Neidio i'r cynnwys

Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Aberystwyth 1969

Oddi ar Wicipedia
Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Aberystwyth 1969
Cadeirion Gerallt Lloyd Owen
Enghraifft o:Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Edit this on Wikidata
Dyddiad1969 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganAberystwyth 1969
LleoliadAberystwyth Edit this on Wikidata
Dynodwyr

Roedd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Aberystwyth 1969 yn un o'r Eisteddfodau mwyaf dadleuol erioed. Cofir hi oherwydd i'r Tywysog Siarl (Siarl III bellach) annerch yr Eisteddfodwyr o'r llwyfan yn wyneb protest genedlaetholgar gyhoeddus a achosodd embaras i'r Frenhiniaeth ac i nifer o drefnwyr yr Eisteddfod.[1] Cofir yr Eisteddfod hefyd am lwyddiant Gerallt Lloyd Owen wrth ennill Cadair Eisteddfod yr Urdd gyda'i gerddi a ddaeth yn llais i holl wrth-daro gwleidyddol a chenedlaetholgar y cyfnod.

Ymddangosiad Tywysog Siarl

[golygu | golygu cod]

Roedd y Tywysog Siarl wedi treulio cyfnod yn Aberystwyth yn dysgu am hanes Cymru ac yn derbyn gwersi Cymraeg gan ei diwtoriaid, Edward Millward a Bobi Jones, fel rhan o'i baratoadau ar gyfer ei Arwisgiad yn 'Dywysog Cymru' yn hwyrach y flwyddyn honno. Wrth annerch yr Eisteddfod, ei fwriad oedd dangos ei gefnogaeth i ddiwylliant Gymraeg. Serch hynny, cynhaliwyd nifer o brotestiadau mawr gan fyfyrwyr o Gymry ar draws y campws, a meddiannwyd adeiladau'r brifysgol ar sawl achlysur, ac hefyd ymprydio yn erbyn ei bresenoldeb.[1]

Wrth i'r Tywysog gyrraedd llwyfan pafiliwn Eisteddfod yr Urdd i annerch y gynulleidfa yn Gymraeg ar y prynhawn Sadwrn, cerddodd cant neu fwy o bobl oedd yn eistedd ar flaen y gynulleidfa allan o'r pafiliwn mewn protest. Cyhoeddodd y cyflwynydd John Garnon, "Mae'n dda gen i weld bod mwy o bobl wedi aros i mewn nag sydd wedi mynd allan." Gwnaeth y geiriau hynny, a chymeradwyaeth y bobl oedd dal i fod y tu mewn, gynhyrfu Llion Griffiths, golygydd Y Cymro yn fawr. Y canlyniad oedd erthygl olygyddol yn y rhifyn nesa o bapur wythnosol y Cymro yn llongyfarch y Tywysog am y modd y traddododd ei anerchiad, ond hefyd yn canmol y protestwyr:[2]

Bu'n brotest heddychlon ac effeithiol a hynny gan bobl a wyddai y derbynient sarhad y mwyafrif... Ond safasant dros egwyddor a hwy oedd arwyr mwyaf dydd Sadwrn.

Enillwyr

[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1 2 "Protesting the Prince". Cambrian News. 1 Mehefin 2019.
  2. ↑ "Remembering 1969 - Part 3". BBC Wales]] (archivwyd). Cyrchwyd 23 Medi 2026.
  3. ↑ "Gerallt Lloyd Owen". Y Bywgraffiadur Cymreig. Cyrchwyd 23 Medi 2026.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]