Edward Jones (meddyg Dolgellau)
Edward Jones | |
---|---|
Dr Jones Tua 1889 | |
Ganwyd | 21 Ionawr 1834 Dolgellau |
Bu farw | 5 Chwefror 1900 Dolgellau |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | meddyg, cynghorydd |
Roedd Dr Edward Jones (21 Ionawr 1834 – 5 Chwefror 1900) yn Feddyg Teulu yn Nolgellau a wasanaethodd fel Cadeirydd cyntaf Cyngor Sir Feirionnydd.[1]
Cefndir
[golygu | golygu cod]Ganwyd Dr Jones yn Nolgellau yn blentyn i Hugh Jones, peintiwr a gwydrwr tai, ac Ann ei wraig. Cafodd ei fedyddio yn Eglwys St Mair Dolgellau ar 16 Chwefror 1834.[2] Cafodd ei addysgu yn Ysgol Ramadeg Dolgellau a Phrifysgol Glasgow.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Wedi ymadael a'r ysgol dechreuodd Jones weithio gyda'i dad yn y busnes cynnal tai. Roedd y gwaith yn effeithio ar ei iechyd a barnai fferyllydd Dolgellau, Oliver Rees, oedd yn darparu moddion iddo ar gyfer ei iechyd na fyddai'n byw yn hir pe na chai swydd wahanol. Aeth yn brentis cynorthwyydd meddygol i Dr Lloyd, Plasbrith Dolgellau. Wedi darfod ei bedair blynedd o brentisiaeth yn llwyddiannus cafodd nawdd i barhau ei addysg feddygol ym Mhrifysgol Glasgow. Cymhwysodd fel meddyg a derbyniodd Gradd MD o Brifysgol St Andreas. Dychwelodd i Ddolgellau i sefydlu practis meddygol ar gyfer ardal eang oedd yn gwasanaethu pobman rhwng Trawsfynydd a Chorris.
Yn ogystal â gweithio fel meddyg teulu cyffredinol gwasanaethodd Dr Jones fel brechwr cyhoeddus cylch Dolgellau o dan Ddeddf Brechu 1868 [3] ac fel meddyg Wyrcws a thlodion Dolgellau o dan y deddfau tlodi.
Galwyd arno yn aml i archwilio cyrff y meirw ar gyfer y crwner ac i roi ei farn am achos eu marwolaethau mewn trengholiadau. Bu hefyd yn rhoi tystiolaeth feddygol i'r llysoedd mewn achosion troseddol. Roedd yn un o'r meddygon a fu'n cynorthwyo wedi damwain trên angheuol ar 1 Ionawr 1883 ger y Friog.[4]
Gwasanaeth cyhoeddus
[golygu | golygu cod]Ers yn ifanc, cyn iddo fynd i'r Brifysgol yng Nglasgow roedd Jones yn Rhyddfrydwr brwd.[5] Bu'n un o sefydlwyr Cymdeithas Ryddfrydol Meirion gan wasanaethu, bron yn ddi-dor o'i sefydlu hyd ei farw ef fel ei lywydd. Bu'n weithgar wrth sicrhau cipio Meirion o ddwylo'r Ceidwadwyr gan David Williams, Castell Deudraeth ym 1868 [6] a'i chadw yn sedd Ryddfrydol wedi hynny. Roedd yn gweithredu fel cyfieithydd dros yr ASau di Gymraeg Samuel Holland a Henry Robertson ac yn aml yn cael mwy o hwyl wrth draddodi cyfieithiadau o'u areithiau nag oeddynt hwy yn cael yn eu traddodi yn y gwreiddiol. Bu bygwth rhwyg yn yr achos Rhyddfrydol yn y sir ym 1885 pan benderfynodd rhai aelodau i godi Morgan Lloyd, Cymro Cymraeg o gefndir gwerinol, i herio'r diwydiannwr cefnog di-gymraeg o Sgotyn Henry Robertson. Roedd Edward Jones yn gyfrwng pwysig wrth geisio gwella'r rhwyg. Gwasanaethodd fel un o Gynrychiolwyr Cymru ar Bwyllgor Gweithredol y Ffederasiwn Rhyddfrydol Prydeinig. Pan fu farw Tom Ellis a phan roddodd Syr O. M. Edwards [7] gwybod nad oedd am ail sefyll ar gyfer Tŷ'r Cyffredin bu bwysau lawer ar Jones i sefyll yn eu lle ond fe wrthododd y cynigion.[8]
Fe'i hetholwyd yn gadeirydd cyntaf Cyngor Sir Feirionnydd,[9] a hyd at ei farwolaeth gwasanaethodd fel cadeirydd Cydbwyllgor yr Heddlu.[10] Roedd yn aelod o'r Cydbwyllgor Addysg, a luniodd y cynllun addysg ganolraddol ar gyfer y sir ar ôl pasio Deddf Addysg Cymru, 1889. O'r cyntaf roedd wedi bod yn gadeirydd Corff Llywodraethwyr Sir Feirionnydd, ac wedi gweithio'n ddiflino dros achos addysg uwchradd yn y sir. Roedd wedi bod yn un o'r prif symudwyr wrth sefydlu Ysgol Dr Williams i ferched yn Nolgellau, ac o'r cychwyn roedd wedi cymryd y brif gyfran yn ei rheolaeth. Bu hefyd yn flaenllaw wrth sicrhau adeiladau Ysgol Sirol y bechgyn Dolgellau i gymryd lle'r hen Ysgol Ramadeg bychan ac adfail.[11] Mae rhan o'r campws bu'n rhan o'i sefydlu yn dal i gael ei ddefnyddio gan adran uwchradd Ysgol Bro Idris.
