Neidio i'r cynnwys

Eisteddfod Genedlaethol Cymru Maldwyn a'r Gororau 2015

Oddi ar Wicipedia
Eisteddfod Genedlaethol Cymru Maldwyn a'r Gororau 2015
 ← Blaenorol Nesaf 
Eisteddfod Maldwyn 2015
Lleoliad Fferm Mathrafal, Meifod
Cynhaliwyd 1-8 Awst 2015
Archdderwydd Christine James
Daliwr y cleddyf Robin McBryde
Cadeirydd Beryl Vaughan
Llywydd R. Alun Evans
Nifer yr ymwelwyr 150,776[1]
Enillydd y Goron Manon Rhys
Enillydd y Gadair Hywel Griffiths
Gwobr Daniel Owen Mari Lisa
Gwobr Goffa David Ellis Ffion Hâf, Llandeilo
Gwobr Goffa Llwyd o’r Bryn Joy Parry
Gwobr Goffa Osborne Roberts Robert Lewis
Gwobr Richard Burton Morgan Elwy Williams
Y Fedal Ryddiaith Tony Bianchi
Medal T.H. Parry-Williams Jennifer Maloney
Medal/Tlws y Ddrama Wyn Mason
Dysgwr y Flwyddyn Gari Bevan
Tlws y Cerddor Osian Huw Williams
Ysgoloriaeth W. Towyn Roberts Meinir Wyn Roberts
Medal Aur am Gelfyddyd Gain Glyn Baines
Medal Aur am Grefft a Dylunio Rhian Hâf
Gwobr Ifor Davies Aled Rhys Davies,
Christine Mills,
Seán Vicary
Gwobr Dewis y Bobl Menna Angharad
Ysgoloriaeth yr Artist Ifanc Gwenllian Spink
Medal Aur mewn Pensaernïaeth Penseiri Loyn & Co.
Ysgoloriaeth Pensaernïaeth Jonathan Evans
Medal Gwyddoniaeth a Thechnoleg Mel Williams
Gwefan Gwefan swyddogol

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Cymru Maldwyn a'r Gororau 2015 ar 1 - 8 Awst 2015 ger Meifod, Powys. Cyhoeddwyd yr Eisteddfod yng Ngŵyl y Cyhoeddi yn Y Drenewydd ar 5 Gorffennaf 2014[2].

Llywydd yr Ŵyl oedd R. Alun Evans o Gaerdydd, gweinidog a darlledwr a weithiodd gyda'r BBC am dros 30 mlynedd.

Yn y seremoni derbyn aelodau newydd i'r Orsedd fore Llun, fe alwodd yr Archdderwydd Christine James ar Gymru i "ddeffro" ac ysgwyddo'r cyfrifoldeb dros "warchod ein gwlad" wedi i Gymru golli cynifer o gewri yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Cyfeiriodd at farwolaethau pobl amlwg gan gynnwys John Davies, Meredydd Evans, R. Geraint Gruffydd, Harri Pritchard Jones, Osi Osmond a John Rowlands a dywedodd fod "bwlch anferth" ar eu holau, sydd angen ei lenwi.

Prif gystadlaethau

[golygu | golygu cod]

Y Gadair

[golygu | golygu cod]

Enillydd y gadair oedd Hywel Griffiths (ffugenw "Ceulan"); y dasg oedd llunio awdl ar fwy nag un o'r mesurau traddodiadol, heb fod yn fwy na 250 o linellau o dan y testun Gwe. Traddodwyd y feirniadaeth gan Mererid Hopwood ar ran ei gyd-feirniaid John Gwilym Jones a Twm Morys. Dywedodd y beirniaid fod hi'n gystadleuaeth agos gyda'r beirniaid yn canmol gwaith 'Ceulan' a 'Cwm Du', gyda 'Cwm Du' yn cael ei ddisgrifio fel 'storïwr naturiol' a 'Ceulan' fel 'y corddwr anesmwyth'.[3]

