Eglwys yr Holl Saint, Gresffordd

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Eglwys Gresffordd)
Eglwys yr Holl Saint
Matheglwys Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 13 g Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadGresffordd Edit this on Wikidata
SirGresffordd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr75.3 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.088°N 2.97724°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata
Cysegrwyd igŵyl (yr) Hollsaint Edit this on Wikidata
Manylion

Eglwys o'r 13g, gyda'i glychau'n un o Saith Rhyfeddod Cymru ydyw Eglwys yr Holl Saint, Gresffordd. Cyfeiriodd dogfen hynafol, erbyn hyn ar goll, at yr eglwys, gan ddweud bod Trahaearn ap Ithel ap Eunydd a'i bump brawd wedi sefydlu'r eglwys ac wedi rhoi'r tir ar ei gyfer. Ychwanegwyd ystlys, ymestynwyd y gangell ac ychwanegwyd claddgell yn 14g.

Dymwchwelwyd yr hen eglwys yn 15g, ac adeiladwyd yr eglwys bresennol. Cadwyd rhannau'n unig o'r waliau gorllewinol a dwyreiniol. Adeiladwyd yr eglwys gyda thywodfaen o ardal Cefn. Tu mewn yr eglwys mae corffddelw, Madog ap Llywelyn ap Gruffudd, yn fwy na thebyg. Hefyd, mae cerflun hynafol o Atropos ar hen allor Rhufeinig[1], cerflun o Syr David Hanmer (tad yng nghyfraith i Owain Glyn Dŵr) a llechen ar gof Goronwy ap Iorwerth. Yn ymyl y drws gogleddol, mae cofeb i'r 266 o fechgyn lleol a laddwyd yn nhrychineb Gresffordd[2]

Yn ôl hen rigwm, mae clychau'r eglwys yn un o Saith Rhyfeddod Cymru.[2]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolen allanol[golygu | golygu cod]