Eisteddfod Genedlaethol Cymru Pwllheli 1875
| Enghraifft o: | un o gyfres reolaidd o wyliau |
|---|---|
| Dyddiad | 1875 |
| Cyfres | Eisteddfod Genedlaethol Cymru |
| Lleoliad | Pwllheli |
| Gwladwriaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
| Dynodwyr | |
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1875 ym Mhwllheli rhwng 24 a 27 Awst 1875. Roedd yn Eisteddfod answyddogol o dan yr enw Eisteddfod Freiniol Genedlaethol Pwllheli.[1]
| Cystadleuaeth | Teitl y Darn | Ffugenw | Enw |
|---|---|---|---|
| Y Gadair | Prydferthwch | Tudno | |
| Y Goron |
"Enillodd Tudno y Gadair gyda'i awdl ar "Brydferthwch" ac yr oedd Llawdden, Gwalchmai ac Islwyn yn beirniadu. Yr oedd hefyd yn amlwg yn yr Eisteddfod hon Ceiriog, Llew Llwyfo, Eos Morlais, James Samage, Edith Wynne, Dr Mary Davies, sydd yn fyw, ac yn un o lywyddion yr Eisteddfod hon [1925]"[2]
"Seisnigaidd iawn oedd awyrgylch yr Eisteddfod honno, ac mae'n amlwg mai aristocratiaid oedd y rhan luosocaf o'r llywyddion. Mae'n amheus a allai'r un ohonynt siarad Cymraeg rhwydd. Wele eu henwau: Syr Watkin Williams-Wynn A.S, Arglwydd Mostyn; Richard Lloyd Edwards, Nanhoron; yr Anrhydeddus Douglas Pennant, ac wedi hynny Arglwydd Penrhyn; Syr H. J. Ellis-Nanney; Syr Love Jones-Parry; Picton Jones ac Owen Evans."[2]
"Rhyw bedwar diwrnod oedd hyd yr Eisteddfod yr adeg honno [...] Nid oedd y rhestr testunau y pryd hwnnw ond pedair tudalen, ac yn edrych yn llawer mwy diaddurn na rhestr testunau ambell i gyfarfod adloniadol a gynhelir yn y dyddiau hyn [1925]. [...] Ffaith arall dra hynod yn hanes rhestr testunau a rhaglen 1875 ydoedd eu bod oll yn yr iaith Saesneg".[2]
Nid oedd "costau oll" yr Eisteddfod "yn cyrraedd mil o bunnau" a chyfanswm y gwobrau ariannol yn "495p".[2]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Eisteddfod Genedlaethol Cymru – hanes yr Eisteddfod Genedlaethol