Dylunydd a chrefftwr y Gadair oedd Carwyn Owen, ac yn 20 mlwydd oed ef oedd y person ieuengaf erioed i fod yn gyfrifol am greu Cadair ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol. Cafodd ei ddewis gan noddwyr y Gadair, Undeb Amaethwyr Cymru, Cangen Trefaldwyn, ar sail cystadlaethau yn Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc a hefyd y cadeiriau a grewyd ganddo ar gyfer yr eisteddfod honno ac ar gyfer Eisteddfod Powys.[4]

Y Goron

[golygu | golygu cod]

Enillydd y goron oedd Manon Rhys (ffugenw "Jac") o Gaerdydd; roedd 22 wedi cystadlu a'r dasg oedd ysgrifennu gasgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd gyflawn hyd at 250 o linellau ar y testun 'Breuddwyd'. Traddodwyd y feirniadaeth gan Cyril Jones ar ran ei gyd-feirniaid Nesta Wyn Jones a Gerwyn Williams.

Rhoddwyd y Goron eleni gan Gymdeithas Cymru-Ariannin, a'r wobr ariannol gan y teulu er cof am Aur ac Arwyn Roberts, Godre'r Aran, Llanuwchllyn. Lluniwyd y Goron gan y gof arian, John Price, gynt o Sir Fôn on sy'n byw ym Machynlleth bellach - cyn athro crefft a gwneuthurwr nifer o goronau eisteddfodol cain - a gofynnwyd iddo gyfleu'r berthynas agos sy'n bodoli rhwng y Cymry a'u cefndryd yn Nhalaith Chubut wrth ei chreu.[5]

Gwobr Goffa Daniel Owen

[golygu | golygu cod]

Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen oedd Mari Lisa gyda chyfrol o'r enw Veritas.

Y Fedal Ryddiaith

[golygu | golygu cod]

Dyfarnwyd y Fedal Ryddiaith i Tony Bianchi ('Mab Afradlon') am nofel ar y thema 'Dwy' neu 'Dau'. Teitl y gyfrol fuddugol oedd Dwy Farwolaeth Endaf Rowlands.

Tlws y Cerddor

[golygu | golygu cod]

Enillydd y tlws oedd Osian Huw Williams, yn wreiddiol o Lanuwchllyn. Roedd yn astudio gradd Meistr mewn cyfansoddi ym Mhrifysgol Bangor ac yn adnabyddus fel prif leisydd y band Candelas. Y dasg eleni oedd ysgrifennu Sioe Gerdd - un gân corws a dwy gân i unawdwyr ynghyd ag amlinelliad o'r sioe gyfan, gan ddefnyddio geiriau Cymraeg gwreiddiol neu rhai sy'n bodoli eisoes.

Y wobr oedd Tlws gan Urdd Cerddoriaeth Cymru, a'r wobr ariannol o £750 (Cymdeithas Theatrig Ieuenctid Maldwyn) ac Ysgoloriaeth gwerth £2,000 i hyrwyddo gyrfa'r cyfansoddwr buddugol. Y beirniaid oedd Caryl Parry Jones a Robat Arwyn.[6]

Y Fedal Ddrama

[golygu | golygu cod]

Enillydd y Fedal Ddrama oedd Wyn Mason (ffugenw Carn Menyn), yn wreiddiol o Lanfarian ger Aberystwyth, am ei ddrama Rhith Gân; roedd 15 o ymgeiswyr a'r dasg oedd ysgrifennu ddrama lwyfan heb unrhyw gyfyngiad o ran hyd. Y beirniaid oedd Iola Ynyr, Betsan Llwyd ac Ian Rowlands.[7]

Anrhydeddau'r Orsedd

[golygu | golygu cod]

Ar ddydd Gwener, 7 Awst 2015, ar Faes y Brifwyl cafodd 32 aelod newydd eu hurddo i'r Orsedd.[8][9]