Gwasanaethodd fel Ynad Heddwch dros Sir Feirionnydd. Roedd yn aelod blaenllaw o'r Methodistiaid Calfinaidd a gwasanaethodd fel blaenor yng Nghapel Salem Dolgellau am dros chwarter Canrif.
Teulu
[golygu | golygu cod]Ym 1859 priododd Jones ag Ann Jones, merch John Jones, gwneuthurwr menig, Dolgellau. Fu iddynt saith o blant, chwe mab ac un ferch. Olynodd dau o'r meibion, Dr John Jones a Dr Hugh Jones eu tad fel meddygon teulu yn Nolgellau.[12]
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Ar ddechrau mis Chwefror 1900 cafodd Dr Jones pwl o'r ffliw a drodd yn niwmonia ac a arweiniodd at ei farwolaeth yn ei gartref, Caerffynnon, Dolgellau yn 66 mlwydd oed. Claddwyd ei weddillion ym mynwent gyhoeddus newydd y dref; mynwent y bu ef yn gyfrifol am ei sefydlu.[13]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Griffiths, R., (2012). JONES, EDWARD (1834-1900), meddyg ac arweinydd llywodraeth leol. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 15 Hyd 2020
- ↑ Gwasanaethau Archifau Cymru Cofrestri Plwyf Dolgellau; Bedyddiadau 1834, tud 152, rhif 1211
- ↑ "DOLGELLEY - The North Wales Chronicle and Advertiser for the Principality". Kenmuir Whitworth Douglas. 1868-03-28. Cyrchwyd 2020-10-15.
- ↑ "Y Ddamwain ar Reilffordd y Cambrian - Y Dydd". William Hughes. 1883-01-12. Cyrchwyd 2020-10-15.
- ↑ "Dr Edward Jones - Y Genedl Gymreig". Thomas Jones. 1889-04-03. Cyrchwyd 2020-10-15.
- ↑ "DOLGELLAU - Y Dydd". William Hughes. 1868-11-13. Cyrchwyd 2020-10-15.
- ↑ "OLYNYDD MR O M EDWARDS - Tarian Y Gweithiwr". Mills, Lynch, & Davies. 1900-01-25. Cyrchwyd 2020-10-15.
- ↑ "MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH Y Dr EDWARD JONES DOLGELLAU - Y Genedl Gymreig". Thomas Jones. 1900-02-13. Cyrchwyd 2020-10-15.
- ↑ "DR EDWARD JONES DOLGELLAU - Y Cymro". Isaac Foulkes. 1900-02-08. Cyrchwyd 2020-10-15.
- ↑ "PWYLLGOR HEDDLU MEIRION - Y Dydd". William Hughes. 1900-01-12. Cyrchwyd 2020-10-15.
- ↑ "DEATH OF MR EDWARD JONES DOLGELLEY - Carnarvon and Denbigh Herald and North and South Wales Independent". James Rees. 1900-02-09. Cyrchwyd 2020-10-15.
- ↑ "Marwotaeth Dr EDWARD JONES UH Dolgellau - Y Goleuad". John Davies. 1900-02-07. Cyrchwyd 2020-10-15.
- ↑ "Gladdedigaeth Dr Edward Jones Dolgellau - Y Goleuad". John Davies. 1900-02-14. Cyrchwyd 2020-10-15.