Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Maldwyn 2024
Enghraifft o'r canlynol | Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd |
---|---|
Dechreuwyd | 27 Mai 2024 |
Daeth i ben | 1 Mehefin 2024 |
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Maldwyn 2024 ar Fferm Mathrafal ger pentref Meifod, Powys rhwng 27 Mai a 1 Mehefin 2024. Roedd y man wedi bod yn leoliad i ddau Eisteddfod Genedlaethol Cymru cyn hynny - Eisteddfod Maldwyn a'r Gororau 2003 ac Eisteddfod 2015.
Parhawyd â'r is-ŵyl lled newydd, Gŵyl Triban, wedi llwyddiant blaenorol. Roedd Gŵyl Triban yno i "gynnig adloniant i'r holl deulu - cerddoriaeth byw, comedi, sgyrsiau, stodinau, bar a bwyd" rhwng 31 Mehefin a 1 Mai fel rhan o'r Eisteddfod. Y grŵp Bwncath agorodd yr ŵyl ac Eden wnaeth gloi.[1]
Dyluniwyd a chrëwyd Cadair yr Eisteddfod gan Siôn Jones, mab fferm a saer o Gaersws gyda dyluniad yn cynnwys nodweddion daearyddol yr ardal fel afon Hafren a Llyn Efyrnwy ynddo. Naddwyd map o Gymru i'r sedd gan grefftwr lleol, Chris Gethin, fel ychwanegiad iddo. Dyluniwyd a chrëwyd y Goron gan Mari Eluned o Fallwyd gyda thema amaeth a natur yn gryf ynddi.[2]
Niferoedd
[golygu | golygu cod]Dathlodd yr Urdd iddynt dorri record o niferoedd yn cofrestru i gystadlu (100,454) mewn dros 400 o gystadlaethau. Roedd hyn yn cynnwys mwy nag erioed o’r blaen o ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg newydd.[3]
Wrth arwain at wythnos y digwyddiad ei hun ym mis Mai, datganodd yr Urdd bod 70,511 o blant a phobl ifanc wedi cystadlu mewn 208 o Eisteddfodau Cylch a Rhanbarth y flwyddyn honno.[4]
Yn sgil cefnogaeth ariannol o £150,000 gan Lywodraeth Cymru galluogwyr i deuluoedd incwm is hawlio tocynnau am ddim i Faes Eisteddfod yr Urdd. Roedd hyn yn dilyn llwyddiant menter debyg yn 2023.[4]
Gwobr newydd
[golygu | golygu cod]Am y tro cyntaf eleni dewiswyd chwech o berfformwyr ifanc rhwng 18 a 25 oed o blith y cystadlaethau i unigolion o dan 25 i fod yn Llysgenhadon Diwylliannol Rhyngwladol Ifanc yr Urdd a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Y chwech oedd: Tomos Heddwyn Griffiths (Trawsfynydd), Owain Rowlands (Llandeilo), Morus Caradog Jones, Eiriana Jones-Campbell, Nansi Rhys Adams ac Owain Siôn o Gaerdydd.[3]
Ysgoloriaeth yr Eisteddfod
[golygu | golygu cod]Cadi Glwys Davies o Foelfre, Maldwyn (Aelwyd Sycharth) enillodd Ysgoloriaeth yr Eisteddfod, sef, ysgoloriaeth i’r cystadleuwyr mwyaf addawol yn yr oedran blwyddyn 10 a dan 19 oed. Roedd Cadi wedi cael wythnos brysur iawn gan brofi llwyddiant mewn sawl cystadleuaeth gan gynnwys y Ddawns Stepio, Perfformiad Theatrig Unigol yn ogystal â hyfforddi grwpiau dawnsio gwerin newydd sbon a serennu yn Sioe Ieuenctid yr Eisteddfod nos Sul.[3]
Enillwyr
[golygu | golygu cod]- Y Goron - Tegwen Bruce-Deans, Llandrindod[5] Roedd hi wedi graddio ym Mhrifysgol Bangor ac yn byw yn y ddinas. Bu iddi ennill y Goron yn Sir Gaerfyrddin y flwyddyn flaenorol - y person gyntaf i wneud y "dwbl".[6]