Gwisg Las

[golygu | golygu cod]
  • Pat Ashman, Gwenfô – Rheolwr Nawdd a Digwyddiadau Cymdeithas Adeiladu’r Principality. Mae wedi sicrhau y defnydd gorau o ofod y Principality ar y Maes ers blynyddoedd, gan roi cyfleoedd i gerddorion ifanc feithrin eu doniau ac ymarfer cyn cystadlaethau, ac wedi bod yn greiddiol i gefnogaeth hael y Gymdeithas am flynyddoedd
  • Llinos Iorwerth Dafis, yn wreiddiol o Rydypennau – Hi oedd y tiwtor-drefnydd Cymraeg i Oedolion cyntaf, a bu’n arwain Cwrs Carlam Aberystwyth. Sefydlodd y fenter iaith gyntaf yng Nghwm Gwendraeth a’r mudiad CYD, a hi yw sylfaenydd Cwmni Iaith Cyf.
  • D Eurig Davies, yn wreiddiol o Lan-non, Ceredigion – un o bileri’r gymdeithas Gymraeg yn ardal Boston, ac aelod cysylltiol o Adran Geltaidd Prifysgol Harvard , yn rhinwedd ei arbenigedd ar hanes y Cymry yn America
  • Hilda Mary Edwards, Bontnewydd, Caernarfon – Yn 92 oed erbyn hyn, mae’n parhau’n arian byw o weithgarwch. Yn ganolog i bob gweithgaredd yng Nghapel Libanus ers blynyddoedd, mawr fu ei chyfraniad hefyd i Sioe Amaethyddol Gogledd Cymru.
  • Hywel Wyn Edwards, Sychdyn, Yr Wyddgrug - trefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol dros gyfnod o chwarter canrif a bu ei waith manwl a chywir yn hyrwyddo llwyddiant yr Eisteddfod Genedlaethol o flwyddyn i flwyddyn, yn destun canmoliaeth mawr dros yr holl gyfnod.
  • Dennis Gethin, Pontypridd - Llywydd Undeb Rygbi Cymru. Yn chwaraewr rygbi brwd, hyfforddodd fel cyfreithiwr cyn troi at lywodraeth leol lle y bu’n gweithio fel Prif Weithredwr Cyngor Taf Elai, ac yna fe’i benodwyd yn Ysgrifennydd Undeb Rygbi Cymru.
  • David Gravell, Cydweli - gŵr busnes gyda chwmni ceir ‘Gravells’, noddwr hael i’r Eisteddfod Genedlaethol a’r Urdd ers blynyddoedd. Cefnogwr brwd o’r berthynas bwysig rhwng Cymru a Phatagonia, ac yn noddi’r Gadair yn Eisteddfod y Wladfa eleni.
  • Sarah Hopkin, Brynaman – aelod blaenllaw o Gwmni Drama Y Gwter Fawr, sy’n gystadleuwyr rheolaidd yn yr Eisteddfod. Mae hefyd yn aelod o bwyllgor gwaith Cymdeithas Ddawns Werin Cymru ac yn un o banel Dawns yr Eisteddfod Genedlaethol.
  • Alex Jones, Rhydaman – Aelod o Adran Penrhyd ers yn ifanc iawn gan gystadlu’n gyson yn Eisteddfodau’r Urdd. Bu’n gweithio ar sawl rhaglen ar S4C, cyn cael swydd fel cyflwynydd ar The One Show yn 2010.
  • Elfair Jones, Mynachlog Ddu, Clunderwen – Aelod gwerthfawr o amrywiol bwyllgorau yn ei chymuned. Bu’n gyson iawn ei chefnogaeth i Ferched y Wawr yn ei changen leol, yn sirol ac yn genedlaethol, gan wasanaethu fel trysorydd cenedlaethol y mudiad yn 2007-08.
  • Elin Jones, Ystrad Mynach – hanesydd treiddgar a bywiog, yn ysgolhaig deallus ac athrawes. Mae wedi ysgrifennu a darlledu’n helaeth ar bynciau fel hanes y Siartwyr a datblygiad y diwydiant dur a glo yng Nghymru.
