Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Ynys Môn 2026
| Enghraifft o: | Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd |
|---|---|
| Dechreuwyd | 23 Mai 2026 |
| Daeth i ben | 29 Mai 2026 |
| Gwladwriaeth | Cymru |
| Dynodwyr | |
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Ynys Môn 2026 ar gae Sioe Amaethyddol Môn rhwng 23 a 29 Mai 2026.[1] Bydd yr eisteddfod yn dychwelyd i Ynys Môn am y tro cyntaf ers 2004.[2]
Dyma fydd y flwyddyn gyntaf i'r ŵyl bara am saith diwrnod, mewn ymateb i'r cynydd o gofrestriadau i gystadlu a'r galw am ragor o gystadleuthau.[3] Mae'r drefn newydd yn golygu bod y cystadlu yn dechrau ar ddydd Sadwrn y Sulgwyn ac yn parhau hyd dydd Gwener 29 Mai.
Trefn newydd cystadlu fel a ganlyn:[4]
- Dydd Sadwrn: Dysgwyr, Dawnsio Disgo
- Dydd Sul: Aelwydydd
- Dydd Llun: Uwchradd bl10 a dan 19, ADY
- Dydd Mawrth: Uwchradd bl7,8,9 ac offerynnol bl10 a dan 25
- Dydd Mercher: Adrannau, Uwchradd offerynnol bl7,8,9
- Dydd Iau: Cynradd (Cân actol a Pherfformiad theatrig i ysgolion ac Adrannau)
- Dydd Gwener: Cynradd
Bydd y sioe Ieuenctid, 'FFAWD A FFYDD', yn cynnwys plant yr ardal, ac mae'r sgript gan y Fônwyswraig Branwen Davies.[5]
Dyluniwyd a chrëwyd Cadair yr Eisteddfod gan Siôn Edwards o Lanfaelog, ac mae'n seiliedig ar ddyluniad y pensaer Rhiannon Williams. Mae ar y thema 'afonydd i'r môr', ac yn rhoi sylw i felinau gwynt Ynys Môn.[6] Dyluniwyd a chrëwyd y Goron gan y gemydd Myfanwy Jones, ddaw'n wreiddiol o Lanfairpwll, ac mae traethau a symbolau Celtaidd Môn yn themau cryf ynddi. Cafodd y gadair ei chreu gyda nawdd gan Gymdeithas Amaethyddol Môn ac mae'r Urdd yn diolch i Eiddo Cyf am eu nawdd ar gyfer y goron. Cafodd y gwobrau eu dadorchuddio mewn digwyddiad yn Oriel Môn, Llangefni ar 12 Mai.[7]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd
- Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd - rhestr enillwyr
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Urdd Gobaith Cymru / Ynys Môn 2026". www.urdd.cymru. Cyrchwyd 15 Ebrill 2026.
- ↑ "Môn Mam Cymru i groesawu Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd estynedig yn 2026". www.ynysmon.gov.uk. Cyrchwyd 15 Ebrill 2026.
- ↑ "Eisteddfod yr Urdd i ehangu i ŵyl saith diwrnod o 2026". newyddion.s4c.cymru. 30 Mai 2025. Cyrchwyd 15 Ebrill 2026.
- ↑ "Cyhoeddi newid i drefn cystadlaethau Eisteddfod yr Urdd". newyddion.s4c.cymru. 8 Medi 2025. Cyrchwyd 15 Ebrill 2026.
- ↑ "Sioe Ieuenctid Eisteddfod yr Urdd, Ynys Môn 2026". Môn360. 6 Ionawr 2026. Cyrchwyd 15 Ebrill 2026.
- ↑ "Dadorchuddio Cadair a Choron Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026". newyddion.s4c.cymru. 12 Mai 2026. Cyrchwyd 12 Mai 2026.
- ↑ "Afonydd a thraethau Môn yn ysbrydoli Cadair a Choron yr Eisteddfod". BBC Cymru Fyw. 12 Mai 2026. Cyrchwyd 12 Mai 2026.
| ||||||||