Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Dur a Môr 2025
![]() Llwyfan y Canlyniadau | |
Enghraifft o: | Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ![]() |
---|---|
Dechreuwyd | 26 Mai 2025 ![]() |
Daeth i ben | 31 Mai 2025 ![]() |
Lleoliad | Parc Gwledig Margam ![]() |
Gwladwriaeth | Cymru ![]() |
![]() |
Cynhalwyd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Dur a Môr 2025 gan Urdd Gobaith Cymru ym Mharc Margam, Castell-nedd Port Talbot rhwng 26 a 31 Mai 2025. Roedd yr eisteddfod yn dychwelyd i Barc Margam am y tro cyntaf ers 2003.
Roedd 1,800 o blant yr ardal wedi cyd-greu 'Cân y Croeso, Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr' gyda Huw Chiswell a Bronwen Lewis. Ffilmiwyd fideo gerddoriaeth i gyd-fynd â’r gân ym Mharc Margam.[1]
Dyluniwyd a chrëwyd Cadair yr Eisteddfod gan Angharad Pearce, Brynaman, ac mae'n cynnwys rhai o ddarnau olaf gwaith Tata Steel ym Mhort Talbot. Noddwyd y gadair gan Gapel Soar-Maesyrhaf yng Nghastell-nedd. Dyluniwyd a chrëwyd y Goron, sy'n cynnwys diemwntau am y tro cyntaf erioed, gan Nicola Palterman o Gastell-nedd gyda thema dur a môr yn gryf ynddi. Cafodd y gwobrau eu dadorchuddio yn Abertawe ar 9 Mai 2025.[2]
Roedd bws gwennol yn rhedeg o Orsaf Drenau Port Talbot i brif fynedfa'r maes.[3] Roedd y gwasanaeth yn rhedeg am ddim i'r cyhoedd.
Sioeau
[golygu | golygu cod]Roedd y sioe ieuenctid a'r sioe gynradd, yn cynnwys plant yr ardal. Roedd y sioe Ieuenctid, 'Dal dy Dir', ar 26 Mai, ac roedd y sioe gynradd, 'Halen yn y Gwaed', ar 28 Mai.
Lleolwyd sioeau Cyw a Stwnsh yn 'Yr Adlen'.[4]
Niferoedd
[golygu | golygu cod]Dathlodd yr Urdd iddynt dorri record o niferoedd yn cofrestru i gystadlu (119,593).[5] Roedd hefyd cynnydd o 42% yn y nifer y dysgwyr Cymraeg fu'n cymryd rhan yn yr ŵyl o gymharu â'r flwyddyn gynt. Roedd 37 o ysgolion Gorllewin Morgannwg wedi cofrestru i gystadlu am y tro cyntaf erioed.[6]

Llywyddion
[golygu | golygu cod]Llywydd yr ŵyl oedd Jeremy Miles.
- Dydd Llun - Steffan Rhodri
- Dydd Mawrth - Lowri Morgan
- Dydd Mercher - Bronwen Lewis
- Dydd Iau - Sarra Elgan
- Dydd Gwener - Emyr Afan
Prif seremonïau
[golygu | golygu cod]Roedd y prif seremonïau yn y Pafiliwn Gwyn bob prynhawn am 2.00 dan ofal Iestyn Tyne.[7] Roedd 2025 yn marcio hanner can mlynedd ers i'r Fedal Ddrama gael ei chyflwyno am y tro cyntaf yn Eisteddfod yr Urdd, yn Llanelli 1975.