  • Esme Jones, Crugybar, Sir Gaerfyrddin – Athrawes wrth ei galwedigaeth ac wedi cyfnod yng Nghaerffili, daeth yn ôl i Ysgol Caio fel athrawes a Phrif Athrawes uchel iawn ei pharch. Mae wedi rhoi yn hael o’i hamser a’i gallu i lu o fudiadau’r ardal ac wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr i weithgareddau o fewn Bro Dinefwr.
  • Gwyneth Jones, Dinas Mawddwy – un o hoelion wyth bywyd diwylliannol a chymunedol ardal Dinas Mawddwy ers blynyddoedd lawer. Mae’n rhan bwysig o bob math o weithgaredd o’r neuadd bentref i Gwmni Drama Dinas Mawddwy a’r nosweithiau bingo cymunedol. Mae’n gweithio’n frwd ar ran y papur bro lleol, Y Blewyn Glas.
  • Eifion Parry, Abergele – yn un o arwyr tawel yr Eisteddfod. Ef sy’n gyfrifol am gynllun trafnidiaeth meysydd parcio’r Brifwyl ers blynyddoedd, a’i gyngor doeth sydd wedi ein galluogi i gyrraedd pen y daith heb drafferthion.
  • Meriel Parry, Bangor – athrawes wrth ei galwedigaeth, bu Meriel yn rhan allweddol o waith yr Urdd yn yr ardal ers iddi wirfoddoli pan gynhaliwyd yr Eisteddfod yn Nyffryn Ogwen yn 1986. Wedi gyd-sefydlu ac arwain cylch meithrin yn Nhalybont cyn cychwyn ar ei gyrfa fel athrawes a phennaeth yn y sector cynradd.
  • Mary Price, Machynlleth – Yn athrawes a phennaeth cynradd yn ei gwaith, penderfynodd barhau ym myd addysg ar ôl ymddeol gan weithio fel tiwtor Cymraeg i Oedolion, maes sy’n agos iawn at ei chalon. Yn aelod gweithgar o Ferched y Wawr ers cychwyn y mudiad. Roedd yn Llywydd Rhanbarth Maldwyn adeg yr Eisteddfod yn 2003, a bu’n Is-lywydd a Llywydd Cenedlaethol y mudiad yn ystod y degawd diwethaf. Hi yw Cadeirydd cyfredol Undeb Cymru a’r Byd.
  • Thomas Price, Bro Ogwr – Mae’n ysgrifennydd gweithgar i Gymdeithas Cymry Porthcawl ers blynyddoedd. Mae wedi gweithio’n frwd dros y papur bro lleol, Yr Hogwr, fel gohebydd, dosbarthwr, yn gyd-olygydd ac yn gyd-osodwr y papur yn ei dro. Roedd yn aelod o bwyllgor gwaith yr Eisteddfod Genedlaethol pan y’i chynhaliwyd ym Mro Ogwr yn 1998. Ef hefyd oedd cynllunydd a gwneuthurwr Cadair yr Eisteddfod y flwyddyn honno.
  • Enid Thomas, Croesoswallt – Bu’n aelod allweddol o Glwb Cymraeg Croesoswallt ers dros ddeng mlynedd ar hugain. Yn nyrs ‘Marie Curie’ wrth ei galwedigaeth am flynyddoedd, bu’n gweithio yn Sir Amwythig, Powys a Sir Ddinbych a derbyniodd fedal arian am ei gwaith arbennig, ac mae hefyd wedi gweithio’n ddiwyd i godi arian i’r elusen bwysig hon.
  • Heulwen Williams, Llanwrin – Mae’n un o arweinwyr Cylch Meithrin Llanbryn-mair, yn arwain y clwb ar ôl ysgol yn Ysgol Glantwymyn, ac yn trefnu cynllun ‘Haf o Chwarae’ i rieni a phlant yr ardal. Mae’n un o ohebwyr y papur bro lleol, Y Blewyn Glas, ac yn aelod o Gôr Gore Glas ers blynyddoedd.
  • John Trefor William, Nantglyn, Sir Ddinbych – Yn wr diwylliedig ac yn gyfrannwr cyson i Glwb Ffermwyr Ifanc Nantglyn, lle mae’n barod ei gymwynas gan hybu ac annog pobl ifanc y fro i gyfrannu a bod yn rhan o’r gweithgareddau. Mae’n stiwardio yn yr Eisteddfod ers blynyddoedd, ac yn un o’r criw sy’n gofalu am gynulleidfa’r Pafiliwn, a sicrhau bod pawb yn cyrraedd eu sedd mewn pryd.

