Neidio i'r cynnwys

Edward Rees

Oddi ar Wicipedia
Edward Rees
GanwydEdward Rees
16 Gorffennaf 1904
Porthmadog
Bu farw4 Ionawr 2000
Porthaethwy
Alma materPrifysgol Cymru, Bangor
GalwedigaethCyfarwyddwr Addysg Sir Ddinbych a Dramodydd

Dramodydd buddugol Tlws y Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bae Colwyn 1947 oedd Edward Rees (16 Gorffennaf 19044 Ionawr 2000)[1], am ei ddrama Plas Madog. Er na'i henwir yn y Cyfansoddiadau a Beirniadaethau ar gyfer 1947, noda'r Western Mail [7 Awst 1947] mai enw'r buddugol oedd "Edward Rees", a'i fod yn "Gyfarwyddwr Addysg i Sir Ddinbych".[2]

Yn y Liverpool Echo [6 Awst 1947] nodwyd mai o Rhuthun oedd y buddugol, ac mai dyma ei ymgais gyntaf ar gyfansoddi drama. Cyfaddefodd hefyd nad oedd wedi dweud wrth unrhyw un, gan gynnwys ei wraig, ei fod wedi cystadlu, gan na freuddwydiodd y byddai wedi ennill y Tlws.[3]

Yn enedigol o Borthmadog, graddiodd o Brifysgol Cymru, Bangor.[4] Wedi astudio am ei Radd M.A, cafodd ei benodi yn athro Mathemateg yn Ysgol Dinefwr, Abertawe. [4] Bu'n athro am 9 mlynedd [5] cyn ei benodi yn Gyfarwyddwr Addysg Sir Ddinbych ym 1939.[4]

Priododd Llywela Pugh (1907 – 1970) ym 1933, a ganwyd iddynt [o leiaf] 2 o blant.[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 "Ancestry - Sign in". www.ancestry.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-10-23.
  2. "Eisteddfod". Western Mail. 7 Awst 1947.
  3. "First Play wins Gold Medal". Liverpool Echo. 6 Awst 1947.
  4. 4.0 4.1 4.2 "Wrote prize-winning drama in secret". Liverpool Evening Express. 6 Awst 1947.
  5. "Prize for Director of Education". Herald of Wales. 9 Awst 1947.