Eglwys Ddiwygiedig Efengylaidd yn Sweden

Oddi ar Wicipedia

Sefydlwyd yr Eglwys Ddiwygiedig Efengyglaidd yn Sweden (Swedeg: Evangelisk-reformerta kyrkan i Sverige, ERKIS) drwy gymorth cenhadon Mission to the World, asiantaeth genhadol Eglwys Bresbyteraidd America. Mae ganddi ddwy eglwys yn Stockholm a Tranås.[1] Daeth y ddwy yn rhan o henaduriaeth yr Eglwys Bresbyteraidd Efengylaidd yng Nghymru a Lloegr yn 2009.

Dechreuwyd y gwaith yn 2000 gan y Parch. Gary Johnson o Eglwys Bresbyteraidd America a'r Parch. David Bergmark, Swediad a hyfforddwyd yn yr Athrofa Ddiwynyddol Ddiwygiedig yn Jackson, Mississippi. Symudodd y Parch. Gary Johnson a'i deulu o Sweden a'r gwaith yn eglwys Tranås yn 2010.

Mae gan yr eglwys gysylltiadau â'r Eglwysi Diwygiedig Rhydd yn yr Iseldiroedd ac Eglwys Rydd yr Alban.

Cyffes Ffydd Westminster yw ei datganiad ffydd swyddogol.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Congregations | Evangelical Reformed Church in Sweden, Tranås". EPCEW. 2009-02-23. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-11-12. Cyrchwyd 2013-11-12.
  2. "Q & A | Evangelisk-reformerta kyrkan i Sverige". Erkis.se. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-07-06. Cyrchwyd 2013-11-12.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]