Gwisg werdd

[golygu | golygu cod]
  • Rhian Davies – Cyfarwyddwr Artistig Gwyl Gregynog ers 2006. Yn wreiddiol o Faldwyn, mae’n arbenigo mewn olrhain gweithiau cerddorol mewn casgliadau preifat a chyhoeddus nad ydynt wedi’u dogfennu. Fe’i chydnabyddir fel awdurdod ar y gyfansoddwraig Morfudd Llwyn Owen, gyda’i chofiant yn gofnod pwysig o fywyd a gwaith y gyfansoddwraig.
  • Endaf Emlyn, Caerdydd – un o gerddorion ac arloeswyr y byd pop Cymraeg. Yn fwyaf adnabyddus am ei albwm eiconig Salem (1974), mae hefyd wedi rhyddhau amryw o albymau eraill fel artist unigol a rhan o’r band Injaroc. Mae hefyd yn gyfarwyddwr ffilmiau nodedig, yn gyfrifol am glasuron y Gymraeg fel ‘Un Nos Olau Leuad’, ‘Storom Awst’ a ‘Gadael Lenin’ a llawer mwy
  • Siân James, Llanerfyl, Y Trallwng – Un o gerddorion gwerin amlycaf Cymru sydd wedi rhyddhau wyth casgliad o’i gwaith dros y blynyddoedd. Mae Siân wedi cyfrannu’n helaeth ac yn wirfoddol i ddiwylliant Cymraeg ei bro enedigol ym Maldwyn, gan hyfforddi telynorion ifanc yr ardal ac mae’n weithgar iawn gydag eisteddfodau lleol. Mae hefyd wedi bod yn Gadeirydd Pwyllgor Alawon Gwerin yr Eisteddfod eleni.
  • Moira Lewis – Un o rocesi Wdig ac ardal Abergwaun. Cyfrannodd lawer i’w milltir sgwâr ac ar draws y byd trwy hyrwyddo canu gwerin a cherddoriaeth draddodiadol Cymru, gan deithio i amryw o wledydd gan gynnwys Llydaw, Iwerddon, Lithuania, Barbados a’r UDA.
  • Iwan Morgan, Blaenau Ffestiniog – cyn brifathro sy'n gefnogwr brwd o’r Eisteddfod ers blynyddoedd, a  lladmerydd pwysig i gerdd dant, gan gymryd rhan flaenllaw yng ngwaith Cymdeithas Cerdd Dant Cymru, yr Wyl Gerdd Dant, a llu o sefydliadau a chymdeithasau eraill. Yn gyn-aelod o dimau Talwrn Ardudwy a’r Moelwyn, bu hefyd yn olygydd papur bro lleol ei ardal, Llafar Bro am flynyddoedd, ac yn gweithredu eto fel cyd-olygydd ers 2008.
  • Eiry Palfrey, Y Barri – Yn athrawes brofiadol, mae’n aelod o fwrdd Trac, y corff sy’n gyfrifol am ddatblygu traddodiadau gwerin yng Nghymru, Fforwm Menter y Fro, ac mae’n gadeirydd Cymdeithas Dawns Werin Cymru. Mae'n adnabyddus i Gymru gyfan fel perfformiwr, awdur a chynhyrchydd / cyfarwyddwr, ac mae hefyd yn awdur llwyddiannus ym myd drama, dramâu dogfen, ffilmiau ac wedi ysgrifennu llyfrau i blant
  • Robert Parry, Wrecsam – Cenhadwr a gweinidog a fagwyd ym Morfa Rhuddlan. Cyfrannodd yn helaeth i fywyd diwylliannol, cymdeithasol a chrefyddol Cymreig ardal Birmingham yn ystod ei gyfnod yno. Mae Robert yn gerddor medrus a bu’n organydd swyddogol yr Eisteddfod Genedlaethol ym Maldwyn yn 2003 ac yn Wrecsam a’r Fro yn 2011.
  • Gwilym Prichard, Dinbych y Pysgod – Yn wreiddiol o Llanystumdwy, bu'n athro yn Ysgol Gyfun Llangefni cyn iddo fentro fel artist llawn amser. Mae wedi arddangos ei waith yn y Brifwyl nifer fawr o weithiau. Fe’i anrhydeddwyd gan amryw o sefydliadau, gan gynnwys Academi Gelf, Gwyddoniaeth a Llythyrau Ffrainc, a Phrifysgol Bangor am ei gyfraniad arbennig i gelf weledol.
  • Alwena Roberts, Pwllheli – Yn wreiddiol o Lanerfyl, Maldwyn. Bu’n arwain a hyfforddi Côr Merched y Garth pan yn byw ym Mhontypridd, gan ennill llu o wobrau yn yr Eisteddfod a’r Wyl Gerdd Dant. Ers symud i ardal Pwllheli, sefydlodd Côr Gwrtheyrn, sy’n arbenigo mewn cerdd dant. Mae’i gwaith fel athrawes delyn deithiol gyda Gwasanaeth Ysgolion William Mathias yng Ngwynedd wedi ysbrydoli a rhoi’r hyder i lawer o ddisgyblion ddatblygu gyrfaoedd fel telynorion proffesiynol.
  • Huw Alan Roberts, Morfa Bychan – Fe dreuliodd ei yrfa waith fel athro Cemeg Ffisegol brwdfrydig ac ymarferol cyn dod yn ddirprwy bennaeth Ysgol Dyffryn Nantlle, Pen-y-groes, ond roedd cerddoriaeth yn agos at ei galon drwy’r blynyddoedd. Mae'n un o gyfeilyddion mwyaf adnabyddus gogledd Cymru ar ôl treulio deugain mlynedd yn canu’r piano i gantorion mewn gwyliau bychain.
  • Trebor Roberts, Cerrigydrudion – Daeth yn aelod o Gymdeithas Dramâu Uwchaled yn 1984 lle bu’n actio am flwyddyn cyn iddo droi’i law at gynhyrchu, gan barhau i wneud hyn dros y ddeng mlynedd ar hugain ddiwethaf.  Mae wedi cynhyrchu a golygu sawl ffilm fer o’r fro dros y blynyddoedd, gyda rhai’n gofnod hanesyddol ac eraill yn ffwlbri llwyr ar ffurf comedi.
  • Gillian Thomas, Llandeilo – Gwraig fferm amryddawn a phrysur, sydd wedi dysgu’r ffidil i nifer fawr o blant Sir Gâr gan hyfforddi amryw i chwarae yng Ngherddorfa Ieuenctid Cymru a phellach dros y blynyddoedd. Mae’n mwynhau gweithio a threulio amser gyda phobl ifanc, ac yn barod iawn ei chymwynas gyda Chlwb Ffermwyr Ifanc Llangadog am gyfnod o bron i ugain mlynedd

