen melyn sy'n hawdd i'w dorri a'i drin. Yn ogystal, mae'r chwareli ar ymyl y môr ac felly roedd y cerrig yn hawdd i'w symud oddi yno. Defnyddiwyd les grottes gan y Rhufeiniaid yn eu tro. Canlyniad dros fil o flynyddoedd o weithio'r chwareli yw cyfres o ogofâu mawr a gysylltir gan dwneli dan y graig. Torrywd siafftiau i adael golau'r dydd i mewn.

Yn y môr gyferbyn â safle'r chwareli mae ynysoedd Zembra a Zembretta.