Edward Herbert

Oddi ar Wicipedia
Edward Herbert
Ganwyd3 Mawrth 1583, 1583 Edit this on Wikidata
Eyton on Severn Edit this on Wikidata
Bu farw20 Awst 1648, 5 Awst 1648, 1648 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethathronydd, bardd, diplomydd, hanesydd, milwr, gwleidydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
SwyddAelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Aelod o Senedd 1601, Aelod o Senedd 1604-1611 Edit this on Wikidata
TadRichard Herbert Edit this on Wikidata
MamMagdalen Herbert Edit this on Wikidata
PriodMary Herbert Edit this on Wikidata
PlantRichard Herbert, Anhysbys Herbert, Anhysbys Herbert, merch anhysbys Herbert, merch anhysbys Herbert Edit this on Wikidata
Edward Herbert neu'r Barwn Herbert o Cherbury: "Tad athroniaeth yng Nghymru".

Roedd Edward Herbert (3 Mawrth 158320 Awst 1648) neu'r Barwn Herbert o Llanffynhonwen yn llenor ac yn athronydd a anwyd yn Swydd Amwythig. Mae ei waith Life yn dilyn ei deithiau o gwmpas yr Iseldiroedd ac fel llysgennad yn Ffrainc. Yn De Viritate (1623) dadleuodd fod rheswm yn holl bwysig o fewn y ffydd Gristnogol ac ar sail y gwaith hwn y sefydlwyd deistiaeth. Roedd yn frawd i'r bardd George Herbert. Ei ŵyr oedd sylfaenydd y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Priododd ei gyfnither cyntaf, Mary pan oedd yn 15 oed a hithau'n 21. Fe'i addysgwyd yn Rhydychen lle dysgodd Ffrangeg, Eidaleg a Sbaeneg.

Gellir ei alw'n "dad athroniaeth Gymreig"[angen ffynhonnell]; roedd ei dad Richard Herbert o Gastell Trefaldwyn, un o ganghennau Iarllaeth Penfro. Bu hefyd yn Aelod Seneddol dros Feirionnydd ac yn ynad a siryf Mynwy.

Llyfryddiaeth ddethol[golygu | golygu cod]

  • De Religione Gentilium (1645; fersiwn Saesneg, 1700)
  • De Viritate (1623)
  • Life (llawysgrif; cyhoeddwyd am y tro cyntaf yn y 18fed ganrif)


Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.