Neidio i'r cynnwys

Eisteddfod Genedlaethol Cymru y Garreg Las 2026

Oddi ar Wicipedia
Eisteddfod Genedlaethol Cymru y Garreg Las 2026
 ← Blaenorol Nesaf →
Lleoliad Llantwd, Sir Benfro
Cynhaliwyd 1-8 Awst 2026
Archdderwydd Mererid Hopwood
Cadeirydd John Davies
Gwefan eisteddfod.cymru/2026

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Cymru y Garreg Las 2026 yn Sir Benfro rhwng 1 ac 8 Awst 2026.

Yng Ngorffennaf 2024 cytunodd cabinet Cyngor Sir Penfro yn unfrydol i wahodd yr Eisteddfod Genedlaethol i Lantwd yn 2026. Ar 19 Medi 2024 cadarnhaodd yr Eisteddfod mai Sir Benfro fyddai cartref y brifwyl yn 2026. Bydd dalgylch yr ŵyl hefyd yn cynnwys cymunedau yn ne Ceredigion a Sir Gaerfyrddin. Mae 2026 hefyd yn nodi 850 o flynyddoedd ers cynnal yr Eisteddfod gyntaf yn Aberteifi yn 1176, dan nawdd yr Arglwydd Rhys.[1]

Yn Nhachwedd 2024 cyhoeddwyd mai John Davies, cyn-arweinydd Cyngor Sir Penfro, sydd wedi ei benodi yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwaith. Etholwyd Tegryn Jones, prif weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro. yn is-gadeirydd strategol yr Eisteddfod; Carys Ifan, cyfarwyddwr Canolfan Egin yn is-gadeirydd diwylliannol. Cris Tomos, sy'n gweithio i PLANED - elusen datblygu cymunedol, fydd yn gyfrifol am y gronfa leol. Ysgrifennydd y pwyllgor gwaith yw Non Davies, rheolwr corfforaethol dros ddiwylliant a’r Gymraeg gyda Chyngor Sir Ceredigion.[2]

Ar 17 Mai 2025 daeth dros fil o drigolion lleol ac aelodau Gorsedd Cymru ynghyd yn Arberth i ddathlu dyfodiad yr Eisteddfod i'r ardal. Yn dilyn yr orymdaith cynhaliwyd seremoni liwgar yng Nghylch yr Orsedd. Cyflwynodd John Davies y copi cyntaf o’r Rhestr Testunau i’r Archdderwydd.[3]

Ar 20 Ebrill 2026, cyhoeddwyd y bydd y Super Furry Animals yn perfformio ar faes yr Eisteddfod fel rhan o'u taith. Dyma fyddai’r tro cyntaf i’r band berfformio yn y brifwyl ers 30 mlynedd.[4]

Anrhydeddau'r Orsedd

[golygu | golygu cod]

Cyhoeddwyd y byddai'r canlynol yn cael eu hurddo i Orsedd y Beirdd [5]


Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Cadarnhad mai Sir Benfro fydd cartref Eisteddfod Genedlaethol 2026". BBC Cymru Fyw. 2024-09-19. Cyrchwyd 2025-08-03.
  2. "Cyhoeddi prif swyddogion Eisteddfod Genedlaethol Sir Benfro 2026". BBC Cymru Fyw. 2024-11-13. Cyrchwyd 2025-08-03.
  3. "Dros fil yn gorymdeithio i groesawu'r Eisteddfod i ardal y Garreg Las | Eisteddfod". eisteddfod.cymru. Cyrchwyd 2025-08-03.
  4. "Super Furry Animals yn perfformio yn yr Eisteddfod Genedlaethol". Golwg360. 20 Ebrill 2026. Cyrchwyd 23 Ebrill 2026.
  5. "Cyhoeddi Urddau'r Orsedd Eisteddfod y Garreg Las". Eisteddfod Genedlaethol Cymru. 7 Mai 2026.