- Y Gadair - Llinos Medi Wiliam, o Benrhosgarnedd, Bangor, ac roedd ar fin graddio o Ysgol Economeg Llundain (LSE) mewn Anthropoleg Gymdeithasol.[7]
- Y Fedal Ddrama - Alys Hedd Jones o Gaerdydd gyda'i drama Amserlen Ffug. Roedd yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern.[5]
- Tlws Cyfansoddwr - Gerard Coutain, bachgen 16 oed yn wreiddiol o Wlad Pwyl, ond yn byw yng Nghymru ers wyth mlynedd ac yn dysgu Cymraeg.[5][8]
- Y Fedal Gelf, Dylunio a Thechnoleg - Saffron Lewis o Sir Benfro yn fyfyriwr celf a dylunio yng Ngholeg Sir Benfro ac roedd ar fin mynd i Brifysgol Metropolitan Caerdydd i astudio Celfyddyd Gain. Mae'r Fedal i artistiaid rhwng 10 ac 19 oed.[9]
- Y Fedal Lenyddiaeth -
- Medal y Dysgwr - Melody Griffiths o Wrecsam, mae'r Fedal i ddysgwyr blwyddyn 10 ac o dan 19 oed. Roedd Melody yn ddisgybl yng Ngholeg Cambria.[10]
- Medal Bobi Jones - Isabella Colby Browne o’r Wyddgrug, mae'r Fedal i ddysgwyr rhwng 19 a 25 oed. Ganwyd Isabella yn America cyn symud i’r Wyddgrug pan yn ifanc. Mae hi’n 22 oed ac yn byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio fel actores.[9]
Cyflwynwyd Ysgoloriaeth Artist Ifanc i Wanesa Kazmierowska oedd yn wreiddiol o Wlad Pwyl ond yn byw yn Abertawe ers 14 mlynedd. Roedd yr Ysgoloriaeth gwerth £2,000 drwy garedigrwydd y diweddar Dr Dewi Davies a’i deulu am y gwaith mwyaf addawol gan unigolyn rhwng 18–25 oed.[9]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd - rhestr enillwyr
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Yr Urdd yn diolch i Faldwyn wrth i filoedd heidio i gystadlu a mwynhau ar faes yr Eisteddfod cloriannu'r wythnos
- Croeso i ardal Eisteddfod yr Urdd 2024 fideo gan blant Ysgol Gynradd Pontrobert
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Gŵyl Triban Eisteddfod yr Urdd". Gwefan yr Urdd. 2024. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2024-08-29. Cyrchwyd 29 Awst 2024.
- ↑ Duggan, Craig (15 Mai 2024). "Dadorchuddio Cadair a Choron Eisteddfod yr Urdd Maldwyn". BBC Cymru Fyw.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 "Yr Urdd yn diolch i Faldwyn wrth i filoedd heidio i gystadlu a mwynhau ar faes yr Eisteddfod". Gwefan yr Urdd. 2024.
- ↑ 4.0 4.1 "Eisteddfodau'r Urdd yn denu dros 70,000 o gystadleuwyr ifanc". Lleol.Cymru. 18 Mawrth 2024.
- ↑ 5.0 5.1 5.2 "Dyma ganlyniadau a beirniadaethau prif gystadlaethau Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024". Gwefan yr Urdd. 2024. Cyrchwyd 29 Awst 2024.
- ↑ "Tegwen Bruce-Deans yn ennill coron Eisteddfod yr Urdd". Newyddion S4C. 31 Mai 2024.
- ↑ "Lois Medi Wiliam yw prifardd Eisteddfod yr Urdd Maldwyn". BBC Cymru Fyw. 30 Mai 2024.
- ↑ "Gerard Coutain yw Prif Gyfansoddwr Eisteddfod yr Urdd 2024". Gwefan yr Urdd. 2024.
- ↑ 9.0 9.1 9.2 "Cyhoeddi enillwyr Ysgoloriaeth Artist Ifanc a Medal Gelf Eisteddfod yr Urdd Maldwyn". Lleol.Cymru. 27 Mai 2024.
- ↑ "Dathlu llwyddiant dysgwyr Cymraeg yn Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024". Lleol.Cymru. 29 Mai 2024.