Edward Robert Hughes

Oddi ar Wicipedia
Edward Robert Hughes
Ganwyd5 Tachwedd 1851 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw23 Ebrill 1914 Edit this on Wikidata
St Albans Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaetharlunydd Edit this on Wikidata

Arlunydd oedd Edward Robert Hughes RWS (5 Tachwedd 185123 Ebrill 1914) a weithiai gan mwyaf gyda'r cyfrwng dyfrlliw a gouache. Dylanwadwyd arno gan ei ewyrth, y Cyn-Raffaëliad Arthur Hughes. Roedd symboliaeth yn chwarae rhan bwysig yn ei luniau yn ogystal ag ei astudiaeth fanwl o fyd natur, techneg a amlygir yng ngwaith y Cyn-Raffaëliaid; chwaraeai esthetigaeth hefyd ran flaenllaw yn ei waith. Caiff ei adnabod yn bennaf am ei luniau Midsummer Eve a Night With Her Train of Stars ond ei fara beunyddiol o ddydd i ddydd oedd portreadau o Saeson dosbarth canol.[1]

Ymhlith y lluniau a greodd ar y cyd â Hunt y mae The Light of the World a The Lady of Shalott.

Y dyddiau cynnar[golygu | golygu cod]

Astudiodd yn Heatherley, Llundain ac yna yn 1868 fe'i derbyniwyd fel myfyriwr i'r Academi Gelf Frenhinol.[2]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Bu Hughes yn brentis i arlunwyr fel Edward Burne-Jones, a William Holman Hunt am rai blynyddoedd gan ei gynorthwyo i baentio lluniau fel The Light of the World, sydd heddiw'n hongian yn Eglwys Gadeiriol Sant Paul, Llundain.

Arddangosodd ei waith yn Dudley Museum and Art Gallery, Grosvenor Gallery, New Gallery, Royal Academy of Arts, a thua diwedd ei yrfa arddangosodd ei waith gyda The Royal Society of Painters in Water Colours (RWS).[3]

Dyweddiodd gyda merch George Macdonald ychydig cyn iddi farw.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Osborne, Victoria Jean (Hydref 2009). A British Symbolist in Pre-Raphaelite Circles: Edward Robert Hughes RWS (1851-1914). JStor: The University of Birmingham. t. 17.
  2. Osborne, Victoria Jean (2009). A British Symbolist in Pre-Raphaelite Circles: Edward Robert Hughes RWS (1851-1914). Project Muse: The University of Birmingham. t. 11.
  3. Osborne, Victoria Jean (October 2009). A British Symbolist in Pre-Raphaelite Circles: Edward Robert Hughes RWS (1851-1914). Jstor: The University of Birmingham. t. 1.
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: