Eisteddfod y Wladfa

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Eisteddfod del Chubut)
Eisteddfod y Wladfa, tua 1880.

Gŵyl flynyddol i ddathlu diwylliant Cymraeg y Wladfa yw Eisteddfod y Wladfa (Sbaeneg: Eisteddfod del Chubut) a gynhelir yn Nhrelew, Chubut, yr Ariannin, ym mis Hydref.

Cadair eisteddfodol y Wladfa, 1920.

Honnir i'r eisteddfod gyntaf yn y Wladfa gael ei gynnal ar 25 Rhagfyr 1865, yr un flwyddyn i'r ymfudwyr Cymreig cyntaf gyrraedd Patagonia ar long y Mimosa. Wrth i'r Wladfa ddatblygu, cynhaliwyd eisteddfodau pob blwyddyn bron, ac hefyd cyfarfodydd a chystadlaethau lleol o'r enw "cyrddau llenyddol" ar draws Dyffryn Camwy wrth baratoi ar gyfer y brifwyl.[1] Cyhoeddwyd ambell waith llenyddol o'r eisteddfod yn nhudalennau Y Drafod, papur newydd a sefydlwyd gan Lewis Jones ym 1891.[2] Byddai'r Drafod hefyd yn cyhoeddi rhaglen yr eisteddfod o flaen llaw, a rhestrau manwl o'r enillwyr a beirniadaethau'r prif gystadlaethau ar ddiwedd yr ŵyl, ac hefyd adroddiadau o gyrddau llenyddol gan ohebyddion lleol.[3] Ni chynhaliwyd Eisteddfod y Wladfa yn y cyfnod o 1950 i 1965, ac wedi 1966 byddai'r ŵyl yn agored i gystadlaethau llenyddol yn yr iaith Sbaeneg.[4]

Cynhaliwyd Eisteddfod y Plant am y tro cyntaf yn y Gaiman ym 1929, a fyddai'n parhau hyd yn oed yn y cyfnod 1950–65 pryd na châi'r brifwyl ei chynnal.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Walter Ariel Brooks, "Welsh Print Culture in y Wladfa: The Role of Ethnic Newspapers in Welsh Patagonia, 1868–1933" (thesis academaidd, Prifysgol Caerdydd, 2012), t. 37.
  2. Brooks, "Welsh Print Culture in y Wladfa" (2012), t. 166.
  3. Brooks, "Welsh Print Culture in y Wladfa" (2012), t. 236.
  4. Walter A. Brooks a Geraldine Lublin, "The Eisteddfod of Chubut, or how the reinvention of a tradition has contributed to the preservation of a language and culture", Beyond Philology 4 (2007), tt. 245–59
  5. Brooks, "Welsh Print Culture in y Wladfa" (2012), t. 223.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]