Edward Parry

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Edward Parry
Ganwyd 1723 Edit this on Wikidata
Llansannan Edit this on Wikidata
Bu farw 16 Medi 1786 Edit this on Wikidata
Llansannan Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth Actor, gweinidog, Gwaith y saer Edit this on Wikidata

Bardd Cymreig oedd Edward Parry (1723 - 16 Medi 1786).[1] Saer ydoedd a chyfoeswr i Twm o'r Nant (Thomas Edwards); roedd hefyd yn un o'i brif actorion yn ei anterliwtiau.

Fe'i ganwyd yn Llys Bychan, Llansannan, (Sir Ddinbych yr adeg honno; Bwrdeisdref Sirol Conwy, bellach) a bu'n byw yng Nghefn Byr ac yn Nhan y Fron. Yn 1747 croesawodd diwygwyr crefyddol i'w dŷ a throdd ei gefn ar wagedd yr anterliwtiau gan ddechrau pregethu yn yr eglwys. Symudodd o Dan y Fron i Fryn Bugad ac ailymunodd gyda'r Methodistiaid.

Yn 1773 cododd gapel yn Nhan y Fron ar ei dir ei hun. Yn 1764 cyhoeddodd, gyda Twm o'r Nant a David Jones, Llansannan, Y Perl Gwerthfawr. Yn 1767 cyhoeddodd Agoriad i Athrawiaeth y Ddau Gyfamod a ailargraffwyd yn 1781. Yn 1789 cyhoeddwyd Ychydig Hymnau, a oedd yn cynnwys y ddau emyn 'Caned nef a daear lawr' a 'Plant afradlon at eich Tad'. Bu farw ar 16 Medi 1786, yn 63 mlwydd oed, a chladdwyd ef ym mynwent eglwys Llansannan.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Y Perl Gwerthfawr (1764, gyda Twm o'r Nant)
  • Agoriad i Athrawiaeth y Ddau Gyfamod (1767)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]