Eisaku Satō

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Eisaku Sato)
Eisaku Satō
Eisaku Satō
Ganwyd27 Mawrth 1901 Edit this on Wikidata
Tabuse Edit this on Wikidata
Bu farw3 Mehefin 1975 Edit this on Wikidata
o gwaedlif ar yr ymennydd Edit this on Wikidata
The Jikei University Hospital Edit this on Wikidata
DinasyddiaethJapan Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth i Raddedigion Prifysgol Tokyo
  • Fifth High School
  • Yamaguchi Prefectural Yamaguchi High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
Swyddaelod o Dŷ Cynrychiolwyr Japan, Minister of Construction, Prif Ysgrifennydd y Cabinet, Prif Weinidog Japan, Prif Weinidog Japan, Prif Weinidog Japan Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Ministry of Railways Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolY Blaid Ryddfrydol Ddemocrataidd Edit this on Wikidata
TadHidesuke Satō Edit this on Wikidata
MamShigeyo Satō Edit this on Wikidata
PriodHiroko Satō Edit this on Wikidata
PlantSatō Shinji Edit this on Wikidata
PerthnasauYōko Abe, Hironobu Abe, Masashi Adachi, Yōsuke Matsuoka, Nobuo Kishi, Shinzō Abe, Shintarō Abe Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Heddwch Nobel, Uwch-Groes Urdd Isabel la Católica, Uwch Cordon Prif Urdd yr Eurflodyn, Collar of the Supreme Order of the Chrysanthemum Edit this on Wikidata
llofnod

Gwleidydd Japaneaidd oedd Eisaku Satō (27 Mawrth 19013 Mehefin 1975) a wasanaethodd yn Brif Weinidog Japan o 1964 i 1972, fel aelod o'r Blaid Ddemocrataidd Ryddfrydol (Jimintō). Enillodd Wobr Heddwch Nobel ym 1974 "am ei gyfraniad at sefydlogi amodau yn ardal y Cefnfor Tawel ac am arwyddo'r Cytundeb Atal Amlhau Niwclear".[1]

Ganed ef yn Tabuse yn Nhalaith Yamaguchi yn ne-orllewin ynys Honshū, yn ystod oes Ymerodraeth Japan. Wedi iddo raddio yn y gyfraith o Brifysgol Ymerodrol Tokyo ym 1924, gweithiodd Satō i Weinyddiaeth y Rheilffyrdd. Penodwyd yn bennaeth ar swyddfa reoli'r weinyddiaeth ym 1941, ac yn is-weinidog cludiant ym 1948. Ymaelododd â'r Blaid Ryddfrydol ym 1948, a fe'i etholwyd i siambr isaf y Cynulliad Cenedlaethol ym 1949. Penodwyd yn weinidog dros adeiladu ym 1952, ac ym 1953 ymddiswyddodd o'r weinyddiaeth honno er mwyn dod yn brif ysgrifennydd y Blaid Ryddfrydol. Yn sgil uno'r honno â Phlaid Ddemocrataidd Japan ym 1955, Satō oedd un o'r aelodau blaenllaw yn y Blaid Ryddfrydol Ddemocrataidd (Jimintō) newydd. Gwasanaethodd yn weinidog ariannol dan ei frawd hŷn, y Prif Weinidog Nobusuke Kishi, o 1958 i 1960, ac yn weinidog masnach ryngwladol a diwydiant yng nghabinet Hayato Ikeda o 1961 i 1962.

Yn sgil ymddiswyddo Ikeda oherwydd afiechyd, etholwyd Satō i'w olynu yn Nhachwedd 1964. Yn ystod ei brifweinidogaeth, cryfhaodd economi Japan a cheisiodd Satō wella cysylltiadau rhwng ei wlad a gwledydd eraill yn Asia—gan gynnwys adfer cysylltiadau diplomyddol â De Corea ym 1964—er i Weriniaeth Pobl Tsieina ei amau. Sicrhaodd gytundeb ym 1969 â Richard Nixon, Arlywydd Unol Daleithiau America, i ddychwelyd Ynysoedd Ryukyu i Japan ac i wahardd arfau niwclear o'r ardal honno. Derbyniodd ymateb chwyrn, fodd bynnag, achos byddai lluoedd Americanaidd yn parhau ar ynys Okinawa. Bu ei boblogrwydd ar drai yn nechrau'r 1970au, yn enwedig wedi taith Nixon i Tsieina yn Chwefror 1972 a wnaeth achub y blaen ar ei ymdrechion diplomyddol i adfer cysylltiadau rhwng Japan a Tsieina.[2]

Ychydig amser wedi i Ynysoedd Ryukyu gael eu dychwelyd i Japan, ymddiswyddodd Satō ym Mehefin 1972. Ym 1974, dyfarnwyd iddo dderbyn Gwobr Heddwch Nobel, i gydnabod ei waith dros atal amlhau niwclear yn y Cefnfor Tawel. Satō oedd un o ddau gyd-enillydd y flwyddyn honno; rhoddwyd y wobr hefyd i Seán MacBride.[1] Bu farw Eisaku Satō yn Tokyo yn 74 oed.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) "The Nobel Peace Prize 1974", Sefydliad Nobel. Adalwyd ar 9 Gorffennaf 2022.
  2. (Saesneg) Satō Eisaku. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 9 Gorffennaf 2022.