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1.  Ffigurau Ymwelwyr 2015. Eisteddfod Genedlaethol. Adalwyd ar 4 Awst 2016.
  2. "Gorymdaith i ddathlu cyhoeddi Eisteddfod 2015". BBC Cymru Fyw. bbc.co.uk.
  3. "Hywel Griffiths yn ennill Cadair Eisteddfod 2015". BBC Cymru Fyw. 2015-08-07. Cyrchwyd 2025-08-02.
  4. "Cadair Meifod yn creu hanes". BBC Cymru Fyw. 2015-07-01. Cyrchwyd 2025-08-02.
  5. "Coron Meifod i Manon Rhys". BBC Cymru Fyw. 2015-08-03. Cyrchwyd 2025-08-02.
  6. "Tlws y Cerddor i Osian Huw Williams". BBC Cymru Fyw. 2015-08-05. Cyrchwyd 2025-08-02.
  7. "Wyn Mason yn ennill y Fedal Ddrama". BBC Cymru Fyw. 2015-08-06. Cyrchwyd 2025-08-03.
  8. "Urddo aelodau newydd yr Orsedd ym Meifod". BBC Cymru Fyw. 2015-08-07. Cyrchwyd 2025-08-03.
  9. "Anrhydeddau 2015 – Gorsedd Cymru". 2016-07-21. Cyrchwyd 2025-08-03.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]