Eduardo Barrios

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Eduardo Barrios
Eduardo Barrios.jpg
Ganwyd 25 Hydref 1884 Edit this on Wikidata
Valparaíso Edit this on Wikidata
Bu farw 13 Medi 1963 Edit this on Wikidata (78 oed)
Santiago de Chile Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Tsile Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Bernardo O'Higgins Military School Edit this on Wikidata
Galwedigaeth Ysgrifennwr, Bardd Edit this on Wikidata
Swydd Minister of Education of Chile Edit this on Wikidata
Gwobr/au Gwobr Atenea, Gwobr Genedlaethol am Lenyddiaeth Edit this on Wikidata

Nofelydd ac awdur straeon byrion Tsileaidd yn yr iaith Sbaeneg oedd Eduardo Barrios (25 Hydref 188413 Medi 1963) sy'n nodedig am ei nofelau seicolegol.

Ganwyd yn Valparaíso, Tsile, a mynychodd yr ysgol yn Lima, Periw. Dychwelodd i Tsile ac astudiodd yn yr Academi Filwrol yn Santiago de Chile. Gweithiodd yn swyddi masnachwr, asiant yn y diwydiant rwber, a chwiliwr adnoddau mewn sawl gwlad yn America Ladin. Ymsefydlodd yn Santiago yn 1913, ac yno gwasanaethodd yn weinidog addysg gyhoeddus ac yn gyfarwyddwr Llyfrgell Genedlaethol Tsile.[1]

Cychwynnodd ar ei yrfa lenyddol gyda Del natural (1907), casgliad o straeon byrion naturiolaidd sy'n dangos dylanwad Émile Zola arno. Ymhlith ei nofelau mae El niño que enloqueció de amor (1915), Un perdido (1918), El hermano asno (1922). Tamarugal (1944), a Gran señor y rajadiablos (1948). Ymhlith ei weithiau eraill mae cyfres o sgetshis hunangofiannol, Páginas de un pobre diablo (1923), ac astudiaeth nofelaidd o seicoleg dynol, Los hombres del hombre (1950).

Bu farw yn Santiago yn 78 oed.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. (Saesneg) Eduardo Barrios. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 23 Mehefin 2019.