Eglwys y Santes Fair, Owrtyn

Oddi ar Wicipedia
Eglwys y Santes Fair
Matheglwys Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadOwrtyn Edit this on Wikidata
SirOwrtyn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr67 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.97°N 2.93459°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II* Edit this on Wikidata
Cysegrwyd iy Forwyn Fair Edit this on Wikidata
Manylion

Lleolir Eglwys y Santes Fair ynghanol pentref Owrtyn ym mwrdeistref sirol Wrecsam, ar y Stryd Fawr. Fe'i amgylchir gan goed yw, sydd yn un o Saith Rhyfeddod Cymru. Credir yr adeiladwyd yr eglwys cyntaf ar y safle yn y 12g. Mae croes Normanaidd yn bodoli, yn rhan o bilar ar ochr orllewinol yr eglwys bresennol. Adeiladwyd tŵr yr eglwys bresennol yn hwyr yn y 14g. Adeiladwyd corff fwy i’r eglwys yn ystod y 15g, a changell fwy yn y 18g. Roedd newidiadau ehangach yn y 19eg ganrif.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Cynllun asesu a rheoli ardal cadwriaeth Owrtyn" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2017-03-18. Cyrchwyd 2018-10-05.