Egmont

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Gosodwyd Egmont, ail ddrama Goethe, yn yr 16g. Dewisiodd y cyfnod hwn am ei fod yn credu bod mwy o gyfle i fod yn arwrol yn y cyfnod hwnnw nac yn ei gyfnod ei hun. Wrth osod y ddrama yn yr 16g 'mae Goethe yn cadw'n driw at hanes. Yn hanesyddol, arwr rhyddid cenedlaethol Yr Iseldiroedd yn erbyn rheolaeth Sbaenaidd oedd Egmont. Digwyddiadau chwyldroadol yn Yr Iseldiroedd ym 1786 sy'n ganolog i'r ddrama. Ni chadwodd Goethe yn gaeth at hanes wrth ysgrifennu'r ddrama fodd bynnag er iddo geisio. Fel y dywedodd mewn llythyr, "Ich hielt mich sehr treu an die Geschichte und strebte nach möglichster Wahrheit" (E.T.Larkin, Goethe's Egmont: Political Revolution and Personal Transformation, (Michigan Germanic Studies, 1991)).

Yn ddiamheuaeth, 'mae Egmont yn arwr milwrol. Yn yr olygfa gyntaf, canmolir Egmont ar ei ddewrder a'i allu milwrol mewn brwydrau. Ei arwroldeb a'i rym militaraidd yw'r pethau cyntaf a gyflwynir i ni. Gwelwn fod ganddo ffafr ac ewyllys da ei ddynion ac y maent yn yfed ei iechyd yn aml. 'Mae milwyr yn ysu i'w wasanaethu ac y mae'n filwr cryf ac effeithiol.

Ceir hyd yn oed awgrym eu bod am iddo ef, fel Iseldirwr yn hytrach na Sbaenwr, i'w rheoli ac y maent yn datgan eu casïneb tuag at y Sbaenwyr. 'Maent oll mewn cariad â'r ffigwr cyhoeddus o Egmont, fel y mae Klärchen ei gariad hefyd. Mae wrth ei bodd pan wêl Egmont wedi'i wisgo yn ei wisg milwrol a'i fedalau. 'Mae'n fonheddwr sydd wedi derbyn y Cnu Aur gan y brenin sy'n dangos ei awdurdod absoliwt. 'Mae'r werin yn derbyn ac yn edmygu ei awdurdod. Yn yr ail act, gwelwn ef yn tawelu'r bobl rhag dechrau terfysgu a chredu mewn protestaniaeth.

Cyfansoddodd Beethoven agorawd a cherddoriaeth achlysurol i'r ddrama ym 1809.