- Y Goron - Mali Elwy o Dan-y-Fron, Conwy. Mae hi'n 24 oed ac yn gyn-ddisgybl Ysgol Glan Clwyd a raddiodd yn y Gymraeg ac Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Bangor.[8]
- Y Gadair - Elain Roberts o Bentre'r-bryn, Ceredigion. Yn gyn-ddisgybl Ysgol Bro Teifi, aeth i'r brifysgol ym Mryste i astudio Ffrangeg a Gwleidyddiaeth. Yn 2025, symudodd i Lundain ar gyfer swydd newydd gyda Plaid Cymru.[9]
- Y Fedal Ddrama - Elin Williams o Betws Gwerful Goch. Mae hi'n 18 oed ac yn astudio Cymraeg, Hanes ac Addysg Grefyddol yn Ysgol Brynhyfryd.[10]
- Tlws Cyfansoddwr - Rafik Harrington o Gaerdydd, sydd wedi astudio cyfansoddi yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.[11]
- Y Fedal Gelf, Dylunio a Thechnoleg - Lleucu Haf Thomas, disgybl blwyddyn 11 yn Ysgol Uwchradd Aberteifi. Mae'r Fedal i artistiaid rhwng 10 ac 19 oed.[12]
- Medal y Dysgwr - Lloyd Wolfe o Gaerdydd.[13]
- Medal Bobi Jones - Joe Morgan o Gaerdydd.[13]
Gwobrau'r Urdd a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
[golygu | golygu cod]
Cyhoeddodd yr Urdd ynghyd â Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru chwech gwobr newydd sbon i gystadleuwyr sy'n serennu ar lwyfan yr Eisteddfod.[14] Roedd angen i gystadleuwyr fod rhwng 19 a 25 oed i gystadlu, ac roedd tîm o feirniaid o'r Urdd a CBCDC yn penderfynu ar y chwech buddugol. Bydd pob enillydd yn derbyn sesiynau mentora, cefnogaeth ariannol tuag at hyfforddiant pellach, a chyfle i arddangos eu talent i gynulleidfa fyd-eang mewn digwyddiadau mawreddog yn ystod y flwyddyn.[15]
- Gwobr Syr Bryn Terfel (lleisiol) - Ffion Mair Thomas
- Gwobr Amy Dowden (dawns) - Ioan Williams
- Gwobr Callum Scott Howells (sioe gerdd) - Beca Fflur Morris
- Gwobr Matthew Rhys (theatr) - Fred Hayes
- Gwobr Rakhi Singh (offerynnol) - Jencyn Corp
- Gwobr Sarah Hemsley-Cole (cefn llwyfan) - Laurie Thomas
Tlws John a Ceridwen Hughes, Uwchaled
[golygu | golygu cod]Mae Tlws John a Ceridwen Hughes yn wobr flynyddol ar gyfer unigolyn neu unigolion sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i fywyd ieuenctid Cymru.[18] Rhaid i'r gwaith fod drwy gyfrwng y Gymraeg, a gall fod yn unrhyw agwedd o waith ieuenctid.
Cyhoeddodd yr Urdd ar 11 Mai 2025 mai David Gwyn a Pamela John o Dreforys, Abertawe yw enillwyr y tlws. Cyhoeddodd Heledd Cynwal y newyddion Nghapel y Tabernacl, Treforys.[19] Yn y 1960au, fe wnaethon nhw sefydlu Aelwyd yr Urdd Treforys yn Festri Capel y Tabernacl. Dyma'r tro cyntaf roedd cyfle i bobl ifanc yr ardal ddod at ei gilydd i gymdeithasu drwy'r Gymraeg. Cyn ymddeol, roedd David yn Bennaeth yn Ysgol Gynradd Gymraeg Lôn Las a Pamela yn athrawes yno.[20]
Tîm cyflwyno S4C
[golygu | golygu cod]
Darlledodd Sarra Elgan raglen Croeso i'r Eisteddfod ar 23 Mai i gyflwyno ardal yr Eisteddfod. Ymunodd Elen Wyn, seren cyfres BBC1, The Traitors, â'r criw cyflwyno ar gyfryngau cymdeithasol S4C dros yr wythnos. Roedd Trystan Ellis-Morris a Heledd Cynwal wedi dychwelyd i arwain y darllediadau dyddiol, a bu Alun Williams a Lily Beau yn crwydro'r maes. Roedd Mari Lovgreen hefyd yn cyhoeddi enillwyr ar lwyfan y canlyniadau.
Roedd S4C yn darlledu'n fyw o'r maes rhwng 10.30 tan 6.30 gyda'r rhaglen uchafbwyntiau bob nos am 8.00. Yn ogystal, roedd S4C yn ffrydio cystadlu'r dydd o'r Pafiliwn Coch, Gwyn a Gwyrdd o 8.00 y bore tan ddiwedd y cystadlu ar Clic.[21] Am y tro cyntaf, roedd hi hefyd yn bosib edrych yn ôl ar y ffrwd ar Clic, am gyfnod o 3 diwrnod, ar ddyfeisiadau desgtop i ail-wylio cystadlaethau.[4]
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Arwyddion Creoso'r Eisteddfod
-
Ifan Jones Evans yn cyflwyno uchafbwyntiau o'r maes
-
Mistar Urdd yn boblogaidd ar y maes
-
Man Cyfarfod
-
Mark Drakeford ar y maes
-
Mynedfa Pentre Bwyd yr Eisteddfod
-
Arwydd Pafiliwn Gwyrdd
-
Pafiliwn Gwyn
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd
- Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd - rhestr enillwyr
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "1,800 o blant yn canu croeso i Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr 2025". Urdd. Cyrchwyd 24 Mai 2025.
- ↑ "Dur Port Talbot ym mhrif wobrau Eisteddfod yr Urdd eleni". BBC Cymru Fyw. 9 Mai 2025. Cyrchwyd 10 Mai 2025.
- ↑ "Eisteddfod yr Urdd: Sut mae cyrraedd y maes?". BBC Cymru Fyw. 25 Mai 2025. Cyrchwyd 25 Mai 2025.
- ↑ 4.0 4.1 "Y Wasg | S4C". www.s4c.cymru. Cyrchwyd 24 Mai 2025.
- ↑ "'Bwrlwm' ym Mhort Talbot wrth i filoedd gyrraedd maes Eisteddfod yr Urdd". newyddion.s4c.cymru. 26 Mai 2025. Cyrchwyd 31 Mai 2025.
- ↑ "'Pwysig bod prifwyl yr Urdd yn mynd i ardaloedd lle mae llai o Gymraeg'". BBC Cymru Fyw. 26 Mai 2025. Cyrchwyd 26 Mai 2025.
- ↑ "Canllaw hanfodol ar gyfer Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr". BBC Cymru Fyw. 23 Mai 2025. Cyrchwyd 24 Mai 2025.
- ↑ "Mali Elwy yn ennill Coron Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr". BBC Cymru Fyw. 30 Mai 2025. Cyrchwyd 30 Mai 2025.
- ↑ "Elain Roberts yn ennill Cadair Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr". BBC Cymru Fyw. 29 Mai 2025. Cyrchwyd 30 Mai 2025.
- ↑ "Elin Undeg Williams yn ennill Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd". BBC Cymru Fyw. 27 Mai 2025. Cyrchwyd 27 Mai 2025.
- ↑ "Rafik Harrington o Gaerdydd yw Prif Gyfansoddwr Eisteddfod yr Urdd". BBC Cymru Fyw. 31 Mai 2025. Cyrchwyd 31 Mai 2025.
- ↑ "Cyhoeddi enillwyr prif wobrau celf Eisteddfod yr Urdd". BBC Cymru Fyw. 26 Mai 2025. Cyrchwyd 26 Mai 2025.
- ↑ 13.0 13.1 "Cyhoeddi enillwyr prif wobrau'r dysgwr yn Eisteddfod yr Urdd". 27 Mai 2025. Cyrchwyd 27 Mai 2025.
- ↑ "Chwech o sêr y dyfodol i dderbyn gwobrau unwaith-mewn-oes yn…". Royal Welsh College of Music & Drama. 29 Ionawr 2025. Cyrchwyd 25 Mai 2025.
- ↑ "Urdd Gobaith Cymru / Gwobrau'r Urdd a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru". www.urdd.cymru. Cyrchwyd 24 Mai 2025.
- ↑ Cerdd, Tŷ (3 Mawrth 2025). "New awards offered to rising Welsh stars at Eisteddfod yr Urdd". tycerdd (yn Saesneg). Cyrchwyd 25 Mai 2025.
- ↑ "Eisteddfod yr Urdd eleni wedi denu mwy o gystadleuwyr nag erioed". BBC Cymru Fyw. 1 Mehefin 2025. Cyrchwyd 1 Mehefin 2025.
- ↑ "Urdd: Cyhoeddi enillwyr Tlws John a Ceridwen Hughes 2025". BBC Cymru Fyw. 12 Mai 2025. Cyrchwyd 24 Mai 2025.
- ↑ "David Gwyn a Pamela John yn ennill Tlws John a Ceridwen Hughes, Uwchaled". Golwg360. 12 Mai 2025. Cyrchwyd 24 Mai 2025.
- ↑ "Sefydlwyr Aelwyd yr Urdd Treforys yn ennill Tlws John a Ceridwen Hughes". newyddion.s4c.cymru. Cyrchwyd 24 Mai 2025.
- ↑ "Cwestiynau Cyffredin". s4c.urdd.cymru. Cyrchwyd 24 Mai 2025.
|